a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. ACau yn cefnogi galwad i ddechrau gwaith i baratoi ar gyfer refferendwm arall ar aelodaeth o’r UE
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
  3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru
  6. Dadl Plaid Cymru - Carchardai a Chyfiawnder Troseddol
  7. Dadl ar y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin
  8. Dadl Fer: bywyd ar-lein

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Chwefror 5.

    View more on twitter
  2. Dadl Fer: 'Newid lluniau, niweidio bywydau'

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Bethan Sayed.

    A'r pwnc: "Newid lluniau, niweidio bywydau.

    "A yw bywyd ar-lein ac mewn diwylliant poblogaidd yn niweidio ein realaeth".

    Meddai, "a oes angen i ni gyflwyno mwy o reoleiddio ar y rhyngrwyd? A oes angen inni reoleiddio Facebooks a Googles y byd hwn?

    "Byddwn yn dweud 'oes', oherwydd bod ganddynt gyfrifoldeb cymdeithasol. Gallwn ni ddewis peidio â mynd ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ond mae'r hysbysebion yn ein dilyn ni ble bynnag yr ydym yn mynd. A dyna yw realiti'r bywydau yr ydym yn eu harwain."

    Bethan Sayed
  3. Byddai Brexit heb gytundeb yn 'drychinebus' i Gymru

    Mae'r cynnig ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cael ei basio.

    Roedd 37 o blaid, neb yn ymatal ac 14 yn erbyn.

    1. Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig.

    2. Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael Erthygl 50.

    3. Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus.

    4. Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn.

    pleidlais
  4. 'Rydyn ni'n gwybod nad yw pobl eisiau Brexit caled'

    Mae'r cyn brif weinidog Carwyn Jones yn dyfynnu Laurel and Hardy, gan ddatgan bod gwleidyddion San Steffan wedi'n cael ni i mewn i "lanast pur".

    "Bydd yn rhaid i mi gofio y tro nesaf yr ydw i'n prynu car, i fynd yn ôl a dweud 'Rydw i eisiau aildrafod y pris oherwydd nad ydw i'n hapus gyda'r pris y gwnes i ei dalu".

    Mae'n ychwanegu "rydyn ni'n gwybod yn 2017 fe wnaeth pobl wrthod Brexit caled yn yr etholiad cyffredinol, felly rydyn ni'n gwybod nad yw pobl eisiau hynny".

    Carwyn Jones
  5. Byddai cynnal refferendwm arall yn 'fethiant o'n democratiaeth'

    Mae AC Llafur Caerffili Hefin David yn dweud y byddai cynnal refferendwm arall yn "fethiant o'n democratiaeth".

  6. 'Tanseilio ein gwleidyddiaeth'

    Mae'r cyn weinidog Alun Davies yn dweud "y celwyddau gafodd eu dweud yn ystod yr ymgyrch ar gyfer y refferendwm sydd wedi arwain yn uniongyrchol at danseilio ein gwleidyddiaeth a'r sefyllf yr ydyn ni ynddi heddiw," ac mae'n cyfeirio at y bws coch a oedd yn cynnig arian i'r GIG.

  7. 'Yr unig gytundeb ar y bwrdd'

    Dyw'r Ceidwadwyr ddim wedi cyflwyno gwelliant i'r cynnig, ond mae Darren Millar yn dweud "beth y mae Theresa May wedi bod yn ei wneud, ac wedi bod yn gyson yn ei wneud, yw ymladd yn galed i sicrhau bod ganddon ni gytundeb.

    "Dyna'r unig gytundeb ar y bwrdd".

    Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro wedi dweud ei bod "yn parchu canlyniad y refferendwm", ond nawr yn galw am baratoadau ar gyfer refferendwm arall, rhywbeth y mae e'n ddweud fyddai'n "fradychiad llwyr".

    Darren Millar
  8. 'Theresa May wedi gwneud tro pedol anferth'

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn dweud bod Theresa May wedi gwneud tro pedol anferth.

    Mae'n ychwanegu, "yr unig wir ddewis yw Brexit heb gytundeb neu bleidlais y bobl".

    Adam Price
  9. 'Brexit heb gytundeb oedd yr arf cryfaf oedd gan Brydain'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud "Rydw i'n difaru ein bod ni yn y sefyllfa annymunol yma heddiw, ond fyddwn ni fyth yn gallu gwireddu canlyniad y refferendwm ar y sail o gymryd Brexit heb gytundeb oddi ar y bwrdd trafod oherwydd dyna oedd yr arf cryfaf oedd gan Brydain".

