a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. ACau yn unfrydol yn gresynu at y caledi ariannol a achoswyd i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
  4. Cynnig yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Mesur Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn
  5. Dadl Aelodau: Pensiynau Allied Steel and Wire
  6. Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cyfraddau Treth Imcwm Cymru
  7. Dadl Fer: Sut y gellid gwneud mwy o ddefnydd o law

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Ionawr 29.

    Y Senedd
  2. Dadl Fer: Manteisio ar ddyddiau glawog

    Ac yn olaf yn y Siambr Dadl Fer gan Janet Finch-Saunders.

    A'r pwnc: "Manteisio ar ddyddiau glawog. Sut y gellid gwneud mwy o ddefnydd o law yng Nghymru".

    Mae’n dyfynnu:

    "Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,

    Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;

    Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si

    Ei nentydd, afonydd, i mi."

    Dywed, “oni chytunwch, weinidog, bod y dirwedd a ddisgrifir yn y geiriau hardd hynny yn gallu cynnig mwy i Gymru, ac yn wir, byddai sain y nentydd a'r afonydd hyd yn oed yn fwy melys pe byddai’r dŵr wedi cael y cyfle gorau posibl i greu ynni gwyrdd, i'w ddefnyddio yn ein cartrefi, ac i helpu i leihau ein biliau ynni?”

    Meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths: "Rwy'n credu nad dim ond Llywodraeth Cymru sydd angen cyflwyno mentrau i gefnogi ynni dŵr, ond llywodraeth y Ceidwadwyr yn y DU hefyd.

    "Ond rwy'n credu bod cynlluniau ynni dŵr wedi'u dylunio'n dda yn enghraifft wych o sut y gallwn ni ddefnyddio ein hadnoddau naturiol er budd cymunedau lleol, tra’n sicrhau ein bod yn amddiffyn amgylchedd yr afonydd."

    Glaw
  3. 'Ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed Cynulliad'

    Mae ACau yn pasio cynnig y Ceidwadwyr, gyda 42 o blaid ac wyth yn erbyn, bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed Cynulliad.

    pleidlais
  4. Pensiynau Allied Steel and Wire: ACau yn pasio'r cynnig

    Mae'r cynnig ar Bensiynau Allied Steel and Wire yn cael ei basio yn ddi-wrthwynebiad.

    Felly mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi nad yw cyn-weithwyr Allied Steel and Wire wedi cael gwerth llawn eu pensiynau o hyd, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU.

    2. Yn nodi bod gweithwyr, o dan gytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, wedi cael addewid o union yr un driniaeth â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol.

    3. Yn nodibod gan weithwyr,yn sgil newidiadau yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol, yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn. Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag chwyddiant.

    4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.

    5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru.

    Pleidlais
  5. Dim cydsyniad y Cynulliad i gyflwyno Mesur Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn

    Mae'r Ceidwadwr Darren Miller yn methu cael cydsyniad y Cynulliad i gyflwyno Mesur Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn.

    Roedd 21 o blaid, dau yn ymatal a 27 yn erbyn.

    pleidlais
  6. 'Dim cynlluniau i newid treth incwm yn ystod y cynulliad hwn'

    Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, "gan nad oes gen i gynlluniau i newid treth incwm yn ystod y cynulliad hwn".

    Mae gweinidogion Cymru yn ennill pwerau i amrywio cyfraddau treth incwm o fis Ebrill.

    Ond fe waneth Llafur addo yn 2016 na fydden nhw'n newid pethau cyn etholiad nesaf y cynulliad.

    .

  7. 'Rydyn ni hefyd yn blaid treth isel'

    Mae Neil Hamilton yn dweud bod UKIP "at ei gilydd yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, oherwydd rydyn ni hefyd yn blaid treth isel... beth yr ydyn ni angen ei wneud yw tyfu maint yr economi yng Nghymru os yr ydyn ni am gael gwell gwasanaethau cyhoeddus".

  8. 'Trafodaeth sifig aeddfed'

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn cynnig dau welliant, sef:

    Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

    'ond yn pwysleisio blaenoriaethu sicrhau twf economaidd a chynnydd mewn refeniw drwy gefnogi busnes cynhenid.'

    Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi:

    Yn annog trafodaeth sifig aeddfed ynglyn â sut orau i ddefnyddio pwerau trethiannol datganoledig newydd er budd economaidd a chymdeithasol Cymru.

    Rhun ap Iorwerth
  9. Denu pobl, busnesau a buddsoddiant

    Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn dadlau mai'r ffordd orau o dyfu refeniw treth yw cydnabod pwysigrwydd denu pobl, busnesau a buddsoddiant i Gymru, nid eu trethu ymhellach.

    Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i addo peidio cynyddu'r dreth incwm.

    Nick Ramsay
  10. Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig.

    A'r pwnc: Cyfraddau Treth Incwm Cymru.

    Maen nhw'n cynnig bod y Cynulliad yn:

    1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed Cynulliad.

    Arian
  11. 'Anfon neges glir ac unfrydol at lywodraeth y DU'

    Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig, er nad yw materion pensiwn wedi eu datganoli, i "anfon neges glir ac unfrydol at lywodraeth y DU".

