a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni am heddiw ar y llif byw - diolch am ymuno â ni unwaith eto.

    Byddwn ni 'nôl fory gyda'r newyddion diweddaraf i chi ar y pandemig yng Nghymru a thu hwnt - gan gynnwys rhagor o ymateb mae'n siŵr i'r gwahanol newidiadau i'r cyfyngiadau.

    Tan hynny, noswaith dda i chi.

  2. 'Y canllawiau yng Nghymru ddim yn newid'

    Llywodraeth Cymru

    Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cyhoeddi neges fideo yn ymateb i ddatganiad Boris Johnson.

    Ynddo mae'n pwysleisio mai'r newidiadau gafodd eu cyhoeddi ganddo ddydd Gwener yw'r rhai sydd yn berthnasol i Gymru, nid rhai heddiw sydd ar gyfer Lloegr.

    Mae'n dweud mai'r cyfarwyddyd o hyd yw i bobl "aros adref", ac os oes rhaid iddyn nhw adael y tŷ, i "aros yn lleol".

    "Byddwn yn parhau i wneud y penderfyniadau sy'n iawn i Gymru," meddai.

    Video content

    Video caption: Ymateb Mark Drakeford i ddatganiad Boris Johnson
  3. Beth oedd y gwahaniaethau?

    Er na wnaeth Boris Johnson ddweud hynny'n benodol yn ei ddatganiad, mae'r newidiadau a gyhoeddodd yn berthnasol i Loegr yn unig.

    Ond o ddiddordeb i lawer fydd y pethau gafodd eu cyhoeddi sydd eisoes yn wahanol i'r rheolau yng Nghymru.

    Yn Lloegr bydd pobl yn cael teithio yn eu ceir i fynd am dro, a thorheulo mewn mannau cyhoeddus, pethau sydd ddim yn cael eu caniatau yng Nghymru.

    Awgrymodd hefyd y gallai ysgolion ddechrau ailagor erbyn dechrau Mehefin, rhywbeth mae gwledydd eraill y DU eisoes wedi gwrthod.

    Fe wnaeth hefyd annog y rheiny oedd methu gweithio o adref i ddychwelyd i'r gwaith mewn modd cyfrifol, gan fynd yn bellach nag y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y mater.

  4. Neges Johnson yn 'ddryslyd a byrbwyll'

    Plaid Cymru

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud bod cyhoeddiad Boris Johnson yn un "byrbwyll", ac nad yw pedair gwlad y DU yn cyd-weld ar y cyfyngiadau bellach.

    Ychwanegodd bod neges Llywodraeth y DU o fod yn wyliadwrus yn hytrach nac aros adref yn "ddryslyd", ac yn "tanseilio" ymdrechion hyd yn hyn i daclo'r haint.

    "Dyma'r penderfyniad anghywir i Loegr, ond fe fydd hefyd yn anfon negeseuon cymysg," meddai.

  5. 'Dirwyon o hyd os yn gyrru o Loegr i Gymru'

    Llywodraeth Cymru

    Wrth siarad gyda BBC Cymru, mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio mai neges "i bobl Lloegr" oedd hwn a bod y sefyllfa'n "wahanol yng Nghymru".

    Dywedodd Jeremy Miles mai'r neges o hyd yw i "aros adref".

    Pwysleisiodd fod y canllawiau newydd sy'n gadael i bobl yn Lloegr yrru i wneud ymarfer corff "ddim yn cael ei ganiatáu yng Nghymru".

    Ychwanegodd y bydd yr heddlu'n dirwyo unrhyw un sy'n gyrru o Loegr i Gymru i fynd i gerdded, er enghraifft.

  6. Gorffen gyda'r slogan newydd

    Mae Mr Johnson yn rhybuddio y gallai'r cyfyngiadau gael eu tynhau eto os ydy'r sefyllfa'n gwaethygu.

    Ond dywedodd ei fod yn ymddiried yn "synnwyr cyffredin" pobl i ddilyn y mesurau.

    Mae'n gorffen ei ddatganiad gyda slogan newydd Llywodraeth y DU, sy'n dweud wrth y cyhoedd i 'Aros yn wyliadwrus, rheoli'r feirws ac achub bywydau'.

    Bydd y slogan newydd yn cael ei defnyddio yn lle'r hen slogan, sef 'Aros adref, gwarchod y GIG, achub bywydau'

    Yn gynharach ddydd Sul fe ddywedodd Vaughan Gething nad yw llywodraethau eraill y DU wedi cytuno i'r slogan newydd.