  10. Ailadrodd galwadau ar i Brexit heb gytundeb gael ei dynnu oddi ar y bwrdd trafod

    Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Jeremy Miles yn ailadrodd galwadau ar i Brexit heb gytundeb gael ei dynnu oddi ar y bwrdd trafod.

    "Mae yna dybiaeth yn San Steffan ein bod ni'n gallu aros tan y funud olaf ac yna fynnu estyniad i Erthygl 50.

    "Mae hwn yn ragdybiaeth peryglus."

    Mae'n gofyn "allwn ni feio ein partneriaid Ewropeaidd os ydyn nhw wedi'u cythruddo gan yr hyn y maen nhw wedi ei weld yn yr wythnosau diwethaf?"

    Mae'n rhagweld bod taith nesa Theresa May i Frwsel "yn edrych fel un condemniedig".

    Jeremy Miles
  11. Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin

    Nesaf yn y Siambr dadl ar gynnig sydd wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

    Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn condemnio Llywodraeth y DU am fethu â chynnal negodiadau ystyrlon ynghylch y cytundeb i ymadael â'r UE ar sail drawsbleidiol ac yn nhermau trafodaethau diffuant â'r gweinyddiaethau datganoledig.

    2. Yn pwysleisio unwaith eto y byddai ymadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru ac y dylai Llywodraeth a Senedd y DU wneud popeth o fewn eu grym i atal sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys gofyn am ymestyn dyddiad ymadael Erthygl 50.

    3. Yn credu os, fel yr ymddengys ar hyn o bryd, nad oes modd i Senedd y DU uno i gefnogi cynnig gwahanol sy'n cynnwys cymryd rhan yn y farchnad sengl ac mewn undeb tollau, yna'r unig opsiwn sydd ar ôl yw dychwelyd y penderfyniad at y bobl; ac yn credu y dylid dechrau gweithio ar unwaith i baratoi am bleidlais gyhoeddus.

    4. Yn credu y dylai Senedd y DU fynd ati, ar unwaith, i drafod mwy gyda'r gweinyddiaethau datganoledig am y materion hyn.

    Brexit
  12. Diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn galw am:

    a) diystyru adeiladu rhagor o ‘uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;

    b) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;

    c) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;

    d) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol; ac

    e) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.

    Nid yw adeiladu carchar ar leoliad ger parc diwydiannol ym Maglan yn "bosibl" bellach, yn ôl gweinidog dros garchardai Llywodraeth y DU.
    Image caption: Nid yw adeiladu carchar ar leoliad ger parc diwydiannol ym Maglan yn "bosibl" bellach, yn ôl gweinidog dros garchardai Llywodraeth y DU.
  13. 'Camfarn' gan Lywodraeth Cymru

    Mae cyn weinidog Llafur Alun Davies yn dweud mai "camfarn" gan Lywodraeth Cymru yw ceisio diwygio cynnig Plaid Cymru.

    Mae'n dweud "allwn ni ddim cyflawni cyfiawnder cymdeithasol oni bai ein bod ni'n cefnogi datganoli'r system cyfiawnder troseddol".

    Alun Davies
  14. 'Gwasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn nodi "ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu".

    Mark Isherwood
  15. 'Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i wyrdroi preifateiddio'r system garchardai'

    Mae Gareth Bennett UKIP hefyd yn credu:

    a) y dylid ariannu gwasanaeth y carchardai yn ddigonol a rhoi tâl digonol i swyddogion carchardai;

    b) y dylai pob carcharor a gaiff ei gadw yn y ddalfa gan swyddogion y Goron fod yn atebol i Weinidogion Llywodraeth y DU ac nid cwmnïau preifat;

    c) y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i wyrdroi preifateiddio'r system garchardai;

    d) y dylai troseddwyr o dramor gael eu halltudio i fwrw eu dedfryd yn eu gwledydd eu hunain, ac y dylai troseddwyr o'r fath gael eu gwahardd rhag dychwelyd i'r DU;

    e) y dylai carchardai newydd gael eu hadeiladu fel y bo angen ledled y DU i ddarparu ar gyfer nifer y bobl a gaiff eu dyfarnu'n euog o droseddau sy'n dwyn cosb o garchar.

