'Dyletswydd gofal gwastraff': cymeradwyo rheolau newydd
Mae'r Aelodau'r Cynulliad yn cymeradwyo rheolau newydd yn ei gwneud hi'n haws i gynghorau weithredu yn erbyn perchnogion tai sy'n rhoi eu gwastraff i bobl nad ydynt wedi'u hawdurdodi i'w drin.
Felly, gellid rhoi cosb benodedig o £300 - neu £150 os yw'n cael ei dalu'n gynnar - i gartrefi sy'n torri eu "dyletswydd gofal gwastraff".
Bydd cynghorau yn gallu cadw'r arian o'r hysbysiadau cosb benodedig i'w rhoi tuag at gostau gorfodi a chlirio.
Roedd 41 aelod o blaid a dau yn erbyn.
PACopyright: PA
'Gwariant teg o’r gyllideb'
Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion".
BBCCopyright: BBC
'Esboniwch brosesau archwilio mewnol'
Gwelliant y Ceidwadwyr yw i ddileu popeth yng nghynnig y llywodraeth ("er na fwriadwyd iddo fod yn welliant 'dileu popeth' ", meddai'r llefarydd addysg Suzy Davies) a rhoi yn ei le fod y Cynulliad:
1. Yn gresynu at ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn gwneud digon o gynnydd.
2. Yn gresynu nad yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.
3. Yn gresynu at y gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a 4 oed.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.
BBCCopyright: BBC
Estyn i ymweld ag ysgolion yn amlach
Bydd Estyn yn ymweld ag ysgolion yn amlach fel rhan o baratoadau'r cwricwlwm newydd meddai'r gweinidog addysg Kirsty Williams, gan ychwanegu y bydd y corff felly yn chwarae mwy o ran yn y gwaith o gefnogi ysgolion.
Yn ôl y gweinidog, mae'r cam yn un o gyfres o fesurau sydd â'r nod o wella safonau "gan roi'r pwyslais ar addysgu a dysgu, ar lesiant disgyblion ac athrawon ac ar leihau biwrocratiaeth ddiangen".
BBCCopyright: BBC
'Amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol'
Cynnig y llywodraeth yw bod y Cynulliad yn:
1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.
2. Croesawu bod y “newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym”.
3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.
4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.
Mae safon ysgolion cynradd wedi gwella ond dim ond hanner yr ysgolion uwchradd gafodd eu graddio yn dda neu yn arbennig y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl arolygwyr.
Mae Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Estyn, Meilyr Rowlands, wedi dweud fod y gwelliannau yn "galonogol" gydag wyth allan o 10 ysgol gynradd wedi'i graddio'n dda neu well.
Ond dywedodd fod angen gwneud mwy i gynorthwyo ysgolion sy'n "achosi pryder".
Fe wnaeth arolygwyr ganfod nad yw'r mwyafrif o ddisgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth na'u sgiliau'n ddigon da, na chwaith yn gwneud unrhyw gynnydd mewn hanner o'r ysgolion uwchradd.
BBCCopyright: BBC
Mae'r gwelliannau yn "galonogol" yn ôl Meilyr RowlandsImage caption: Mae'r gwelliannau yn "galonogol" yn ôl Meilyr Rowlands
60% o dipio anghyfreithlon yn deillio o eiddo domestig
Dywed adroddiad gan Lywodraeth Cymru bod mwy na 60% o dipio anghyfreithlon yn deillio o eiddo domestig.
Gall cynghorau erlyn preswylwyr sy'n rhoi eu gwastraff i berson anawdurdodedig, ond gall erlyniadau gostio cyfartaledd o £200 i £400 y tro.
BBCCopyright: BBC
Mae'r adroddiad yn dweud bod gwastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon yn aml yn cynnwys eitemau swmpus fel dodrefn ac nid dim ond gwastraff bagiau bin duImage caption: Mae'r adroddiad yn dweud bod gwastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon yn aml yn cynnwys eitemau swmpus fel dodrefn ac nid dim ond gwastraff bagiau bin du
Rheoliadau Dyletswydd Gofal Gwastraff o ran Cartref
Mae ACau yn symud ymlaen i drafod Rheoliadau Dyletswydd Gofal Gwastraff o ran Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019, a fyddai'n cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i'r rhai nad ydynt yn talu cludwyr gwastraff awdurdodedig i gael gwared ar eu gwastraff.
Gwelodd cynghorau fwy na 35,000 o achosion o dipio anghyfreithlon mewn blwyddyn yn unig.
Costiodd £2m i drethdalwyr yng Nghymru i lanhau yn 2017-18.
Ar hyn o bryd, gellir rhoi hysbysiad cosb benodedig i berchnogion tai os ydynt yn cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon eu hunain.
Dywed Llyr Gruffydd Plaid Cymru nad yw "maint y rhaglenni hyn yn cyfateb i raddfa'r her yng Nghymru" a bod ymateb Llywodraeth Cymru yn hollol annigonol.
BBCCopyright: BBC
'Byddai dros 80,000 o gartrefi wedi bod yn wynebu baich llethol'
Dywed Lesley Griffiths, "Ers ei lansio bron i ddeng mlynedd yn ôl, mae ein rhaglen
Cartrefi Cynnes wedi darparu cyngor ar arbed ynni i dros 112,000 o bobl ac wedi
gwella dros 50,000 o gartrefi drwy osod mesurau sy'n arbed ynni. Mae'r rhaglen
yn cynnwys Cynllun Nyth, cynllun sy’n ymateb i’r galw a Chynllun Arbed, sy'n
seiliedig ar ardal.
"Heb y cymorth hwn, rydyn ni'n amcangyfrif y byddai dros
80,000 o gartrefi wedi bod yn wynebu baich llethol wrth geisio cadw'n gynnes y
gaeaf hwn. Dylai estyn y rhaglen hon hyd 2021 ei gwneud yn bosibl inni wella
hyd at 25,000 o gartrefi ychwanegol."
BBCCopyright: BBC
Y Rhaglen Cartrefi Clyd
Mae datganiad olaf y prynhawn gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths: Y Rhaglen Cartrefi Clyd.
Mae Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cynlluniau Arbed a Nyth, yn darparu cyllid ar gyfer gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni i aelwydydd incwm isel.
BBCCopyright: BBC
Y Gronfa Trawsnewid
Symudwn ymlaen at Ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething: "Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid".
Pan gyhoeddwyd y cynllun 'Cymru Iachach' ym mis Mehefin y lllynedd, cyhoeddwyd hefyd y byddai arian ychwanegol ar gael i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy y gronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn dros ddwy flynedd i gefnogi'r profion ar y modelau gwasanaeth newydd ar lawr gwlad.
Mae'n dweud "rwyf wedi cymeradwyo saith cynnig gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar draws Cymru.
"Cefnogir y rhain gyda hyd at £41.2 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol.
"Rwy'n disgwyl gweld cynnydd gwirioneddol yn y modd y mae gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad ac wrth gwrs i gyflawni gwell canlyniadau."
BBCCopyright: BBC
Diogelu Dyfodol Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn dweud nad yw safbwynt Jeremy Corbyn yn adlewyrchu'r ddogfen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, Diogelu Dyfodol Cymru, sy'n nodi eu gweledigaeth ar gyfer perthynas â'r UE yn y dyfodol.
Mae Mark Drakeford yn ymateb bod y weledigaeth yn cael ei "hadlewyrchu" na'i "dyblygu" yn llythyr Jeremy Corbyn i'r Prif Weinidog Theresa May.
BBCCopyright: BBC
'Cynrychioli busnesau yn briodol ac yn gywir'
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies yn galw ar y prif weinidog "i gynrychioli busnesau yn briodol ac yn gywir, o gofio bod llawer o fusnesau wedi cefnogi cytundeb presennol y prif weinidog yn barhaus".
'Risg na ellir ei lliniaru ond gellir ei hosgoi'
Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford mai'r "gwirionedd yw bod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen yn peri risg na ellir ei lliniaru ond gellir ei hosgoi.
"Rhaid i'r prif weinidog newid cwrs cyn iddo fod yn rhy hwyr".
Negodiadau Brexit Llywodraeth y DU
Daw datganiad cyntaf y prynhawn gan y Prif Weinidog: "Y datblygiadau diweddaraf yn negodiadau Brexit Llywodraeth y DU".
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Paul Flynn yn 'ffrind a mentor gwych'
Mae AC Llafur Gorllewin Casnewydd, Jayne Bryant, yn galw'r diweddar Paul Flynn yn "ffrind a mentor gwych" ac yn dweud "ei fod yn caru Casnewydd, ac wastad yn ddiymhongar fod pobl Gorllewin Casnewydd wedi cadw ffydd ag ef".
BBCCopyright: BBC
'Bydysawd cyfochrog'
Mae Gareth Bennett yn dweud bod Llafur yn "dioddef gyda'r broblem hon o'r top i'r gwaelod".
"Meddai'r dyn hiliol", clywir cyn arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud.
Mae'r prif weinidog yn dweud ei fod fel "cyrraedd bydysawd cyfochrog" i dderbyn cwestiynau ar wrth-semitiaeth gan y blaid sy'n cynnwys Tommy Robinson.
BBCCopyright: BBC
Y Prif Weinidog Mark DrakefordImage caption: Y Prif Weinidog Mark Drakeford
Mynd i'r afael â gwrth-semitiaeth
Dywed arweinydd UKIP, Gareth Bennett, ei fod "ddim yn siŵr" bod y blaid Lafur yn gyfrwng effeithiol i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth, ar ôl i saith AS adael y blaid ddoe.
Mae Mark Drakeford yn dweud bod hyfforddiant ymwybyddiaeth yn bwysig i Aelodau'r Cynulliad ar y mater hwn.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl fawr
Dyna ddiwedd y trafodion yn y Siambr am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.
'Dyletswydd gofal gwastraff': cymeradwyo rheolau newydd
Mae'r Aelodau'r Cynulliad yn cymeradwyo rheolau newydd yn ei gwneud hi'n haws i gynghorau weithredu yn erbyn perchnogion tai sy'n rhoi eu gwastraff i bobl nad ydynt wedi'u hawdurdodi i'w drin.
Felly, gellid rhoi cosb benodedig o £300 - neu £150 os yw'n cael ei dalu'n gynnar - i gartrefi sy'n torri eu "dyletswydd gofal gwastraff".
Bydd cynghorau yn gallu cadw'r arian o'r hysbysiadau cosb benodedig i'w rhoi tuag at gostau gorfodi a chlirio.
Roedd 41 aelod o blaid a dau yn erbyn.
'Gwariant teg o’r gyllideb'
Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ystyried gwariant teg o’r gyllideb a fydd yn ysgafnhau’r pwysau presennol sy’n bodoli ar ein hysgolion".
'Esboniwch brosesau archwilio mewnol'
Gwelliant y Ceidwadwyr yw i ddileu popeth yng nghynnig y llywodraeth ("er na fwriadwyd iddo fod yn welliant 'dileu popeth' ", meddai'r llefarydd addysg Suzy Davies) a rhoi yn ei le fod y Cynulliad:
1. Yn gresynu at ganfyddiadau Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer 2017-18 ar gyfer disgyblion yn hanner ysgolion uwchradd Cymru, nad yw mwyafrif y disgyblion ar draws pob oedran a gallu yn gwneud digon o gynnydd.
2. Yn gresynu nad yw mwyafrif y disgyblion, yn hanner yr ysgolion, yn cyflawni yn unol â'u galluoedd erbyn iddynt gyrraedd diwedd addysg orfodol.
3. Yn gresynu at y gostyngiad parhaus yn nifer y lleoliadau sy'n darparu addysg ar gyfer plant 3 a 4 oed.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio unrhyw brosesau archwilio mewnol sydd ganddi o ran consortia rhanbarthol a rhannu canlyniadau unrhyw archwiliad mewnol neu allanol a allai fod wedi cael ei gynnal ers cyhoeddi canllawiau dilynol Estyn ar gyfer consortia rhanbarthol ac arolygwyr ym mis Medi 2017.
Estyn i ymweld ag ysgolion yn amlach
Bydd Estyn yn ymweld ag ysgolion yn amlach fel rhan o baratoadau'r cwricwlwm newydd meddai'r gweinidog addysg Kirsty Williams, gan ychwanegu y bydd y corff felly yn chwarae mwy o ran yn y gwaith o gefnogi ysgolion.
Yn ôl y gweinidog, mae'r cam yn un o gyfres o fesurau sydd â'r nod o wella safonau "gan roi'r pwyslais ar addysgu a dysgu, ar lesiant disgyblion ac athrawon ac ar leihau biwrocratiaeth ddiangen".
'Amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol'
Cynnig y llywodraeth yw bod y Cynulliad yn:
1. Nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.
2. Croesawu bod y “newid mewn diwylliant tuag at system fwy cydweithredol a hunan-wella yn parhau ar ei raddfa cyflym”.
3. Nodi bod safonau’n dda neu'n well mewn 8 allan o bob 10 ysgol gynradd, sydd yn gynnydd ar y llynedd.
4. Nodi, er bod safonau dal yn dda neu'n well mewn tua hanner o’n hysgolion uwchradd, bod amrywioldeb yn dal i fod yn her allweddol.
Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18
Yr eitem olaf heddiw yw dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18.
Mae safon ysgolion cynradd wedi gwella ond dim ond hanner yr ysgolion uwchradd gafodd eu graddio yn dda neu yn arbennig y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl arolygwyr.
Mae Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Estyn, Meilyr Rowlands, wedi dweud fod y gwelliannau yn "galonogol" gydag wyth allan o 10 ysgol gynradd wedi'i graddio'n dda neu well.
Ond dywedodd fod angen gwneud mwy i gynorthwyo ysgolion sy'n "achosi pryder".
Fe wnaeth arolygwyr ganfod nad yw'r mwyafrif o ddisgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth na'u sgiliau'n ddigon da, na chwaith yn gwneud unrhyw gynnydd mewn hanner o'r ysgolion uwchradd.
60% o dipio anghyfreithlon yn deillio o eiddo domestig
Dywed adroddiad gan Lywodraeth Cymru bod mwy na 60% o dipio anghyfreithlon yn deillio o eiddo domestig.
Gall cynghorau erlyn preswylwyr sy'n rhoi eu gwastraff i berson anawdurdodedig, ond gall erlyniadau gostio cyfartaledd o £200 i £400 y tro.
Rheoliadau Dyletswydd Gofal Gwastraff o ran Cartref
Mae ACau yn symud ymlaen i drafod Rheoliadau Dyletswydd Gofal Gwastraff o ran Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019, a fyddai'n cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i'r rhai nad ydynt yn talu cludwyr gwastraff awdurdodedig i gael gwared ar eu gwastraff.
Gwelodd cynghorau fwy na 35,000 o achosion o dipio anghyfreithlon mewn blwyddyn yn unig.
Costiodd £2m i drethdalwyr yng Nghymru i lanhau yn 2017-18.
Ar hyn o bryd, gellir rhoi hysbysiad cosb benodedig i berchnogion tai os ydynt yn cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon eu hunain.
'Ddim yn cyfateb i raddfa'r her'
Dywed Llyr Gruffydd Plaid Cymru nad yw "maint y rhaglenni hyn yn cyfateb i raddfa'r her yng Nghymru" a bod ymateb Llywodraeth Cymru yn hollol annigonol.
'Byddai dros 80,000 o gartrefi wedi bod yn wynebu baich llethol'
Dywed Lesley Griffiths, "Ers ei lansio bron i ddeng mlynedd yn ôl, mae ein rhaglen Cartrefi Cynnes wedi darparu cyngor ar arbed ynni i dros 112,000 o bobl ac wedi gwella dros 50,000 o gartrefi drwy osod mesurau sy'n arbed ynni. Mae'r rhaglen yn cynnwys Cynllun Nyth, cynllun sy’n ymateb i’r galw a Chynllun Arbed, sy'n seiliedig ar ardal.
"Heb y cymorth hwn, rydyn ni'n amcangyfrif y byddai dros 80,000 o gartrefi wedi bod yn wynebu baich llethol wrth geisio cadw'n gynnes y gaeaf hwn. Dylai estyn y rhaglen hon hyd 2021 ei gwneud yn bosibl inni wella hyd at 25,000 o gartrefi ychwanegol."