a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw - bydd Senedd Fyw yn dychwelyd brynhawn Mawrth, 21 Ionawr.

    Senedd
  2. Dadl Fer: Dathlu Arwyr Cymru

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan Mick Antoniw (Pontypridd) ar gyfer y ddadl fer yw: Dathlu Arwyr Cymru: Cyfraniad arwyr Cymru i broffil rhyngwladol ein gwlad.

    Newyddiadurwr o Gymru yw un o'r arwyr y mae'n cyfeirio ato, dyn a gyfranodd at ddatgelu hil-laddiad yn Undeb Sofietaidd Joseph Stalin.

    Helpodd Gareth Jones, a oedd hefyd yn gynorthwyydd personol i'r cyn-brif weinidog David Lloyd George, i ddatgelu polisi "holodomor" Stalin o lwgu bwriadol.

    Bu farw rhwng 4m a 10m o bobl yn yr Wcráin yn ystod 1932/33.

    Mick Antoniw
  3. Pasio cynnig Plaid Cymru

    Mae cynnig Plaid Cymru ar drais a chamdriniaeth rywiol wedi ei basio heb welliannau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

    Roedd 35 o blaid, dau yn ymatal a 12 yn erbyn.

  4. Trawma wedi camgyhuddo

    Mae'r AC Neil Hamilton yn disgrifio'r trawma y bu'n rhaid iddo ef a'i wraig Christine wynebu wedi i'r ddau gael eu camgyhuddo o dreisio yn 2001.

    Cafodd y ddynes a wnaeth eu cyhudddo ei chanfod yn euog o ffugio'r digwyddiad.

    Neil Hamilton
  5. 'Cael fy nharo gan ddyn am wrthod mynd mewn i'w dŷ'

    Mae Jenny Rathbone yn datgelu ei bod hi pan yn 18 oed "wedi cael ei tharo o gwmpas ei phen" wedi iddi roi lifft adre i fachgen a gwrthod mynd mewn i'w dŷ".

    Mae'n dweud na wnaeth hi sôn am y mater wrth neb.

    Jenny Rathbone
    Image caption: Jenny Rathbone
  6. 'Adfer hyder yn y system gyfiawnder'

    Mae dau welliant y Ceidwadwyr, a gyflwynir gan Mark Isherwood, yn ceisio ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

    • "Yn nodi bod adroddiad Arolwg Trais Rhywiol 2019 Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM wedi canfod bod nifer yr achosion a gyfeiriwyd at y Gwasanaeth i gael eu penderfynu gan yr heddlu a nifer yr achosion a erlynwyd gan y Gwasanaeth wedi disgyn, er gwaethaf bod adroddiadau o drais a gaiff eu cyflwyno i'r heddlu bron wedi dyblu".
    • "Yn nodi datganiad Llywodraeth y DU bod y canfyddiadau yn peri pryder mawr a'i bod wedi ymrwymo i adfer hyder yn y system gyfiawnder a darparu gwell cefnogaeth i ddioddefwyr."
  7. 'Cynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol'

    Ar ran Plaid Brexit, mae Mandy Jones yn cyflwyno'r gwelliant i "nodi adroddiad Comisiwn Thomas ac yn diolch i’r Comisiwn am ei waith ar y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder gan edrych ymlaen at y ddadl a addawyd yn ystod amser y llywodraeth ar ganfyddiadau’r Comisiwn ac unrhyw effaith gaiff y rhain ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol".

    Mandy Jones
    Image caption: Mandy Jones
  8. Cynnydd mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan Plaid Cymru yw Trais a Chamdriniaeth Rywiol.

    Mae Leanne Wood ar ran Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi’r cynnydd mewn adroddiadau o drais rhywiol yng Nghymru a Lloegr.

    2. Yn mynegi cydymdeimlad ac undod â goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol.

    3. Yn gresynu at fethiant parhaus nifer o systemau cyfiawnder troseddol ledled y byd i gynnig cefnogaeth i oroeswyr, a gresynu’r ffaith nad yw goroeswyr, yn rhy aml, yn cael eu credu ac yn cael eu gorfodi i ail-fyw profiadau erchyll drwy brosesau llys dwys, a diwylliannau mewn heddluoedd nad ydynt yn credudioddefwyr.

    4. Yn nodi bod erlyniadau ar gyfer trais rhywiol ac euogfarnau yng Nghymru a Lloegr ar eu lefelau isaf ers degawd, a bod gwella cyfraddau euogfarnu’n rhan hanfodol o strategaeth atal trais.

    5. Yn nodi bod comisiwn Thomas wedi dadlau mai dim ond datganoli deddfwriaethol llawn, ar y cyd â phwerau gweithredol, fydd yn goresgyn rhwystrau’r setliad datganoli presennol o ran mynd i’r afael â diffyg cyfiawnder ac atebolrwydd y status quo.

    6. Yn galw i gefnogaeth a gwasanaethau ymosodiad rhywiol fod ar gael a chael eu hariannu’n ddigonol, ac i lysoedd gael eu haddasu fel y bydd dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu hamddiffyn, nid eu dychryn, wrth roi tystiolaeth.

    7. Yn galw i ddatganoli cyfiawnder fel y gallwn fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarnu isel hyn drwy fabwysiadu arfer gorau rhyngwladol ar gynyddu cyfraddau euogfarnu ac atal camdriniaeth a thrais rhywiol.

    Leanne Wood
    Image caption: Leanne Wood
  9. 'Angen dealltwriaeth o hunaniaeth, tirwedd a hanesion' sy' ffurfio cynefin

    Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg, sy'n ymateb ar ran Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.

    Maent yn gwrthod un o'r argymhellion sef: "Dylai’r Cwricwlwm i Gymru 2022 gynnwys canllaw sy’n nodi corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy’n astudio hanes. Bydd y digwyddiadau a’r pynciau allweddol hyn yn galluogi pob disgybl i ddeall sut mae ei wlad wedi cael ei dylanwadu gan ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol yng nghyd-destun hanesion Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol".

    Dywed y Llywodraeth bod "Cwricwlwm Cymru yn gwricwlwm pwrpasol sy'n torri cwys newydd drwy ymwrthod â rhestrau o ‘bynciau / cynnwys’ sydd i'w haddysgu.

    "Mae Cwricwlwm Cymru yn rhoi mynegiant clir i'r ddealltwriaeth cyd-destunol sy'n angenrheidiol ar gyfer cael dilyniant yn y dysgu.

    "Bydd hanes yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Mae canllawiau MDPh y Dyniaethau yn amlinellu methodoleg ar gyfer dewis cynnwys, ac mae'n cyfeirio at yr angen parhaus i sôn am ardal leol y dysgwr a stori Cymru, yn ogystal â pherthynas stori Cymru â'r byd yn ehangach, er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth ac amrywiol cymdeithasau'r gorffennol a chymdeithasau'r dyfodol.

    "Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gydag ymarferwyr i gomisiynu adnoddau newydd a fydd yn cyfeirio at ddigwyddiadau a phynciau allweddol yn hanes Cymru a’r byd.

    "Bydd hyblygrwydd y Cwricwlwm newydd yn ychwanegu at hyn drwy ganiatáu i athrawon ddarparu gwersi mewn ffyrdd mwy creadigol, sy’n fwy priodol i’r dysgwyr sy’n cael eu haddysgu. Bydd canllawiau'r cwricwlwm hefyd yn glir ar ba mor bwysig ydyw i gwricwla ysgolion adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth ddiwylliannol a'i hamrywiaeth, ynghyd a gwerthoedd, hanes a thraddodiadau ein cymunedau a’n pobl.

    "Dylai dysgwyr gael sylfaen a dealltwriaeth o’r hunaniaeth, y dirwedd a'r hanesion sy'n ffurfio eu cynefin. Bydd hyn yn eu galluogi i feithrin ymdeimlad cryf o'u hunaniaeth a'u lles eu hunain, a bydd hefyd yn gymorth iddynt ddatblygu dealltwriaeth o hunaniaeth eraill a gwneud cysylltiadau â phobl, lleoedd a hanesion mewn mannau eraill yng Nghymru ac ar draws y byd."

    Mae modd gweld yr ymateb llawn yma.

  10. Arolwg barn cyhoeddus y Pwyllgor

    Cynhaliodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu arolwg barn cyhoeddus yn ystod haf 2018, gan wahodd aelodau’r cyhoedd i ddewis o restr o bynciau posibl ar gyfer ymchwiliad.

    Cymerodd bron i 2,500 o bobl ran yn yr arolwg barn. Pleidleisiodd pedwar a deugain y cant dros “Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion”.

    Roedd rhai o’r sylwadau a gyflwynwyd fel rhan o’r arolwg barn yn dadlau "nad yw’r cwricwlwm presennol yn caniatáu i blant Cymru ddeall eu lle yn y byd gan nad ydynt yn cael eu haddysgu am eu hanes, eu hiaith a’u harferion eu hunain" ac "mae addysgu hanes a diwylliant Cymru ar draws y cwricwlwm yn hanfodol os yw plant ysgol ac oedolion ifanc am feithrin hunaniaeth Gymreig. Mae hyn yn elfen hanfodol o addysg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg".

    Castell
    Image caption: Mae angen dysgu gwybodaeth am hanes Cymru sy'n gyffredin i bawb er mwyn sicrhau bod disgyblion yn gwybod am "ein stori genedlaethol", yn ôl pwyllgor Cynulliad
  11. Cynnal adolygiad thematig

    Y Cadeirydd Bethan Sayed sy'n cyflwyno'r adroddiad sy'n cynnwys wyth o argymhellion.