  16. Gwelliant UKIP

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud y dylid dileu popeth a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, Dedfrydu a Dalfa, Carcharu yng Nghymru a thystiolaeth atodol i'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig.

    2. Yn nodi ymhellach bod 11 y cant o gyfanswm poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ym mis Hydref 2018, yn wladolion tramor, a'r mwyaf cyffredin yn dod o Wlad Pwyl, Albania, Iwerddon a Rwmania.

  17. Galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru

    Mae Plaid Cymru yn galw am:

    a) datganoli cyfiawnder troseddol yn gyfan gwbl i Gymru;

    b) diystyru adeiladu rhagor o ‘Uwch garchardai’ ar unrhyw safle yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfleu’r gwrthwynebiad hwn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder;

    c) ailuno'r gwasanaeth prawf yn gyfan gwbl a rhoi diwedd ar breifateiddio rhannol;

    d) ffocws ar ddulliau cymunedol ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai treisgar a rhoi'r gorau i or-ddefnyddio dedfrydau carcharu byr;

    e) rhoi diwedd ar ddedfrydau o garchar i bobl ifanc a menywod ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol;

    f) yr hawl i garcharorion bleidleisio yn etholiadau Cymru.

    Y Gyfraith
  18. Dadl: Carchardai a Chyfiawnder Troseddol

    Symudwn ni ymlaen nawr at ddadl gan Blaid Cymru - a'r pwnc: Carchardai a Chyfiawnder Troseddol.

    Mae Plaid Cymru yn cyfeirio at waith ymchwil newydd sy'n honni bod gan Gymru gyfradd uwch o boblogaeth yn y carchar nag unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop.

    Dangosodd adroddiad newydd Canolfan Llywodraethiant Cymru: Dedfrydu a Dalfa yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau, fod 154 carcharor am bob 100,000 o bobl yng Nghymru yn 2017, cyfran uwch na Lloegr (141) sy'n ail.

    Dyma'r tro cyntaf i'r ffigyrau ar gyfer y ddwy wlad gael eu dadansoddi ar wahân.

    Mae dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru o'r ffigyrau swyddogol yn dangos hefyd fod carcharorion o grwpiau lleiafrifol wedi eu gorgynrychioli i gymharu â charcharorion gwyn.

    Trwy gymharu gyda'r data ar boblogaeth Cymru, roedd y ffigyrau yn dangos fod pobl dduon yng Nghymru 4.5 gwaith mwy tebygol o fod yn y carchar yn 2017.

    Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod mwy o bobl yng Nghymru yn mynd i'r carchar i gymharu â Lloegr, er gwaethaf y ffaith bod nifer y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn is, bob blwyddyn rhwng 2013 a 2017.

    Yn ôl gwaith ymchwil Prifysgol Caerdydd, mae cyfanswm y bobl gafodd eu carcharu yng Nghymru wedi codi 0.3% rhwng 2010-17, tra bod y nifer yn Lloegr wedi disgyn 16% yn yr un cyfnod.

    Carchar
  19. Llywodraeth Cymru yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor

    Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn pump argymhelliad y pwyllgor.

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gethin yn dweud bod y llywodraeth wedi'i hymrwymo i "gyflymu newid digidol".

    Gellir gweld ymateb y llywodraeth yn llawn fan hyn.

  20. Wedi eu 'dychryn' gan dystiolaeth

    Mae'r pwyllgor yn "bryderus dros ben" i glywed am effeithiau negyddol methiannau technegol ar brofiadau cleifion ac ar forâl staff yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd er bod tystion yn mynnu nad oedd unrhyw gleifion wedi dioddef unrhyw niwed yn y cyfnod dan sylw.

    Mae system gyfrifiadurol triniaeth canser, CaNISC, hefyd yn cael sylw fel un o'r prif feysydd sydd angen sylw, gyda'r pwyllgor yn dweud eu bod wedi eu "dychryn" gan dystiolaeth bod Microsoft wedi rhoi'r gorau i ddarparu cefnogaeth ar gyfer y system yn 2014, a'i fod yn peri risg seiberddiogelwch.

    Er hynny, mae'n cydnabod bod "cyllid yn brin, ac mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cydbwyso'r blaenoriaethau sy'n cystadlu o gynnal seilwaith tra dan bwysau i gyflwyno systemau newydd".

    Daw ymchwiliad y pwyllgor yn dilyn adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr y llynedd.

    Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd
    Image caption: Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd