a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd yfory.

    Senedd
  2. 'Amlinellu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer diogelu hawliau dynol'

    Dim ond un gwelliant sydd wedi ei gyflwyno i'r cynnig.

    Mae Plaid Cymru am ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig "yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer diogelu hawliau dynol mewn ffordd gadarn ac ystyrlon nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd".

    Cefnogir y gwelliant gan Lywodraeth Cymru.

  3. Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2018-2019

    Yr eitem olaf heddiw yw dadl ar Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2018-2019.

    Cynnig Llywodraeth Cymru yn syml yw bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi adroddiad blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Adroddiad Effaith Cymru 2018-19.

    Mae Dr Alison Parken, cadeirydd dros dro, pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn honni eu bod "wedi cyflawni rhaglen helaeth o waith i roi cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i fywyd yng Nghymru".

  4. Deddfwriaeth yn ymwneud â gadael yr UE

    Mae datganiad olaf y dydd gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Jeremy Miles: "Deddfwriaeth yn ymwneud â gadael yr UE".

    Mae'n rhybuddio y bydd angen i'r Cynulliad basio "corff sylweddol o isddeddfwriaeth eleni".

    Brexit
  5. Prosiectau Metro

    Symudwn ymlaen at Ddatganiad gan Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru Ken Skates: "Prosiectau Metro yng Nghymru".

    Dywed, "Rwyf am gadarnhau ein hymrwymiad i'n Metros a nodi ein cynlluniau i ddatblygu rhaglenni uchelgeisiol yn yr un modd ar gyfer Gorllewin Cymru a Bae Abertawe, Gogledd Cymru, ac ehangu ymhellach ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd".

    Metro
  6. Adeiladu tai cymdeithasol

    Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James: "Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru - strategaeth dulliau modern o adeiladu ar gyfer Cymru".

    Er mwyn cyflenwi tai yn gyflym, dywed y bydd cynghorau’n cael eu hannog "i ddefnyddio dulliau adeiladu modern, a fydd yn golygu bod modd iddynt adeiladu cartrefi o ansawdd gwell yn gynt nag sy’n bosibl drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol. Bydd hyn yn eu galluogi i ddiwallu’r angen cynyddol am dai fforddiadwy ar draws y wlad.

    "Mae ystod y dulliau adeiladu modern yn amrywio o ddefnyddiau a thechnoleg newydd i weithgynhyrchu oddi ar y safle sydd naill ai yn disodli dulliau adeiladu traddodiadol neu yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â nhw."

    Tai
  7. 'Dwi ddim yn credu ei bod hi'n deilwng o ateb'

    Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn gofyn pam nad oedd help wedi bod ar gael i ddioddefwyr Storm Ciara tan ar ôl Storm Dennis.

    Mae Lesley Griffiths yn ateb "Dwi wir yn gwrthwynebu tôn" ei chwestiynau cyn stopio'n sydyn - "dwi ddim hyd yn oed yn mynd i edrych arnoch chi. Mewn gwirionedd, dirprwy lywydd, dwi ddim yn credu ei bod hi'n deilwng o ateb".

    Janet Finch-Saunders
    Image caption: Janet Finch-Saunders
  8. Galw am ymchwiliad annibynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru

    Mae sawl AC yn cyfeirio at y ffaith bod rhwystr y credir iddo achosi llifogydd yn Rhondda Cynon Taf wedi digwydd oherwydd coetir a dorrwyd i lawr gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

    Cafywd llifogydd ym Mhentre am yr eildro mewn pum niwrnod ar ôl i'r cwlfert gwympo oherwydd y coed.

    Mae Leanne Wood o Blaid Cymru, AC y Rhondda, yn galw am ymchwiliad annibynnol.

    Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod 95% o goetir Pentre wedi cael ei dorri mewn ymgais i fynd i'r afael â chlefyd Larch.

    Cyfaddefodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod coed a dorrwyd wedi blocio cylfat, gan achosi'r llifogydd ym Mhentre
    Image caption: Cyfaddefodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod coed a dorrwyd wedi blocio cylfat, gan achosi'r llifogydd ym Mhentre
  9. Llifogydd yn ystod y stormydd Ciara a Dennis

    Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths - "Y Diweddaraf am yr Uwchgynhadledd Argyfwng am y Llifogydd".

    Bydd pobl y mae eu cartrefi wedi dioddef o lifogydd yn ystod y stormydd Ciara a Dennis yn derbyn hyd at £1000 gan Lywodraeth Cymru.

    Bydd pob cartref ledled Cymru sydd wedi dioddef o lifogydd yn derbyn £500. Bydd £500 ychwanegol yn cael ei roi i’r rhai heb yswiriant tŷ. Bydd pobl yn derbyn taliad cychwynnol o fewn 24 awr.

    Lesley Griffiths
    Image caption: Lesley Griffiths
  10. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Symudwn ni ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

    Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans AC yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

    Rebecca Evans
    Image caption: Rebecca Evans
  11. Galw am adolygiad brys o sefydlogrwydd tomenni glo

    Mae AC Plaid Cymru dros y Rhondda, Leanne Wood yn codi pryder ynghylch tomenni glo, gan alw am adolygiad brys o’u sefydlogrwydd.

    Dywed Mr Drakeford y derbyniwyd sicrwydd nad yw tomenni glo sy'n achosi'r pryder mwyaf yn peri risg i fywyd ac eiddo.

    Leanne Wood
    Image caption: Leanne Wood
  12. 'Amddiffynfeydd o fewn centimetrau i gael eu gorlethu'

    Mae cwestiynau ar lifogydd wedi parhau.

