a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sara Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar 3 Mawrth.

    Senedd
  2. Dadl Fer: Yr economi wedi Brexit

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) ar gyfer y ddadl fer yw'r economi wedi Brexit.

    Mae'n dweud ei fod "yn hyderus y bydd Ewrop mewn rhai blynyddoedd yn cael ei gweld fel marchnad cymharol fechan ar gyfer cynnyrch o Gymru yn gyffredinol".

    David Rowlands
    Image caption: David Rowlands
  3. 'Datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru'

    Mae ACau yn gwrthod cynnig Plaid Brexit a oedd yn "gresynu wrth fethiant datganoli yng Nghymru hyd yma" ac yn ei le yn cymeradwyo cynnig Llywodraeth Cymru bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru "yn croesawu’r cyfraniadau cyfunol sydd wedi’u gwneud gan bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a chan y gymdeithas sifig yn ehangach i sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru".

    Roedd 35 o blaid, fe wnaeth naw ymatal ac roedd saith yn erbyn.

  4. Cwestiwn Amserol 2: Coronafeirws

    Mae Andrew RT Davies (Canol De Cymru) yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething:Yng ngoleuni'r cynnydd diweddar yn y coronafeirws ar draws Ewrop, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf i bobl yng Nghymru?

    Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, a fu mewn cyfarfod COBRA yn gynharach heddiw, yn nodi bod gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei diweddaru yn ddyddiol am 3pm.

    Does dim achosion o Coronavirus wedi'u cadarnhau yng Nghymru - mae 209 wedi cael profion ac mae pob un o'r profion hynny yn negyddol.

    Coronavirus
  5. Croesawu cyfraniadau cyfunol

    Mae cynnig Llywodraeth Cymru am ddileu cynnig Plaid Brexit ac yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu’r cyfraniadau cyfunol sydd wedi’u gwneud gan bleidiau gwleidyddol ar bob ochr a chan y gymdeithas sifig yn ehangach i sicrhau mai datganoli yw ewyllys sefydlog pobl Cymru.

  6. 'Dylid diddymu'r Cynulliad'

    Mae Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru), yr unig AC UKIP yn y Senedd bellach, yn cynnig gwelliannau sef:

    • y dylid diddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
    • yn credu bod dewisiadau ymarferol eraill yn lle datganoli, yn absenoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys democrateiddio'r GIG a rhoi mwy o bwerau i riant-lywodraethwyr i benderfynu ar bolisi addysg ysgolion.
    Neil Hamilton
    Image caption: Neil Hamilton
  7. Gwahaniaethu rhwng y senedd a'r llywodraeth

    Mae Darren Millar (Gorllewin Clwyd) ar ran y Ceidwadwyr am wneud hi'n glir y gwahaniaeth rhwng datganoli a record y Blaid Lafur sydd wedi bod mewn grym, naill ai ar ben eu hunain neu mewn clymblaid, ers i'r cynulliad gael ei greu yn 1999.

    Mae e'n galw am ddileu 'datganoli yng Nghymru' yn y cynnig a rhoi yn ei le 'llywodraethau olynol Cymru' er mwyn gwahaniaethu yn glir rhyngddynt.

    Darren Millar
    Image caption: Darren Millar
  8. 'Penderfyniadau am Gymru i gael eu gwneud gan bobl sy'n byw a gweithio yma'

    Mae Dai Lloyd ar ran Plaid Cymru am ddileu popeth ac yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    • Yn gresynu wrth hanes anobeithiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod mewn grym yn barhaus ers dechrau datganoli.
    • Yn credu bod Llywodraethau olynol y DU – o dan Lafur a’r Ceidwadwyr – wedi llywyddu dros dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau a thanfuddsoddi yng Nghymru.
    • Yn credu y dylai penderfyniadau am ddyfodol Cymru gael eu gwneud gan y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.
    • Yn credu mai meddu ar ysgogiadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw’r allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol.
    • Yn cytuno mai cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru ddylai fod â’r grym i alw refferendwm ar annibyniaeth yn y dyfodol, heb unrhyw feto gan San Steffan.
    Dai Lloyd
    Image caption: Dai Lloyd
  9. 'Datganoli wedi'i lesteirio hyd yma gan y methiant i ddatganoli rhagor o bwerau'

    Mae Neil McEvoy (Canol De Cymru) o blaid newydd Plaid Genedlaethol Cymru yn cynnig dileu popeth yng nghynnig Plaid Brexit a rhoi yn ei le bod y Cynulliad:

    • Yn gresynu bod datganoli yng Nghymru wedi cael ei lesteirio hyd yma gan y methiant i ddatganoli rhagor o bwerau.
    • Yn galw am gryfhau datganoli yng Nghymru drwy ddatganoli'r doll teithwyr awyr a datganoli deddfwriaeth y system gyfiawnder yn llawn a chadw sefydliadau cyfiawnder annibynnol Cymru.
    Neil McEvoy
    Image caption: Neil McEvoy
  10. 'Methiant datganoli yng Nghymru'

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan Plaid Brexit ar gyfer eu dadl yw datganoli.

