a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sara Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni o'r Siambr am heddiw - bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar ddydd Mawrth, Mawrth 10.

    Senedd
  2. Dadl Fer: Ai clefyd yw gordewdra?

    Yn y ddadl fer mae Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) yn gofyn 'Ai clefyd yw gordewdra?'

    Nid yw gordewdra, meddai Jenny Rathbone, "yn anghyfleustra yn unig - mae gordewdra yn byrhau'ch bywyd rhwng tair a 10 mlynedd - ond mae ganddo'r gallu i orlethu y GIG.

    "Rhaid i ni atal y diwydiant bwyd rhag targedu plant i fwyta'r pethau anghywir - mae hynny'n hollol anfoesegol".

    pwyso
  3. 'Angen monitro ansawdd a a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr'

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gyflwyno gan Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, am ddileu popeth ar ôl pwynt 1 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) sicrhau bod pellter o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol

    b) sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.

  4. "Angen lleoli cleifion iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg yng Nghymru'

    Mae Angela Burns ar ran y Ceidwadwyr am ddileu pwynt 3 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) sicrhau bod holl gleifion iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg a diogelwch lefel uchel yn cael eu lleoli yng Nghymru oni bai mewn amgylchiadau eithriadol;

    b) sicrhau digon o gapasiti ar gyfer cleifion mewnol diogelwch canolig a lefel uchel ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir diddymu'r trefniadau ar gyfer contractio gofal yn raddol;

    c) sicrhau bod Arolygiaeth Iechyd Cymru a'r Comisiwn Ansawdd Gofal yn cydweithredu er mwyn i unedau iechyd meddwl y tu allan i Gymru sy'n derbyn cleifion o Gymru gydymffurfio â gofynion arolygu;

    d) cyflwyno Uwch-swyddogion Cyfrifol ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn galluogi cydweithio rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd lleol sy'n canolbwyntio ar y claf; ac

    e) sicrhau bod yn rhaid i gynlluniau cyfathrebu gael eu gosod ochr yn ochr â chynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn rheoli disgwyliadau'r claf, y teulu a'r clinigwyr.

  5. Iechyd Meddwl: 'Ni ddyliad anfon cleifion yn bell o'u teulu'

    Gwasanaethau Iechyd Meddwl sy'n cael sylw ail ran dadl Plaid Cymru.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.

    2. Yn credu na ddylid anfon unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i unedau sy'n bell iawn o'u teulu.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) sicrhau digon o gapasiti cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir mynd ati'n radol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar gontract allanol;

    b) bod â chynllun ar gyfer ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw mewn unedau yn Lloegr;

    c) gosod gwaharddiad ar GIG Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag adroddiadau gwael gan y Comisiwn Ansawdd Gofal;

    d) sicrhau bod unedau y tu allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn cydymffurfio â gofynion arolygu Cymru.

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  6. 'Angen buddsoddi mewn dulliau atal ac ymyrraeth gynnar gadarnhaol'

    Doedd dim gwelliannau gan Lywodraeth Cymru i'r cynnig.

    Mae Julie Morgan AC, yn cyfeirio at Adolygiad o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru 2018.

    Fe wnaeth yr adroddiad roi dadansoddiad manwl ar wasanaethau anhwylderau bwyta GIG Cymru ac roedd yn 22 o argymhellion i wella gwasanaethau.

    "Yn awr," meddai, "mae’n bwysig i wasanaethau anhwylderau bwyta Cymru symud oddi wrth yr arfer o ddarparu gofal iechyd ymatebol i gleifion gwael, tuag at fuddsoddi’n rhagweithiol mewn dulliau atal ac ymyrraeth gynnar gadarnhaol, gan ganfod a rhoi triniaeth ddi-oed i bobl ag anhwylderau bwyta cyn iddyn nhw fynd yn ddifrifol wael."

  7. Gresynu 'at yr amser i ddatblygu amseroedd aros' am wasanaethau

    Mae Angela Burns ar ran y Ceidwadwyr yn gresynu "at yr amser i ddatblygu amseroedd aros am wasanaethau i oedolion a gwasanaethau plant".

    Angela Burns
    Image caption: Angela Burns
  8. Anhwylderau Bwyta

    Mae Plaid Cymru wedi dewis rhannu eu trafodaeth yn ddwy ran hanner awr.

    Yn gyntaf mae Bethan Sayed, ar ei diwrnod olaf cyn mynd ar gyfnod mamolaeth, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2020 yn cael ei chynnal rhwng 2 Mawrth a 8 Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar bwysigrwydd grymuso a chefnogi teuluoedd a chyfeillion.

    2. Yn credu:

    a) bod anhwylderau bwyta yn salwch meddwl difrifol gyda chyfraddau marwolaeth uchel;

    b) bod gwellhad yn bosibl;

    c) gall teuluoedd a chyfeillion chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad.

    3. Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n gweithio ar yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymerodd ran ynddo, ac uchelgais yr adolygiad i greu gwasanaeth anhwylderau bwyta o safon fyd-eang i Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd ei angen.

    4. Yn credu y bydd grymuso a chefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr eraill yn hanfodol i wireddu'r uchelgais hwn.

    5. Yn gresynu at y cyfnod estynedig o amser a gymerodd Llywodraeth Cymru i ymateb i gasgliadau adolygiad 2018 o'r gwasanaeth.

    6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid eraill i sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu gweithredu'n llawn.

    Bethan Sayed
    Image caption: Bethan Sayed
  9. Dim gwelliannau gan Lywodraeth Cymru

    Ni chyflwynwyd gwelliannau gan Lywodraeth Cymru i'r cynnig.

    Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr ond ddim gwelliant Plaid Cymru.

    Julie Morgan
    Image caption: Julie Morgan
  10. 'Gall cysylltiad cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen'

    Mae Neil McEvoy (Canol De Cymru) wedi cyflwyno nifer o welliannau, yn gyntaf mae am ychwanegu pwynt newydd sy'n nodi

    a) mai llwybr cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u rhieni;

    b) na ddylai cysylltiad gael ei leihau na’i gyfyngu er cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff eu talu; ac

    c) gall cysylltiad cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen.

    Neil McEvoy
    Image caption: Neil McEvoy
  11. 'Cael awdurdodau lleol i osod targedau yn ddatrysiad arwynebol'

    Mae Sian Gwenllian ar ran Plaid Cymru yn ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig sef bod angen "cydnabod bod yna resymau cymleth tu ôl i lefelau cynyddol o blant mewn gofal, ond yn credu fod y disgwyliad sydd ar awdurdodau lleol i osod targedau er mwyn ateb y broblem yn ddatrysiad arwynebol".

  12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal

    Testun dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw Plant Sy'n Derbyn Gofal

    Mae Janet Finch-Saunders yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019.

    2. Yn nodi ymhellach bod cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal.

    3. Yn gresynu bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

    a) adolygu cynlluniau awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal;

    b) cynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i lenwi'r bylchau a ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu;

    c) ymchwilio i gymorth ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a

    d) sicrhau bod mynediad i gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i bob rhiant a gwarcheidwad ledled Cymru.

    Janet Finch-Saunders
    Image caption: Janet Finch-Saunders
  13. 'Pwysicach nag erioed bod lle i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol'

    Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, sy'n ymateb i'r adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru.

    Mae pob un o'r argymhellion yn cael eu derbyn.

    Mae'n dweud bod perthynas Cymru â'r byd wedi cael ei diffinio gan ei pherthynas â'r Undeb Ewropeaidd ers degawdau.

    "Mae Ionawr 2020," meddai, "yn nodi dechrau cyfnod newydd yn y berthynas hon, ac mae’n bwysicach nag erioed bod Cymru yn sicrhau ei lle ar y llwyfan rhyngwladol.

    "Yn ystod yr un mis gwelwyd cyhoeddi strategaeth ryngwladol newydd i Gymru, sy'n nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y berthynas newydd hon ag Ewrop a gweddill y byd.

    "Mae nifer o gwestiynau heb eu hateb o hyd am ffurf perthynas olaf y DU ag Ewrop wrth inni symud i gyfnod pontio.

    "Mae hyn wedi golygu creu rhywfaint o hyblygrwydd yn y strategaeth er mwyn gallu ymateb wrth i'r berthynas ddatblygu."