    Un ohonynt yw y "Dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Estyn gynnal adolygiad thematig o drefniadau addysgu hanes Cymru mewn ysgolion. Hoffai’r Pwyllgor gael tystiolaeth o’r graddau y mae ysgolion yn bodloni gofynion y manylebau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch o ran addysgu cynnwys Cymreig."

  12. Cymeradwyo pob un o'r argymhellion

    Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, sy'n ymateb ar ran Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.

    Mae pob un o'r argymhellion wedi'u cymeradwyo.

    Mae modd gweld ymateb llawn Llywodraeth Cymru yma.

    Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
    Image caption: Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
  13. 'Angen ystyried cynlluniau buddsoddi mewn seilwaith yn y tymor hwy'

    Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru), Cadeirydd y Pwyllgor, sy'n cyflwyno'r adroddiad sy'n cynnwys naw o argymhellion.

    Yn gyntaf mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru "yn ystyried cynlluniau buddsoddi mewn seilwaith yn y tymor hwy, sy’n blaenoriaethu ac yn dyrannu ffynonellau cyllid i brosiectau i sicrhau bod darlun clir o faint o fenthyca fydd ei angen yn y blynyddoedd i ddod".

    Llyr Gruffydd
    Image caption: Llyr Gruffydd
  14. Cwestiwn Amserol 2: 'Effaith Flybe ar faes awyr Caerdydd?'

    Mae Russell George (Sir Drefaldwyn) yn gofyn: "A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i adroddiadau ynghylch dyfodol Flybe a'i effaith ar faes awyr Caerdydd?"

    Mae Ken Skates yn nodi bod llywodraeth y DU wedi addo cydweithio â Flybe i ganfod cynllun ad-dalu dyled treth sylweddol - a gredir o fod yn fwy na £100m - ond mae'n ychwanegu bod yn rhaid i lywodraeth y DU "ymyrryd ymhellach er mwyn sicrhau bod meysydd awyr llai yn gystadleuol".

    Flybe
  15. Cwestiwn Amserol 1: Colledion swyddi Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy

    Mae Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) yn gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Mondi ynghylch colledion swyddi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint?"

    Mae gweinidog yr economi, Ken Skates, yn ateb "rydym yn canolbwyntio ar berswadio'r cwmni i gadw'r safle yng ngogledd Cymru".

    Mae'r cwmni pecynnu wedi cyhoeddi ei fwriad i gau dwy ffatri, allai arwain at golli dros 160 o swyddi yng Nghymru.

    Dywedodd cwmni Mondi y byddai'n cau ei safle ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, lle bydd 167 o swyddi'n diflannu.

    Yn ogystal bydd yn cau ail safle yn Nelson, Sir Gaerhirfryn, gan effeithio 41 o swyddi.

    Safle Mondi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
    Image caption: Safle Mondi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
  16. Polisi meddygon

    Mae arweinydd grŵp Plaid Brexit, Mark Reckless, yn gofyn a yw polisi Llywodraeth Cymru yn cael "effaith negyddol ar gadw a denu meddygon".

    Dywed, "Pan rwy'n siarad â meddygon yng Nghymru, rwy'n canfod fod eu canfyddiad bod cyflogau yn llai yng Nghymru ddim yn gytbwys o ystyried y gwahaniaethau bach sy'n bodoli."

    Mae'n cwestiynu a yw'r "arbedion" sy'n cael eu gwneud gan y polisi yn fuddiol.

    Mae Mr Gething yn cydnabod bod "ychydig o sensitifrwydd am raddfeydd cyflog ar naill ochr y ffin."

    Mark Reckless
    Image caption: Mark Reckless
  17. '370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru'

    Mae Janet Finch-Saunders o'r Ceidwadwyr yn galw am fwy o gefnogaeth i'r "fyddin o 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru".

    Mae Julie Morgan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ateb gan ddweud mai'r tair blaenoriaeth genedlaethol yw:

    • Helpu i fyw yn ogystal â gofalu
    • Adnabod a chydnabod gofalwyr
    • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr
    Janet Finch-Saunders
    Image caption: Janet Finch-Saunders
    Julie Morgan
    Image caption: Julie Morgan
  18. 'Y sefyllfa lot yn well?'

    Ar y mater o oedi mewn trosglwyddo gofal yn y gwasanaeth iechyd, mae Helen Mary Jones yn cwestiynu haeriad y prif weinidog ddoe sef "ry'n ni wedi datrys y broblem, ac mae'r sefyllfa lot yn well nag yr oedd hi pan ddechreuais fel Gweinidog dros Iechyd".

    Helen Mary Jones
    Image caption: Helen Mary Jones