    Mae arweinydd y grŵp Mark Reckless o Blaid Brexit yn cyflwyno'r cynnig bod y cynulliad yn "gresynu wrth fethiant datganoli yng Nghymru hyd yma".

    Mae'n dweud bod Plaid Brexit yn credu y dylai Prif Weinidog Cymru gael ei ethol yn uniongyrchol.

    Mark Reckless
    Image caption: Mark Reckless
  11. 'Galw am gyhoeddi yr ymchwiliadau i achos llifogydd'

    Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod yr alwad am "ymchwiliad annibynnol llawn" ac yn galw am ddileu pwynt 4 ac ar i Lywodraeth Cymru i:

    a) sicrhau bod yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, yn cael craffu arnynt;

    b) darparu cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y llifogydd arnynt;

    c) darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a seilwaith hanfodol arall;

    d) cyhoeddi polisi cynllunio newydd a mapiau llifogydd eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd;

    e) cyhoeddi Asesiad Perygl Llifogydd newydd i Gymru ochr yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol newydd eleni a’i ddefnyddio i flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sy’n diogelu’r cymunedau sy’n wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell – arfordirol, afonydd a dŵr arwyneb;

    f) cynyddu’r cymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd yn gynt.

  12. 'Angen helpu busnesau drwy beidio codi trethi'

    Mae'r Ceidwadwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    • 'sefydlu cynllun rhyddhad ardrethi i helpu busnesau i wella yn dilyn llifogydd;
    • weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymunedau a busnesau lleol yn cael cymorth parhaus y tu hwnt i'r gwaith glanhau cychwynnol i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i deall y camau sydd angen eu cymryd i liniaru llifogydd yn y dyfodol.
    • ddiweddaru canllawiau cynllunio drwy sefydlu lleiniau na ddylid datblygu arnynt mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd, megis gorlifdiroedd naturiol, i rwystro datblygiadau amhriodol a lleihau'r perygl o ddifrod i gartrefi a busnesau.
  13. Galw am ymchwiliad annibynnol llawn i'r llifogydd

    Yn ail ran eu dadl y pwnc sy'n cael sylw Plaid Cymru yw tywydd garw a difrod stormydd

    Mae Leanne Wood yn cynnig bod y Cynulliad:

    1. Yn nodi'r difrod a'r dinistr a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a Storm Dennis.

    2. Yn talu teyrnged i ymdrechion arwrol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr cymunedol wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

    3. Yn cydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o lifogydd difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) cychwyn ymchwiliad annibynnol llawn i achosion llifogydd diweddar, yn ogystal â chynnal adolygiad o ddigonolrwydd ei chynlluniau atal tywydd niweidiol yn gyffredinol;

    b) sicrhau bod cefnogaeth ychwanegol ar gael i'r rhai sy'n profi trawma seicolegol o ganlyniad i'r dinistr diweddar, yn enwedig plant;

    c) sicrhau bod y gronfa galedi ar gyfer yr unigolion hynny y mae tywydd garw a difrod storm yn effeithio arnynt yn sicrhau cydraddoldeb i fusnesau a pherchnogion tai, yn enwedig y rhai heb yswiriant;

    d) esbonio statws y cymorth grant sydd ar gael ar gyfer adfer tir;

    e) archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cynllun yswiriant cymdeithasol cost isel gyda'r nod o sicrhau yswiriant fforddiadwy ar gyfer eiddo bobman yng Nghymru;

    f) gofyn am asesiad cynhwysfawr gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o'r mesurau y byddai eu hangen i leihau'r risg flynyddol o lifogydd yng Nghymru i 1 y cant, 0.5 y cant a 0.1 y cant ac i gynyddu gwariant i'r perwyl hwn.

    Bachgen yn cerdded trwy lôn dan ddŵr ym Mhontypridd yn ystod Storm Dennis
    Image caption: Bachgen yn cerdded trwy lôn dan ddŵr ym Mhontypridd yn ystod Storm Dennis
    Wedi glaw trwm dros y penwythnos, cafwyd llifogydd newydd ar hyd Afon Dyfi ym Machynlleth, Powys
    Image caption: Wedi glaw trwm dros y penwythnos, cafwyd llifogydd newydd ar hyd Afon Dyfi ym Machynlleth, Powys
  14. Cefnogi'r cynnig

    Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fynd i’r afael â bygythiad ac effaith newid yn yr hinsawdd ynghyd â manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd.

    I gyrraedd y targedau o ran y newid yn yr hinsawdd, mae’n dweud bod yn rhaid i Lywodrath Cymru a’u partneriaid gydweithio gyda’r diwydiannau drwy ddulliau arloesol i greu prosesau a thechnolegau modern ac arloesol fydd, o bosibl, yn lleihau allyriadau carbon yn sylweddol ledled Cymru.

    Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig Plaid Cymru a gwelliannau y Ceidwadwyr.

    Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
    Image caption: Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
  15. 'Am i Gymru fod ar flaen y gad o ran technoleg newydd'

    Mae'r Ceidwadwyr am ychwanegu i'r cynnig bod y cynulliad:

    • Yn nodi buddsoddiad Llywodraeth y DU yn y sector ynni hydrogen, gan gynnwys buddsoddiad diweddar o £28 miliwn i brosiectau cynhyrchu hydrogen carbon isel ledled y DU fel rhan o'r Rhaglen Cyflenwi Hydrogen.
    • Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth di-allyriadau, fel trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i phweru gan hydrogen, a gyflwynwyd mewn rhannau eraill o'r DU, fel rhan o strategaeth ehangach i fynd i'r afael â llygredd aer ac allyriadau carbon.
    • Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU i ddatblygu sector ynni hydrogen Cymru, a gweithio gyda phrifysgolion a busnesau o fewn y sector i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran y dechnoleg newydd hon.
    Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies
    Image caption: Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies
  16. Galw am lunio strategaeth Gymreig ar hydrogen

    Mae Plaid Cymru wedi dewis rhannu eu hawr drafodaeth yn ddwy ran.

    Yn yr hanner awr cyntaf maen nhw'n trafod datgarboneiddio ac yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r angen i leihau ein hôl troed carbon ac yn nodi potensial hydrogen fel un ffurf i’n helpu i ddatgarboneiddio.

    2. Yn croesawu sefydlu Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru.

    3. Yn nodi fod gan Gymru, gyda'i hadnoddau naturiol helaeth, gyfle i ymuno â'r arloeswyr trwy symud y defnydd o hydrogen ymlaen yn gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd.

    4. Yn cydnabod yr astudiaeth sydd eisoes yn cael ei gynnal i ddefnyddio Ynys Môn fel ardal peilot ar gyfer cynlluniau hydrogen, yn ogystal a chynlluniau ar y gweill mewn sawl ardal arall o Gymru.

    5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth Gymreig ar hydrogen.

    Car hydrogen
    Image caption: Mae cwmni o'r canolbarth wedi datblygu car arloesol sy'n defnyddio nwy hydrogen yn lle petrol
  17. 'Llywodraeth y DU wedi gwaethygu tagfeydd traffig yng Nghymru'

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad yn dileu cynnig y Ceidwadwyr yn ei gyfanrwydd ac yn:

    1. Yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r consensws rhwng y pleidiau dros leihau allyriadau i ddim, gan gynnwys datgarboneiddio ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru a sicrhau newid moddol.

    2. Yn cydnabod cyd-ddibyniaeth y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd a phwysigrwydd gwasanaeth rheilffyrdd £5bn Llywodraeth Cymru, ei chynllun datreoleiddio bysiau a’i buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol o ran darparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-foddol a charbon isel a fydd yn chwarae rhan i liniaru’r tagfeydd ar y ffyrdd.

    3. Yn gresynu bod diffyg ariannu o £1bn gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’i methiant i drydaneiddio prif leiniau’r Gogledd a’r De wedi gwaethygu’r tagfeydd ar y ffyrdd, gan arwain at ragor o draffig ar ein cefnffyrdd.

    4. Yn gresynu hefyd fod y degawd o gynni gan Lywodraeth y DU wedi cael effaith uniongyrchol ar waith cynnal rhwydwaith ffyrdd y DU.

    5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

    a) wneud ymrwymiad tebyg i’r hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ariannu pecyn cynhwysfawr o brosiectau ffyrdd a thrafnidiaeth ar y ffin i wella’r priffyrdd strategol i Gymru gan gynnwys Coridor Brychdyn o gwmpas Caer; yr A5 trwy Amwythig i Gymru ac yn y Pant/Llanymynech;

    b) helpu i liniaru’r tagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd trwy addo £1bn i drydaneiddio’r brif lein o Crewe i Gaergybi, buddsoddi i uwchraddio’r lein o Wrecsam i orsaf Lime Street yn Lerpwl a thrydaneiddio prif lein y De yn ei chyfanrwydd.

    6. Yn nodi penderfyniad a datganiad llafar y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin 2019 ynghylch prosiect coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd a’r gwaith arwyddocaol sy’n cael ei wneud gan Gomisiwn Trafnidiaeth y De-ddwyrain i ddatblygu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblem tagfeydd yng Nghasnewydd ac yng ngweddill y rhanbarth.

    7. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys y pecyn digynsail o £1bn i wella seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth y Gogledd, gan gynnwys y gwaith uwchraddio mawr ar yr A55 a’r A483, cynlluniau teithio llesol a Metro’r Gogledd.

  18. 'Pwysig buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus werdd'

    Os yw gwelliant Llywodraeth Cymru yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau Plaid Cymru yn cael eu dad-ddethol.

    Maen nhw yn cynnig bod y cynulliad:

    • Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus werdd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a lleddfu tagfeydd ar y ffyrdd.
    • Yn cadarnhau’r egwyddor y dylai Llywodraeth Cymru fod yn atebol i etholwyr Cymru a’r Senedd hon o ran blaenoriaethau seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
    • Yn gwrthod unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i benderfynu ar flaenoriaethau gwariant a seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus y Senedd hon ar ei rhan.
    • Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Geidwadol y DU a Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni pecyn o fuddsoddiad seilwaith yn y rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan.
    • Yn 'sicrhau datblygiad cyflym gweledigaeth hirdymor ar gyfer rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus integredig gwyrdd a chynaliadwy ar gyfer Cymru, sy’n cynnwys rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r trafferthion tagfeydd o amgylch Casnewydd.'
    • Yn 'gwella cysylltedd trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru.'
  19. 'Angen darparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl'

    Ffyrdd yw'r pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer eu dadl.

    Mae Russell George yn cynnig bod y Cynulliad:

    1. Yn cydnabod pwysigrwydd ffyrdd fel rhydwelïau economaidd hanfodol sy'n hyrwyddo ffyniant.

    2. Yn cydnabod yr effaith economaidd ac amgylcheddol andwyol sy'n deillio o gysylltedd gwael a thagfeydd ffyrdd.

    3. Yn gresynu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y penderfyniad unochrog i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 er gwaethaf y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl;

    b) datblygu cynigion ar gyfer gwaith i uwchraddio cefnffordd yr A55 yn sylweddol a deuoli'r A40 i Abergwaun;

    c) ymgysylltu â Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â chyflenwi ffordd osgoi Pant/Llanymynech.

    M4
    Image caption: Galw ar Lywodraeth Cymru i 'weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu ffordd liniaru'r M4 cyn gynted â phosibl'
  20. Cwestiwn Amserol 1: Ffatri Kasai ym Merthyr

    Yn y cwestiwn amserol cyntaf mae Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) yn gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Kasai y bydd yn cau ei ffatri ym Merthyr Tudful yn 2021?

    Bydd ffatri sy'n cynhyrchu cydrannau ceir ym Merthyr Tudful yn cau'r flwyddyn nesaf, gyda thua 180 o swyddi'n cael eu colli.

    Dywedodd Ken Skates ei bod yn "newyddion siomedig iawn" bod Kasai yn cau yng Nghorffennaf 2021 ac ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth drwy eu rhaglen ReAct ac yn ystyried y posibiliadau ar gyfer y safle.

    Ym mis Chwefror fe rybuddiodd prif weithredwr Fforwm Moduro Cymru, Tim Williams, y gallai cau ffatri Honda yn Swindon gael "effaith andwyol" ar y gadwyn gyflenwi.

    Mae Kasai yn gwneud darnau ar gyfer Honda, Jaguar Land Rover a Nissan.

    Kasai
    Image caption: Bydd y ffatri sy'n cynhyrchu cydrannau ceir ym Merthyr Tudful yn cau'r flwyddyn nesaf