    Rebecca Evans
  12. Llywodraeth y DU 'ym mhoced y diwydiant yswiriant'

    Mae AC Llafur Pontypridd Mick Antoniw yn dweud bod llywodraeth y DU "ym mhoced y diwydiant yswiriant" ac yn galw am Gomisiwn Brenhinol i adolygu pensiynau "gyda'r bwriad o adfer cyfiawnder ac adfer cynlluniau pensiwn cywir".

    Mick Antoniw
  13. 'Lladrad, os ydych chi eisiau bod yn giaidd o onest'

    Mae'r aelod Ceidwadol Andrew RT Davies yn dweud bod hyn ynghylch "cyfiawnder... mae yna ofyniad moesol yma".

    Mae'n dweud bod y diffyg yn "lladrad, os ydych chi eisiau bod yn giaidd o onest".

  14. Cefndir

    Roedd gan ASW weithfeydd yng Nghaerdydd, Belffast a Sheerness yng Nghaint pan aethant yn fethdalwyr yn 2002, a chollodd tua 1,000 o bobl eu swyddi a'u pensiynau.

    Bu'r ymgyrch i ddiogelu pensiynau a ddilynodd yn un o'r prif ffactorau y tu ôl creu dau gynllun diogelu pensiynau sydd ar gael i weithwyr y DU heddiw.

    Mae cyn-weithwyr ASW yn anhapus nad ydynt yn derbyn 90% o'r swm a gytunwyd arno, gan nad yw chwyddiant yn cael ei ystyried gydag arian gafodd ei dalu i'r cynllun cyn 1997.

    Protest dros bensiynau y tu allan i'r Senedd yn 2009 - mae cyn-weithwyr ASW yn dal i ymgyrchu heddiw
    Image caption: Protest dros bensiynau y tu allan i'r Senedd yn 2009 - mae cyn-weithwyr ASW yn dal i ymgyrchu heddiw
  15. Dadl: Pensiynau Allied Steel and Wire

    Nesaf yn y Siambr Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Pensiynau Allied Steel and Wire.

    Mae Bethan Sayed yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi nad yw cyn-weithwyr Allied Steel and Wire wedi cael gwerth llawn eu pensiynau o hyd, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU.

    2. Yn nodi bod gweithwyr, o dan gytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, wedi cael addewid o union yr un driniaeth â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol.

    3. Yn nodibod gan weithwyr,yn sgil newidiadau yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol, yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn. Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag chwyddiant.

    4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.

    5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru.

  16. 'Siomedig iawn' gyda diffyg cefnogaeth Llywodraeth Cymru

    Mae Darren Millar yn dweud ei fod yn "siomedig iawn" na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ei gais i gyflwyno'r mesur ar hawliau pobl hŷn.

  17. 'Os yw plant yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith, pam ddim y grŵp mwyaf bregus arall - yr henoed?'

    Mae David Rowlands yn dweud y bydd UKIP yn cefnogi cyflwyno'r mesur oherwydd "os yw plant yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith, pam ddim y grŵp mwyaf bregus arall - yr henoed?"

    David Rowlands
  18. 'Dylai'r mesur gael ei ystyried mewn manylder'

    Mae Helen Mary Jones Plaid Cymru yn dweud y dylai Darren Millar gael caniatâd i gyflwyno'r mesur, fel ei fod yn gallu cael ei ystyried mewn manylder.

    Helen Mary Jones
  19. Mae gan Lywodraeth Cymru 'ddull mwy uchelgeisiol, holistaidd a strategol'

    Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn dweud ei bod hi'n cytuno gyda'r "teimladau sydd wrth wraidd y mesur sydd wedi cael ei gynnig".

    Mae'n rhestru nifer o bolisïau a gweithredoedd y mae hi'n dweud sy'n dangos bod hawliau pobl hŷn "wrth wraidd llunio polisi" yng Nghymru.

    Mae Julie Morgan yn gorffen drwy ddweud "nid yw'r amser yn iawn ar gyfer y darn penodol yma o ddeddfwriaeth", a bod gan Lywodraeth Cymru "ddull mwy uchelgeisiol, holistaidd a strategol".

    Julie Morgan
  20. '800,000 o bobl hŷn yng Nghymru sy'n haeddu pob cyfle'

    Mae Darren Millar yn dweud bod tua 800,000 o bobl hŷn yng Nghymru sy'n haeddu pob cyfle i gael eu grymuso, i gryfhau eu hawliau a diwallu eu hanghenion.

    Mae'n dweud y bydd y Mesur yn:

    • Gwreiddio hawliau pobl hŷn yn ddyfnach yn neddfau Cymru drwy osod dyletswydd sylw dyledus ar gyrff cyhoeddus, sef Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff iechyd lleol.
    • Gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo gwybodaeth am hawliau pobl hŷn ledled Cymru, a dealltwriaeth o'r hawliau hynny.
    • Hyrwyddo heneiddio'n dda, a gwneud llesiant pobl hŷn yn rhan annatod o wasanaethau cyhoeddus a gaiff eu darparu gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol.
    Darren Millar