a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwerthu Cymru i'r Byd
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau
  6. Dadl Plaid Cymru - Penderfyniad Coridor yr M4
  7. Dadl Plaid Cymru - Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Ffermwyr
  8. Dadl Fer: Parcffordd Abertawe: y camau nesaf ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe?

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Rhagfyr 4.

    View more on twitter
  2. Dadl Fer: Parcffordd Abertawe

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Suzy Davies.

    A'r pwnc: "Parcffordd Abertawe: y camau nesaf ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe?"

    Mae Suzy Davies yn siarad am fudd gorsaf reilffordd newydd, i bobl yn y ddinas a'r holl ranbarth.

    Suzy Davies
  3. Cynnig ar daliadau uniongyrchol i ffermwyr yn cael ei ddiwygio

    Mae cynnig Plaid Cymru ar daliadau uniongyrchol i ffermwyr yn cael ei ddiwygio gan Lywodraeth Cymru a'r Ceidwadwyr.

    Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio yn cael ei basio.

    Roedd 28 o blaid, neb yn ymatal a 21 yn erbyn.

  4. Gwelliant Llywodraeth Cymru

    Ar ran y llywodraeth mae Lesley Griffiths yn cynnig y gwelliant yma:

    "Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:

    1. Yn nodi penderfyniad y DU i ymadael â’r UE ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’i system o gymorth i ffermydd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.

    2. Yn cefnogi:

    a. addewid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ffermwyr er mwyn eu cadw ar y tir a gwarchod ein cymunedau;

    b. nod Llywodraeth Cymru i ddylunio’r system orau ar gyfer rhoi cymorth i ffermydd yng Nghymru, a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar ar Brexit a’n Tir, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer cynhyrchu bwyd a chefnogaeth ar gyfer nwyddau cyhoeddus; and

    c. gwarant Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gymhorthdal incwm heb ymgynghori ymhellach, na fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu dylunio heb asesiad priodol o’u heffaith, ac na fydd unrhyw hen gynlluniau’n cael eu dileu cyn y bydd cynlluniau newydd yn barod.

    3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid ar gyfer ffermio o ganlyniad i ymadael â’r UE.

    4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol fel rhan o gyfnod pontio a fydd yn para sawl blwyddyn".

    Lesley Griffiths
  5. 'Rydw i'n erfyn ar ysgrifennydd y cabinet i beidio symud yn rhy gyflym'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud "Rydw i'n erfyn ar ysgrifennydd y cabinet i beidio symud yn rhy gyflym, er fy mod yn credu ei bod hi'n mynd yn y cyfeiriad cywir".

  6. Gwelliant y Ceidwadwyr

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Andrew RT Davies, sy'n ffarmwr ac a wnaeth bleidleisio o blaid Brexit, yn cynnig y gwelliant hwn:

    "Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

    Yn cydnabod o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac yn ystod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, fod nifer y ffermwyr a cynhyrchiant ffermydd wedi gostwng yng Nghymru.

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE i greu cynllun cymorth ffermio a gwledig sy'n gwasanaethu anghenion unigryw yr economi wledig ac amaethyddol yng Nghymru".

    Andrew RT Davies
  7. Ffarmwyr 'yn sefyll ar ochr clogwyn Brexit'

    Mae ffermwyr "yn sefyll ar ochr clogwyn Brexit ac mae Llywodraeth Cymru yn cymryd eu rhwyd ddiogel oddi arnyn nhw", medd Llyr Gruffydd Plaid Cymru.

    Llyr Gruffydd
  8. Y prif gymhorthdal i ffermwyr yn mynd i barhau am flwyddyn ychwanegol

    Yn gynharach yr wythnos yma fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Lesley Griffiths bod y prif gymhorthdal y mae ffermwyr yn ei dderbyn yn mynd i barhau am flwyddyn ychwanegol.

    Roedd y taliadau yn eu ffurf bresennol i fod i ddiflannu yn raddol o 2020 ymlaen.