    Dywed Jayne Bryant, Gorllewin Casnewydd, fod amddiffynfeydd mewn rhannau o’i hetholaeth o fewn centimetrau i gael eu gorlethu.

    Jayne Bryant
    Image caption: Jayne Bryant
  13. Cydweithredu wedi llifogydd

    Mae arweinydd grŵp Plaid Brexit, Mark Reckless, yn gofyn a allai’r llythyr gan wleidyddion Llafur yn y cymoedd yn gofyn am gymorth llywodraeth y DU ar gyfer y difrod llifogydd ddarparu templed ar gyfer cydweithredu pellach.

    Dywed Mark Drakeford pan fydd digwyddiadau anrhagweladwy a chostau’n uchel mae’r gallu i fynd i’r Trysorlys am gymorth yn un y maent wedi’i ddefnyddio o’r blaen ac wedi ei ddefnyddio eto.

    Gofynna Mr Reckless a allai Llywodraeth Cymru ofyn am arian ar gyfer prosiectau fel yr A55 neu ffordd yr M4.

    Mae Mr Drakeford yn ateb bod "yr undeb yn gynllun sicrwydd ar y cyd".

    Mark Reckless
    Image caption: Mark Reckless
  14. Brwydr ariannol

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford mai rhan o’r rheswm y mae ei lywodraeth yn gofyn i lywodraeth y DU am gymorth gyda chanlyniad y llifogydd yng Nghymru yw oherwydd bod y Trysorlys yn ddiweddar, a gyda byr rybudd, wedi gwneud i Lywodraeth Cymru ad-dalu £200m iddynt.

    Dywed Mr Drakeford fod y Trysorlys wedi mynnu’r ad-daliad chwe wythnos yn ôl oherwydd eu bod wedi ailgyfrifo canlyniadau Barnet.

  15. £180m o ddifrod yn Rhondda Cynon Taf

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn gofyn a oes gan Lywodraeth Cymru ffigur ar gyfer y swm y mae'n gofyn i lywodraeth y DU ei ddarparu ar gyfer effeithiau'r llifogydd.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford nad yw hynny'n bosibl ar hyn o bryd. "Mae peth o'r difrod y bydd angen ei atgyweirio yn dal i fod o dan y dŵr", meddai.

    Ychwanegodd nad yw amcangyfrif a roddwyd gan Mr Price o £180m o ddifrod yn Rhondda Cynon Taf yn unig "yn afresymol".

    Dywed Adam Price hefyd y byddai dynion a menywod o Gymru yn y lluoedd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r argyfwng pe bai rhywun wedi gofyn iddyn nhw. A ofynnwyd i'r fyddin am gymorth, ac os na, pam lai, mae'n gofyn i Mr Drakeford.

    Dywed Mr Drakeford i'r mater gael ei drafod gan y gwasanaethau brys. Y penderfyniad oedd peidio â gwneud cais o'r fath oherwydd bod amgylchiadau mor "beryglus" dim ond pobl a hyfforddwyd i ddelio â nhw fyddai yn ddiogel, meddai wrth Mr Price.

    Adam Price
    Image caption: Adam Price
  16. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi dioddefwyr y llifogydd?

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies yn gofyn a yw’r prif weinidog yn hyderus bod ei lywodraeth wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi dioddefwyr y llifogydd.

    Dywed Mark Drakeford ei fod yn ceisio cymorth gan lywodraeth y DU wrth i gostau fynd y tu hwnt i’r hyn y gall gweinidogion yng Nghymru eu hysgwyddo.

    Mae Paul Davies yn gofyn i’r prif weinidog a yw’n derbyn bod diffyg strategaeth rheoli risg llifogydd wedi’i diweddaru - dywed ei bod yn ddeng mlynedd ers yr un ddiwethaf - yn gwneud i rai cymunedau deimlo nad yw llifogydd yn flaenoriaeth.

    Dywed Mr Drakeford y bydd strategaeth newydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir. "Rwy'n amau'n fawr fod cymunedau a oedd yn dioddef llifogydd yn poeni am gyhoeddi strategaeth", meddai.

    Dywed Mr Drakeford wrth Paul Davies y bydd yn rhaid i brofion ar gyfer cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd fod yn wahanol yn y dyfodol gyda dwyster cynyddol disgwyliedig y tywydd eithafol.

    Paul Davies
    Image caption: Paul Davies
  17. Allforio anifeiliaid byw

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth Mandy Jones o Blaid Brexit fod ei lywodraeth wedi cefnogi galwad llywodraeth y DU am dystiolaeth ar waharddiad ar allforio anifeiliaid byw.

    Mark Drakeford
    Image caption: Mark Drakeford
  18. Llifogydd yn dominyddu Cwestiynau i'r Prif Weinidog

    Wrth i gymunedau barhau â'r broses o atgyweirio difrod i gartrefi, busnesau a seilwaith ledled Cymru, mae bron i hanner y cwestiynau a gyflwynwyd yn ymwneud â'r llifogydd.

    Bachgen yn cerdded trwy lôn dan ddŵr ym Mhontypridd yn ystod Storm Dennis
    Image caption: Bachgen yn cerdded trwy lôn dan ddŵr ym Mhontypridd yn ystod Storm Dennis
    Wedi glaw trwm dros y penwythnos, cafwyd llifogydd newydd ar hyd Afon Dyfi ym Machynlleth, Powys
    Image caption: Wedi glaw trwm dros y penwythnos, cafwyd llifogydd newydd ar hyd Afon Dyfi ym Machynlleth, Powys