a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. 'Diwygio'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu: Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Newid Deddfwriaethol'
  3. 'Pwysau Iach: Cymru Iach - Ein huchelgeisiau cenedlaethol i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru'
  4. 'Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa'
  5. Dadl ar adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar barodrwydd ar gyfer Brexit

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory ar gyfer y cyfarfod llawn.

    View more on twitter
  2. Byddai Brexit heb gytundeb yn 'drychinebus'

    Ar ran Llywodraeth Cymru mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, yn rhoi'r ymateb i adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar barodrwydd ar gyfer Brexit.

    Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn y tri adroddiad.

    Mae'n rhybuddio y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus".

    Jeremy Miles
  3. 'Angen pleidlais y bobl'

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud y byddai Cymru "ymhlith y gwledydd fyddai'n cael eu taro waetha" gan Brexit heb gytundeb.

    Mae'n galw am oedi Erthygl 50, os yn bosib i roi amser ar gyfer yr hyn elwir yn "bleidlais y bobl".

    Rhun ap Iorwerth
  4. Gallai Brexit heb gytundeb 'ddistrywio' y diwydiant cig oen Cymreig

    Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn rhybuddio y gallai Brexit heb gytundeb "ddistrywio" y diwydiant cig oen Cymreig, gan ychwanegu "mae'n amser i bawb yn y siambr yma sefyll i fyny a wynebu y gwirioneddau yma".

    David Melding
  5. 'Gwendidau posibl o ran parhau’n ddi-dor â threfniadau cadwyni cyflenwi bwyd'

    Ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru mae'r pwyllgor yn dweud na chawson nhw lawer o dystiolaeth ynghylch parhad trefniadau cyflenwi bwyd ar ôl Brexit.

    Fodd bynnag, meddai, "rydym yn nodi bod gweithgarwch ar y gweill ar lefel y DU i ystyried y materion hyn fel rhan o waith ehangach ar baratoadau Brexit. At hynny, mae ein darn arall o waith ar barodrwydd porthladdoedd Cymru yn ein harwain i ddod i’r casgliad bod gwendidau posibl o ran parhau’n ddi-dor â threfniadau cadwyni cyflenwi bwyd os bydd achosion newydd o oedi neu wiriadau ar waith os ceir Brexit 'heb fargen'".

  6. 'Pryderon ynghylch y diffyg capasiti o ran lle ac isadeiledd'

    O ran parodrwydd porthladdoedd Cymru yn sgil Brexit mae'r pwyllgor yn dweud eu bod wedi clywed "fwy nag unwaith am y pryderon ynghylch sefyllfa frau y prif borthladdoedd gyrru ar/oddi longau yng Nghymru (Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun) pe byddai unrhyw achosion newydd o oedi ar ôl ymadael â’r UE. Rydym yn ailadrodd ein pryderon ynghylch y diffyg capasiti o ran lle ac isadeiledd i greu tollau newydd a chynnal gwiriadau ar ffiniau".

  7. 'Diffyg data pendant'

    Mae Cadeirydd y pwyllgor, David Rees, yn dweud fod "diffyg data pendant, yn enwedig o ran cyfansoddiad y gweithlu gofal cymdeithasol, yn rhwystro’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru rhag gallu paratoi ar gyfer Brexit. Fodd bynnag, rydym yn nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ymchwil, a bod y gwaith hwnnw ar y gweill".

    David Rees
  8. Dadl Brexit

    Ac yn olaf yn y Siambr y prynhawn 'ma, dadl ar adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar barodrwydd ar gyfer Brexit.

    Mae cadeirydd y pwyllgor David Rees AC yn cynnig bod y Cynulliad yn nodi adroddiadau y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar barodrwydd porthladdoedd Cymru’, y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru’, a'r sector bwyd a diod yng Nghymru’.

    Baneri Cymru a'r UE
  9. Cymeradwyo Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig

    Mae ACau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

    Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaethau maethu. Er enghraifft, o dan y Rheoliadau, rhaid i ddarparwyr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaethau maethu'n cael eu darparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol.

  10. Cymeradwyo Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig

    Mae ACau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

    Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â gwasanaethau eirioli. Er enghraifft, o dan y Rheoliadau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd yr eiriolaeth a ddarperir, a rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt bolisïau mewn perthynas â disgyblu staff a diogelu, er enghraifft.