    Mae modd gweld ymateb llawn Llywodrath Cymru yma.

    Eluned Morgan
    Image caption: Eluned Morgan
  14. Gofyn am weledigaeth glir

    David Rees (Aberafan), cadeirydd y pwyllgor sy'n cyflwyno'r adroddiad sydd â 10 o argymhellion a'r argymhelliad cyntaf oedd "bod datganiad gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi darlun clir o'r 'gyrchfan derfynol' a ragwelir gan y Llywodraeth ar ddiwedd oes y strategaeth. Dylai nodi'n glir y canlyniadau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio’u cyflawni drwy'r strategaeth".

    David Rees
    Image caption: David Rees
  15. Cwestiwn Amserol 2: 'Wedi ymgynghori ar mandad y DU?'

    Mae Huw Irranca-Davies (Ogwr), yn gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles: I ba raddau yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys mandad y DU ar gyfer y trafodaethau gyda'r UE?

    Mae trafodaethau i fod gael eu cynnal unwaith bob pythefnos neu dair wythnos tan yr haf - ym Mrwsel a Llundain am yn ail.

    Mae Jeremy Miles yn ateb gan ddweud "na wnaeth y testun terfynol gynnwys un o'n pwyntiau sylweddol".

    Mae'r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn mynnu bod cytundeb yn cael ei lunio cyn diwedd y flwyddyn.

    Jeremy Miles
    Image caption: Jeremy Miles
  16. Cwestiwn Amserol 1: Gemau'r Chwe Gwlad

    Mae Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷnâ'r adroddiadau y gallai gemau rygbi'r chwe gwlad fod ar gael ar sail talu-wrth-wylio yn unig yn y dyfodol?

    Daw ei chwestiwn yn dilyn adroddiadau papur newydd y gallai'r BBC ac ITV golli hawliau darlledu'r gystadleuaeth pan ddaw'r cytundeb presennol i ben yn 2020-21.

    Yn ôl yr adroddiadau hynny, does dim modd i fwy nag un darlledwr geisio am yr hawliau ar y cyd, fel y digwyddodd yn 2015 pan enillodd y BBC ac ITV y cytundeb i ddarlledu gemau o 2016 ymlaen.

    Wrth ymateb mae Dafydd Elis-Thomas yn dweud nad yw darlledu wedi cael ei ddatganoli.

    "Mae'r mater hwn, ar hyn o bryd," meddai, "i gael ei ystyried gan bwyllgor y chwe gwlad a'r darlledwyr".

    Cefnogwyr yn y gêm ddiweddar rhwng Cymru a Ffrainc
    Image caption: Cefnogwyr yn y gêm ddiweddar rhwng Cymru a Ffrainc
  17. Rhestrau aros tai cymdeithasol?

    Mae Sian Gwenllian yn gofyn faint o bobl sydd ar restrau aros am dai cymdeithasol ar draws Cymru?

    Mae Julie James yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu ystadegau rhestrau aros tai cymdeithasol ond bod y llywodraeth yn blaenoriaethu gwariant i sicrhau bod mwy o dai cymdeithasol ar gael.

    Sian Gwenllian
    Image caption: Sian Gwenllian
  18. Ad-drefnu llywodraeth leol?

    Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol sydd nesaf ac mae David J Rowlands AC o Blaid Brexit yn gofyn: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw ad-drefnu llywodraeth leol yn arwain at gostau uwch i drethdalwyr?

    Mae Julie James yn ymateb gan ddweud "nad oes cynlluniau i ad-drefnu ein 22 cyngor ond pan fydd cynllunio yn cael eu rhoi ger bron fe wnawn ni eu cefnogi".

    Julie James
    Image caption: Julie James
  19. Cyflwyno rheoliadau stori slyri a gwrtaith cyn y Pasg

    Mae Lesley Griffiths y dweud na fydd oedi i'r Parthau Perygl Nitradau - sef rheoliadau llymach i ddelio â llygredd amaethyddol.

    Mae'n dweud y bydd rheolau llymach ar wasgaru a storio slyri a gwrtaith yn cael eu cyflwyno cyn y Pasg.

    Roedd y Ceidwadwr Andrew RT Davies wedi awgrymu y byddai oedi yn beth call.

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies