a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. ACau yn cymeradwyo y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) sydd yn bwriadu ei gwneud hi'n symlach ac yn decach wrth rentu.
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
  4. Dadl: Cyfnod 4 y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.)
  5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Rygbi
  6. Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Llywodraeth Leol
  7. Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Yr Undeb Ewropeaidd
  8. Dadl Fer: Gwasanaethau plant

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawth nesaf Ebrill 2.

    Y Siambr
  2. Dadl Fer: Gwasanaethau plant

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Neil McEvoy.

    A'r pwnc: "Gwasanaethau plant: amser am newid".

    Dadl, meddai, ar "y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau plant yn diogelu plant Cymru yn y ffordd orau".

    Neil McEvoy
  3. ACau yn cymeradwyo Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

    Mae ACau yn cymeradwyo Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).

    Roedd 42 o blaid, neb yn ymatal ac un yn erbyn.

    Mae Julie James yn dweud ei bod hi'n bwriadu i'r mesur ddod i rym yn yr hydref.

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru):

    • yn sicrhau na chodir tâl ar denantiaid am ymweliadau yng nghwmni rhywun, am dderbyn rhestr eiddo, am lofnodi contract, neu am adnewyddu tenantiaeth
    • yn caniatáu i asiantiaid gosod eiddo a landlordiaid godi tâl mewn perthynas â rhent, blaendaliadau sicrwydd, blaendaliadau cadw, neu pan fydd tenant yn torri amodau contract yn unig
    • yn darparu pŵer gwneud rheoliadau i gyfyngu ar lefel y blaendaliadau sicrwydd
    • yn rhoi cap ar flaendaliadau cadw i gadw eiddo cyn llofnodi'r contract rhentu i'r hyn a fydd gyfwerth ag wythnos o rent a chreu darpariaethau i sicrhau y gwneir yr ad-daliad yn brydlon
    • chreu proses orfodi glir, syml a chadarn ar gyfer achosion o droseddu.
  4. 'Cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE'

    Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, yn dweud bod cynnig UKIP yn methu mynd i'r afael â'r "anrhefn" presennol ynghylch Brexit.

    Gwelliant Llywodraeth Cymru yw y dylid dileu cynnig UKIP a rhoi yn ei le:

    1. Yn nodi bod yr Undeb Ewropeaidd a’i ragflaenydd wedi bod yn rym cadarnhaol dros heddwch a sefydlogrwydd parhaus yn Ewrop ers ei sefydlu.

    2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r safbwynt a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn pleidleisiau olynol ar 4 Rhagfyr 2018, 30 Ionawr 2019 a 5 Mawrth 2019.

    3. Yn credu beth bynnag fydd canlyniad y negodiadau presennol, y dylai’r Deyrnas Unedig geisio cynnal y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol agosaf posibl rhwng y DU a’r 27 gwladwriaeth arall sy’n rhan o’r UE.

    Eluned Morgan
  5. Alun Davies yn condemnio casineb tuag at wleidyddion

    Mae'r cyn-weinidog Alun Davies yn condemnio casineb tuag at wleidyddion, ac yn dweud bod yr heddlu wedi bod yn ei dŷ wedi i'w bartner, Anna McMorrin, AS Llafur Gogledd Caerdydd, dderbyn bygythiadau.

  6. Mark Reckless yn dweud ei fod wedi cael ei alw'n 'ymwelydd' yng Nghymru ac yn 'gelwyddgi'

    Dywedodd Mark Reckless, cyn aelod cynulliad UKIP, sydd bellach yn eistedd gyda'r Ceidwadwyr, ei fod wedi cael ei "ymosod" arno yn y Siambr ac wedi cael ei alw'n "ymwelydd" yng Nghymru, ac yn "gelwyddgi".

    "Nid dyma'r ffordd y dylai'r Senedd weithredu," meddai.

    Mark Reckless
  7. 'Ymestyn Erthygl 50 am hyd at 21 mis'

    Mae Plaid Cymru yn credu y dylid "ymestyn Erthygl 50 am hyd at 21 mis fel y gellir cynnal pleidlais y bobl i alluogi'r bobl i benderfynu a ddylid cymeradwyo'r Cytundeb Ymadael a drafodwyd neu aros yn yr UE".

    Mae Adam Price yn galw ar Lywodraeth Cymru "i wneud datganiad i'r Cynulliad yn nodi'r camau y mae wedi'u cymryd i baratoi ar gyfer pleidlais y bobl a pha sylwadau y mae wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU i'r perwyl hwn".

  8. 'Rhaid parchu canlyniad y refferendwm'

    Mae'r Ceidwadwyr yn credu bod yn rhaid "parchu canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ac y dylid gweithredu'r penderfyniad i ymadael".

    Mae Darren Millar yn galw ar Lywodraeth Cymru "i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd".

    Darren Millar
  9. 'Dod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE mor gyflym â phosibl'

    Mae UKIP hefyd yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn credu bod ansicrwydd parhaus y trafodaethau rhwng yr UE a'r Deyrnas Unedig yn creu perygl y bydd y Deyrnas Unedig yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn groes i ewyllys penderfyniad y pobl fel y mynegwyd yng nghanlyniad refferendwm 2016.

    2. Yn credu bod y prosiect Ewropeaidd yn rym ddi-baid, yn cael ei hyrwyddo gan sefydliadau parhaol yr UE, yn arbennig y Comisiwn, a bod y risgiau o aros o fewn yr UE yn cynnwys dod yn ddarostyngedig i fyddin Ewropeaidd, rhagor o integreiddio economaidd ac erydu sofraniaeth y Deyrnas Unedig.

    3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar ddod i gytundeb masnach rydd gyda'r UE mor gyflym â phosibl, er mwyn hwyluso'r broses o ymadael yn llawn a dirwystr â'r Undeb Ewropeaidd.

  10. Dadl UKIP: Yr Undeb Ewropeaidd

    Symudwn ymlaen nawr at ddadl gan UKIP.

    A'r pwnc o'u dewis yw yr Undeb Ewropeaidd.

    Mae David Rowlands UKIP yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi bod y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo aelod-wladwriaethau i symud tuag at uno agosach fyth ymhlith pobl Ewrop.

    2. Yn gresynu bod yr UE, ers 1973, wedi cymryd pŵer oddi ar seneddau cenedlaethol etholedig, ac wedi ei ganoli yn nwylo sefydliadau anetholedig yr UE.

    3. Yn nodi bod fetoau cenedlaethol yn cael eu herydu wrth ffafrio pleidlais y mwyafrif yng Nghyngor y Gweinidogion, mewn nifer gynyddol o feysydd polisi, ac y bydd y duedd hon yn parhau am gyfnod amhenodol.

    David Rowlands
  11. 'Lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr'

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn dweud y dylid:

    Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

    "Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr.

    "Yn cydnabod bod y fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn flynyddol drwy bartneriaeth rhwng llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru".

    Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James
    Image caption: Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James
  12. 'Cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau'

    Mae Plaid Cymru hefyd yn dweud y dylid "cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau".

    Ac mae'r blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru "i leihau nifer y grantiau neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth i lywodraeth leol wario grantiau".

  13. Galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar setliad ariannu tymor hir ar gyfer llywodraeth leol

    Ar ran Plaid Cymru mae Dai Lloyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i ymgynghori ar setliad ariannu tymor hir ar gyfer llywodraeth leol a fyddai'n caniatáu ar gyfer cynllunio tymor hwy ar gyfer llywodraeth leol".

    Mae Plaid Cymru hefyd yn dweud y dylid "cydnabod fod y dreth gyngor wedi cynyddu oherwydd llymder a weithredwyd gan San Steffan a diffyg blaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r gyllideb".

    Dai Lloyd
  14. Dadl: Ariannu Llywodraeth Leol

    Nesaf yn y Siambr Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Llywodraeth Leol.

    Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

    2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

    3. Yn nodi bod trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd, yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr na'r Alban.

    4. Yn gresynu bod

    a) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999; a

    b) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.

    5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.

    Llywodraeth Leol
  15. 'Nid lle Llywodraeth Cymru yw dweud wrth Undeb Rygbi Cymru sut i redeg rygbi yng Nghymru'

    Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas, yn dweud nad lle Llywodraeth Cymru yw dweud wrth Undeb Rygbi Cymru sut i redeg rygbi yng Nghymru.

    Mae'r bleidlais ar y cynnig yn cael ei gohirio tan ddiwedd y cyfarfod llawn.

  16. Cefnogaeth trawsbleidiol

    Mae gan y cynnig gefnogaeth trawsbleidiol, gydag aelodau Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn ei gefnogi.

    Cyd-gyflwynwyr

    Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)Huw Irranca-Davies (Ogwr)

    Cefnogwyr

    Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)David Rees (Aberafan)Hefin David (Caerffili)Janet Finch-Saunders (Aberconwy)Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)Lynne Neagle (Torfaen)Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

  17. Dim newid i ranbarthau rygbi Cymru yn nhymor 2019/20

    Bydd pedwar rhanbarth rygbi Cymru yn aros yr un fath ar gyfer y tymor nesaf, yn ôl datganiad yr wythnos ddiwethaf gan y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB).

    Daw'r cyhoeddiad yn dilyn trafodaethau gan y bwrdd i uno'r Scarlets a'r Gweilch - opsiwn a oedd yn peri pryder i nifer o chwaraewyr a chefnogwyr.

    Dywedodd datganiad y PRB y bu cefnogaeth i'r syniad o uno dau ranbarth yn wreiddiol, ond bod y clybiau dan sylw wedi datgan nad oedd y syniad hyd yn oed yn opsiwn bellach.

    Nid oes yna gynlluniau pendant ar gyfer beth fydd yn digwydd i'r clybiau rhanbarthol wedi tymor 2019/20.

    Cytunodd y PRB ei bod hi'n angenrheidiol adeiladu ar fomentwm Camp Lawn Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a chyfraniad sylweddol y rhanbarthau er budd rygbi yng Nghymru.

    Roedd y PRB wedi trafod uno'r Scarlets a'r Gweilch a chreu rhanbarth newydd yn y gogledd
    Image caption: Roedd y PRB wedi trafod uno'r Scarlets a'r Gweilch a chreu rhanbarth newydd yn y gogledd
  18. Dadl: Rygbi

    Nesaf yn y Siambr Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv).

    A'r pwnc: Rygbi

    Mae Andrew RT Davies yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi:

    a) pwysigrwydd rygbi i bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i le arbennig yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl;

    b) yr heriau ariannol a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd;

    c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y rhanbarthau; a

    d) y pryderon cryf a fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r Sgarlets.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.

  19. Efallai y bydd angen i'r Cynulliad 'gymryd rheolaeth o'r broses yma'

    Mae'r cyn-weinidog Alun Davies yn dweud "efallai bydd angen i'r lle hwn gymryd rheolaeth o'r broses yma os nad yw'r llywodraeth yn gallu gwneud hynny".

    Mae e hefyd yn galw ar i'r ymchwiliad arall i ollwng gwybodaeth gael ei gyhoeddi.

    Alun Davies
  20. 'Ergyd ddifrifol iawn i enw da Llywodraeth Cymru am onestrwydd'

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn disgrifio dyfarniad yr Uchel Lys fel "ergyd ddifrifol iawn i enw da Llywodraeth Cymru am onestrwydd".

    Adam Price