    Vaughan Gething
    Image caption: Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, yn gwrthwynebu'r slogan newydd
  7. 'Hawl torheulo a gyrru i fannau eraill'

    O ddydd Mercher ymlaen bydd hawl gan bobl Lloegr dreulio cyfnod y tu allan ar gyfer dibenion hamdden cyn belled eu bod yn ymbellhau yn gymdeithasol.

    Ychwanega Mr Johnson: "Ry'n ni am annog pobl i ymarfer tu allan o ddydd Mercher ymlaen - fydd yna ddim cyfyngiad.

    "Bydd modd eistedd yn yr haul yn eich parc lleol, bydd modd gyrru i fannau eraill a bydd modd ymgymryd â chwaraeon ond dim ond ymhlith y rhai sy'n byw gyda chi."

    Mae hyn hefyd yn wahanol i'r rheolau yng Nghymru, ble nad yw pobl i fod i deithio yn y car i fynd am dro, na chwaith torheulo mewn mannau cyhoeddus.

    eistedd yn yr haul
  8. Dychwelyd i'r ysgol

    Mae Boris Johnson yn dweud ei fod yn hyderus y bydd plant yn dychwelyd i'r ysgol erbyn Mehefin fel bod plant sy'n sefyll arholiadau flwyddyn nesaf yn derbyn rhywfaint o wersi yn y flwyddyn ysgol bresennol.

    Mae'n dweud hefyd ei fod yn gobeithio y bydd y diwydiant lleytgarwch ar ei draed erbyn diwedd Gorffennaf.

    Dyna un gwahaniaeth gyda Chymru - mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud na fydd ysgolion yn ailagor yn llawn erbyn 1 Mehefin.

  9. 'Ewch nôl i'r gwaith os nad yn gallu gweithio o adre'

    Mae Mr Johnson yn pwysleisio pa mor bwysig yw ufuddhau i'r rheolau ymbellhau cymdeithasol.

    Mae'n dweud y dylai unrhywun sydd ddim yn gallu gweithio o adref fynd i'r gwaith o ddydd Llun ymlaen - er enghraifft pobl sy'n gweithio ym meysydd adeiladu a chynhyrchu.

    "Ry'n am iddi fod yn ddiogel i chi fynd i'r gwaith - felly peidiwch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yn bosib gan ein bod am barhau i sicrhau ymbellhau cymdeithasol.

    "Felly gweithiwch o adre os yn bosib - os nad yw hynny'n bosib, ewch nôl i'r gwaith."

    Er mwyn gorfodi'r rheolau hynny mae'n dweud y bydd yn cynyddu'r dirwyon i'r rhai sy'n mynd yn groes i'r rheolau.

    Mae gan Gymru eisoes ddeddf yn gorfodi cyflogwyr i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle yn ystod y pandemig.

    boris
  10. Datrys hwn gyda'n gilydd

    Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod pob un o lywodraethau y DU am ddatrys argyfwng haint coronafeirws ar y cyd.

    Bydd e'n trafod ei araith yn San Steffan fory ac yn derbyn cwestiynau gan y cyhoedd nos fory.

    Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod ond modd llacio cyfyngiadau os nad ydyn nhw'n cynyddu'r risg o ledaenu coronafeirws eto.

    Fe fydd Llywodraeth y DU yn sefydlu system i gofnodi'r risg o Covid-19, o Lefel 5 (y sefyllfa fwyaf difrifol) i Lefel 1 (yr haint wedi diflannu).

    Yn ol Mr Johnson mae'r wlad wedi bod ar Lefel 4 hyd yma, a nawr yn dechrau symud tuag at Lefel 3.

  11. Diolch i'r cyhoedd

    Mae Mr Johnson yn dechrau ei ddatganiad drwy ddiolch i'r cyhoedd am bob aberth bersonol sydd wedi cael ei gwneud er mwyn atal haint coronafeirws rhag lledu ac er mwyn diogelu'r GIG.

    "Dyna sy'n gyfrifol am y gostyngiad yn y marwolaethau a'r nifer sy'n gorfod mynd i'r ysbyty," meddai.

    Ond mae'n rhybuddio y byddai'n beth ffôl dadwneud y gwaith da a chaniatáu ail don o'r haint.

  12. Trwch y cyfyngiadau'n parhau mewn grym

    Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi pwysleisio fodd bynnag NAD yw'r cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu codi, er gwaethaf ambell i elfen sy'n cael eu llacio.

    Mae prif elfennau'r mesurau gwreiddiol yn parhau mewn grym, gan gynnwys peidio gadael y tŷ ag eithrio rhesymau penodol tu hwnt.

    Mae'r rheiny'n cynnwys ymarfer corff, siopa am nwyddau hanfodol, darparu gofal i eraill, neu deithio i'r gwaith os oes dim modd osgoi hynny.

    Bydd y mesurau yn parhau mewn lle am dair wythnos arall, a hynny gan nad ydy'r haint dan reolaeth yn llwyr eto.