    Ond cafwyd ymateb chwyrn i hynny gan undebau amaeth, oedd yn rhybuddio y gallai newid beryglu dyfodol y diwydiant.

    Dywedodd Lesley Griffiths y byddai'r estyniad yn sicrhau bod gan ffermydd ddigon o amser i baratoi ac addasu at ffordd newydd o weithio.

  9. Dadl: Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Ffermwyr

    Nawr dadl arall gan Blaid Cymru.

    A'r pwnc - Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Ffermwyr

    Mae nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi’r rhan hanfodol y mae cynllun y taliad sylfaenol yn ei chwarae ar hyn o bryd fel sylfaen i hyfywedd y fferm deuluol Gymreig, cymunedau gwledig ac economi ehangach Cymru, a phwysigrwydd taliadau uniongyrchol o ran rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnodau o ansicrwydd.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cefnogaeth i ffermio yng Nghymru yn cael ei thargedu at y ffermwyr gweithredol hynny sy’n cymryd y risg ariannol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw elfen o daliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr wedi Brexit.

    Ffermio
  10. Cynnig Plaid Cymru yn cael ei basio

    Mae ACau yn pasio (heb wrthwynebiad) cynnig Plaid Cymru bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    Yn credu mai'r Prif Weinidog newydd, a gaiff ei benodi ym mis Rhagfyr 2018, ddylai benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect coridor arfaethedig yr M4 o gwmpas Casnewydd, yn amodol ar ganfyddiadau'r ymchwiliad cyhoeddus lleol.

  11. 'Yn destun apêl ac adolygiad barnwrol, bron yn sicr'

    Fe fydd y penderfyniad yn ymwneud gyda'r cytundeb adeiladu yn un i'r prif weinidog newydd, medd Julie James.

    "Mae'n broses gymhleth. Mae hon yn broses a fydd yn destun apêl ac adolygiad barnwrol, bron yn sicr".

    Mae'n dweud ei bod hi'n llwyr ddisgwyl i'r prif weinidog newydd i ddal i gynnal dadl yn y Senedd.

  12. Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig Plaid Cymru

    Mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig Plaid Cymru.

    Mae'n dweud fe fydd Carwyn Jones "os yn bosib o gwbl" yn penderfynu ar y gorchmynion statudol i ganiatáu y ffordd. Mae e dal yn aros am gyngor swyddogion a chyngor cyfreithiol. Pan fydd y prif weinidog wedi gwneud hynny, fe fydd adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi.

    Fe fydd y prif weinidog nesaf yn cael ei ethol gan Lafur Cymru ar Ragfyr 6.

    Julie James
  13. 'Beth sydd ddim yn helpu Casnewydd yw gwastraffu £2bn ar ddarn o ffordd'

    Mae'r aelod Llafur dros Lanelli Lee Waters yn dweud os na fydd y gorchmynion statudol yn cael eu cyhoeddi gan Carwyn Jones, yna gall adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus ddim cael ei gyhoeddi.

    "Y broblem yng Nghasnewydd yw ei bod hi'n ddinas sy'n ddibynnol ar geir", ychwanega. "Rydyn ni angen rhoi cymorth i Gasnewydd. Beth sydd ddim yn helpu Casnewydd yw gwastraffu £2bn ar ddarn o ffordd".

    Lee Waters
  14. 'Penderfyniad mor bwysig'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod y penderfyniad ar y ffordd liniaru'r M4 arfaethedig "yn benderfyniad mor bwysig... fe ddylai gael ei benderfynu gan y prif weinidog newydd".

    Neil Hamilton
  15. 'Angen llawer mwy o waith ar ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus eraill'

    Mae Jenny Rathbone - sydd ar hyn o bryd wedi'i gwahardd o'r blaid Lafur yn y Senedd am wneud sylwadau am Iddewon - yn cefnogi cynnig Plaid Cymru.

    Mae hi'n dweud "mae angen llawer mwy o waith ar ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus eraill".