  11. Cymeradwyo Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion

    Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

    Diben y Rheoliadau hyn yw gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau maethu (awdurdodau lleol a darparwyr annibynnol) mewn perthynas â sefydlu a swyddogaethau paneli maethu.

    Mae'r Rheoliadau yn dyblygu Rheoliadau 2003 yn fras, ond maent yn gwneud dau newid arwyddocaol:

    • sefydlu rhestr ganolog o bobl sy'n cael eu hystyried yn addas i eistedd ar banel maethu, ac y gellir tynnu aelodau paneli maethu ohoni

    • cyflwyno proses dau gam ar gyfer asesu darpar rieni maeth.

  12. 'Blaenoriaethu ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar draul mudwyr economaidd'

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud "Rydw i'n cytuno'n llwyr y dylen ni wneud yn sicr bod Cymru yn wir genedl o noddfa ar gyfer y rheini sydd ei hangen".

    Mae'n ychwanegu "Fe fyddwn i'n blaenoriaethu ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar draul mudwyr economaidd unrhyw ddiwrnod o'r wythnos".

  13. 'Llawer i'w groesawu'

    Mae Helen Mary Jones Plaid Cymru yn dweud bod yna "lawer i'w groesawu yn y strategaeth a'r cynllun".

    Mae hi'n siarad yn lle Leanne Wood, sydd meddai, wedi gorfod "mynd adre oherwydd cyflyrau hinsoddol y tu hwnt i'w rheolaeth hi" - h.y eira.

  14. 'Wedi hen ddarparu hafan ddiogel'

    Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn dweud bod Cymru wedi "hen ddarparu hafan ddiogel i ddioddefwyr erledigaeth, trais, glanhau ethnig, hil-laddiad, o ar draws y byd a gobeithio y bydd hynny'n parhau".

    Mark Isherwood
  15. 'Croesawu bron i 1,000 o ffoaduriaid o Syria'

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod cymunedau Cymru eisoes wedi "croesawu bron i 1,000 o ffoaduriaid o Syria fel rhan o Gynllun Adleoli Pobl Agored i Niwed o Syria Llywodraeth y DU, ynghyd â nifer o geiswyr lloches eraill o bob cwr o'r byd".

    Mae'r cynllun yn tynnu sylw at "amrywiol fathau o gymorth wedi’i dargedu sy’n briodol yn ddiwylliannol, gan gydnabod pwysigrwydd cynllunio a darparu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer anghenion all fod yn unigryw. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Gwasanaethau iechyd meddwl sy'n mynd i’r afael â phrofiadau anodd pobl sy’n ceisio lloches
    • Ymyriadau i liniaru’r perygl o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn mynd i dlodi eithafol
    • ·Camau gweithredu i atal unigolion agored i niwed rhag cael eu hecsbloetio
    • Diogelu ceiswyr lloches, yn enwedig plant ar eu pen eu hunain."

    Bydd gwefan yn cael ei lansio er mwyn darparu gwybodaeth berthnasol mewn ffordd hygyrch i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

  16. 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun'

    Cafodd 'Cenedl Noddfa–Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' Llywodraeth Cymru ei ddatblygu wrth ymateb i argymhellion a wnaed gan adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb, a Llywodraeth Leol '"Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun": Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru'. Cafodd ei gynhyrchu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau cymorth i ffoaduriaid, sefydliadau yn y sector cyhoeddus, ac y ceiswyr lloches a'r ffoaduriaid eu hunain.

  17. 'Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa'

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt: "Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa".

    Jane Hutt
  18. 'Yn fwy fwy o broblem ariannol'

    Mae Gareth Bennett UKIP yn rhybuddio bod gordewdra "yn mynd i ddod yn fwy fwy o broblem ariannol onibai ein bod ni'n delio gydag e"..

  19. 'Ni ddylid gadael i'r amserlen lithro'

    Mae Helen Mary Jones yn dweud bod Plaid Cymru yn "awyddus i gefnogi'r" gweinidog wrth fwrw ymlaen gyda'r strategaeth gordewdra, gan ychwanegu bod hyn "yn ganlyniad i welliant gan Blaid Cymru i'r ddeddfwriaeth wreiddiol".

    Mae'n galw ar y gweinidog i sicrhau "nad yw'r amserlen o fis Hydref yn cael ei gadael i lithrio".

    Helen Mary Jones
  20. 'Angen mesuryddion perfformiad allweddol'

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn galw am fesuryddion perfformiad allweddol ar daclo gordewdra fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu cael ei dal i gyfrif.

    Darren Millar