    Mark Drakeford
  13. Pa gyfyngiadau sy'n cael eu llacio yng Nghymru?

    Cyn i Boris Johnson wneud ei gyhoeddiad, dyma'ch atgoffa chi o'r cyfyngiadau fydd yn cael eu llacio yng Nghymru o fory ymlaen.

    • Hawl i ymarfer corff mwy nag unwaith y dydd, ond i "aros yn lleol"
    • Canolfannau garddio i gael ailagor
    • Cynghorau i gael edrych ar ailagor cyfleusterau fel llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu

    Gallwch ddarllen am y newidiadau i'r cyfyngiadau yn llawn fan hyn.

    ymarfer corff
  14. Disgwyl cyhoeddiad Boris Johnson

    Ychydig dros hanner awr sydd i fynd nes cyhoeddiad Boris Johnson ar y cyfyngiadau coronafeirws yn Lloegr.

    I'ch hatgoffa chi, fydd unrhyw newidiadau i'r mesurau DDIM yn weithredol yng Nghymru, gan mai Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros y rheolau fan hyn.

    Ond wrth gwrs, mae pryder eisoes y gallai unrhyw wahaniaethau rhwng y mesurau yng Nghymru a Lloegr achosi dryswch i rai, a'i gwneud hi'n anoddach plismona'r mesurau.

    Bydd unrhyw wahaniaethau hefyd yn siŵr o olygu y bydd yn rhaid i wleidyddion y naill ochr i'r ffin gyfiawnhau pam eu bod nhw wedi dewis llacio neu gadw'r cyfyngiadau i'r fath raddau.

    Boris Johnson
  15. Dim amheuaeth gan y sêr rygbi

    S4C

    Does 'na ddim dryswch ynghylch y neges chwaith gan y sêr rygbi yma...

    View more on twitter
  16. Neges glir gan Heddlu'r Gogledd

    Heddlu Gogledd Cymru

    Gyda thipyn o drafod heddiw ynglŷn â'r neges mae Llywodraeth y DU yn ei gyfleu am y pandemig coronafeirws, mae Heddlu'r Gogledd wedi pwysleisio nad yw pethau wedi newid yng Nghymru.

    Yr un yw'r neges sylfaenol o hyd - arhoswch adref.

    View more on twitter
  17. 'Edrych ar y patrwm dros gyfnod o amser'

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod angen bod yn ofalus cyn neidio i gasgliadau yn dilyn adroddiadau mai Rhondda Cynon Taf sydd a'r cyfradd uchaf o bobl â Covid-19 yn y DU.

    "Y lleiaf yw'r daearyddiaeth, yr uchaf yw'r amrywiaeth yn y niferoedd o ddydd i ddydd," meddai llefarydd.

    "Y peth pwysicaf, yn hytrach nac edrych ar un foment mewn amser, yw edrych ar y patrwm dros gyfnod o amser."

  18. 'Neges Llywodraeth y DU ddim yn glir'

    golwg360

    Mae Golwg360 yn adrodd am bryderon gan un o'r gwyddonwyr sy'n cynghori Llywodraeth y DU y gallai neges Boris Johnson heno arwain at bobl yn dechrau cymdeithasu eto.

    Yn ôl yr Athro Susan Michie dydy hi ddim yn glir beth ydy ystyr neges Mr Johnson i bobl “aros gartref cymaint â phosib” ac i “gyfyngu ar gyswllt â phobl eraill”.

    “Fe allai gollwng y neges ‘arhoswch gartref’ o’r prif slogan a’i newid i fod yn wyliadwrus gael ei dderbyn gan rai fel golau gwyrdd i beidio ag aros gartref a dechrau cymdeithasu gyda ffrindiau a gwneud gweithgareddau eraill sy’n cynyddu’r risg o ymlediad,” meddai.

  19. Cysgu mewn lori am wyth wythnos

    Nid pawb sydd wedi bod yn aros adref yn ystod y pandemig yma - a dweud y gwir, wnaeth Tomos Williams o Ben Llŷn ddim gallu mynd adref am wyth wythnos!

    Mae Tomos yn gweithio fel gyrrwr lori, ac felly'n un o'r bobl sydd wedi bod yn gweithio drwy'r argyfwng i wneud yn siŵr bod nwyddau yn parhau ar silffoedd siopau yng Nghymru a thu hwnt.

    Ond mae'n golygu ei fod wedi gorfod bod yn gaeth i'w gerbyd - gan fwyta, cysgu, ymlacio a gweithio yno - er mwyn lleihau'r risg o ledu'r haint.

    Gallwch ddarllen am ei brofiad yma.

    Tomos Williams