    Jenny Rathbone
  16. 'Gadael i'w olynydd wneud y penderfyniad'

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud y dylai Carwyn Jones, sydd wedi bod yn brif weinidog am naw mlynedd, adael i'w olynydd wneud y penderfyniad.

  17. Barnau ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Llafur

    Yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yw'r ffefryn i olynu Carwyn Jones fel Arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog ac mae'n cael ei ystyried yn fwy sgeptig ynghylch adeiladu'r ffordd liniaru.

    Mae gwrthwynebwyr Mr Drakeford ar gyfer yr arweinyddiaeth, yr Ysgrifennydd Iechyd Gethin Gething a Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan, mae'n debyg yn fwy agored am y ffordd newydd.

  18. Dyfodol ffordd liniaru'r M4 yn nwylo'r arweinydd nesaf?

    Gall y penderfyniad terfynol ar ddyfodol cynllun i adeiladu ffordd liniaru'r M4 gael ei wneud gan y Prif Weinidog nesaf, yn ôl Carwyn Jones.

    Dywedodd yr arweinydd presennol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn adroddiad 580 tudalen gan gynllunwyr yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus.

    Yn y gorffennol mae Mr Jones wedi dweud mai ef byddai'n gwneud y penderfyniad terfynol cyn iddo ymddiswyddo ym mis Rhagfyr.

    Ond wrth siarad gyda'r BBC bore dydd Sul, dywedodd "na allai'r penderfyniad gael ei ruthro".

    Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu ffordd newydd 14 milltir o hyd i'r de o Gasnewydd.

    Y bwriad yw lleihau tagfeydd o gwmpas twneli Brynglas ond mae cadwraethwyr yn dadlau byddai'r cynllun yn "ymosodiad uniongyrchol ar natur".

  19. Dadl: Penderfyniad Coridor yr M4

    Nesaf yn y Siambr Dadl Plaid Cymru - Penderfyniad Coridor yr M4

    Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    Yn credu mai'r Prif Weinidog newydd, a gaiff ei benodi ym mis Rhagfyr 2018, ddylai benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect coridor arfaethedig yr M4 o gwmpas Casnewydd, yn amodol ar ganfyddiadau'r ymchwiliad cyhoeddus lleol.

    Llywodraeth Cymru
  20. Dau o'r argymhellion ddim yn fater iddyn nhw medd Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru.

    Mae nhw'n derbyn neu'n dderbyn mewn egwyddor wyth o'r argymhellion.

    Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai nid mater iddyn nhw yw dau arall o'r argymhellion sef:

    Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai ymddiriedolaethau a sefydliadau a leolir yn y DU fynd i’r afael â’r cydbwysedd cyllid yn y DU fel mater o frys, lle mae swm annheg ac anghyfartal o gyllid yn cael ei ddyrannu i sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr.

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud:

    "Argymhelliad yw hwn ar gyfer Ymddiriedolaethau a Sefydliadau Prydeinig, ond byddaf yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau gadw golwg ar faint o arian y mae'r celfyddydau yn llwyddo i'w ddenu oddi wrth Ymddiriedolaethau a Sefydliadau elusennol, ac i roi gwybodaeth gyson imi amdano".

    Ac nid mater iddyn nhw yw'r isod medd y llywodraeth:

    Mae'r Pwyllgor yn argymell, o ystyried y sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu sefydliadau celfyddydol yng Nghymru – ac yn amodol ar asesiad effaith o’r gwaith a wnaed hyd yn hyn – y dylai’r Cyngor Celfyddydau ystyried a ellir ehangu’r Rhaglen Gwytnwch i helpu i wella gwytnwch ariannol sefydliadau nad ydynt yn cael eu hariannu gan arian refeniw.

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud:

    "Argymhelliad i Gyngor y Celfyddydau yw hwn, felly mater iddyn nhw yw ymateb iddo. Ond fel y dywedais yn fy ymateb i argymhelliad 8, byddaf yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau ystyried cefnogi'r cynnig hwn".