111 yn fwy wedi marw ar draws y DU - y nifer isaf ers deufis
Yng nghynadledd y wasg llywodraeth San Steffan mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, wedi dweud bod 1,570 o bobl wedi cael prawf Covid-19 positif ddydd Sul.
Dyma'r nifer isaf ers dechrau'r cyfnod clo ar 23 Mawrth.
"Mae hyn," meddai, "yn dangos bod y feirws o dan reolaeth ac yn caniatáu rhywfaint o lacio ar y cyfyngiadau."
Cafodd 111 o farwolaethau o'r haint ar draws y DU eu cofnodi gan ddod â'r cyfanswm i 39,045.
Dyma'r nifer isaf am dros ddeufis.
Dywed Mr Hancock bod y ffigyrau yn brawf bod cynllun gweithredu llywodraeth y DU yn "gweithio" ond bod yn rhaid parhau â mesurau fel ymbellhau cymdeithasol ac eraill gan nad yw'r "haint ar ben eto".
Myfyrwyr yn cael dychwelyd i Aber ym mis Medi
Mae Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu cael myfyrwyr yn ôl ar y campws ym mis Medi.
Bydd nifer o fesurau yn cael eu cyflwyno fel ymbellhau cymdeithasol a chynlluniau dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Tim Woods: "Ein blaenoriaeth yw diogelwch myfyrwyr, staff a'r gymuned yn ehangach.
"Mae trefniadau manwl yn cael eu datblygu ar y cyd gydag Undeb y Myfyrwyr, Cyngor Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Llywodraeth Cymru."
GettyCopyright: Getty
Myfyrwyr Aberystwyth yn graddio yn 2014Image caption: Myfyrwyr Aberystwyth yn graddio yn 2014
Llongyfarchiadau Huw Edwards
Y darlledwr Huw Edwards sydd ar frig pôl darllenwyr y Press Gazette am y "cyflwynydd newyddion nos gorau yn ystod argyfwng coronafeirws".
Fe wnaeth dros 2,500 ymateb i'r pôl ar-lein ac fe gipiodd Mr Edwards 28% o'r bleidlais.
Cyflwynydd ITV Tom Bradby oedd yn ail ac roedd Sophie Raworth, cydweithwraig i Huw Edwards, yn drydydd.
Ym mis Ebrill, datgelodd y cyflwynydd 58 oed, ei fod wedi cael cyfnod bant o'r gwaith am dair wythnos ar ôl iddo gael, mae e'n amau, yr haint coronafeirws.
BBCCopyright: BBC
Ar fin dechrau ...
BBC Radio Cymru
Cofiwch wrando ar y Post Prynhawn i gael y newyddion diweddaraf.
'Ystyried opsiynau' wedi trafodaeth ar brifysgolion
Wedi cyfarfod gyda Gweinidog Prifysgolion y DU, Michelle Donelan, dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod yn ystyried ei hopsiynau.
Mi hi a gweinidogion addysg eraill o lywodraethau datganoledig yn gwrthwynebu cynlluniau llywodraeth San Steffan - cynlluniau a fyddai'n gosod cyfyngiadau ar faint o fyfyrwyr o Loegr a allai astudio mewn sefydliadau ar draws y DU.
Mae oddeutu 40% o is-raddedigion prifysgolion Cymru yn dod o Loegr.
Mewn neges ar ei chyfrif Twitter wedi'r cyfarfod dywedodd ei fod "yn anghytuno â dull Lloegr o ymdrin â'r mater hwn.
"Mae myfyrwyr ac academyddion o Loegr, fel miloedd o bobl eraill o bob cwr o'r byd, yn gwneud cyfraniad enfawr i fywyd campws, y gymuned a chenedlaethol Cymru.
"Edrychwn ymlaen at groesawu miloedd mwy yn yr hydref ac yn y blynyddoedd i ddod."
Bydd Safleoedd Gwastraff Cartref ar draws
Ceredigion yn ailagor ar wahanol ddyddiadau rhwng 4 ac 17 Mehefin.
Anogir
trigolion i beidio ag ymweld â’r safleoedd oni bai ei fod yn hanfodol.
Noda'r rheolau newydd mai:
Dim ond cerbydau sydd ag eilrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael
mynediad i’r safleoedd ar ddyddiadau sy’n eilrifau (e.e. 2,4,6,8,10,12
etc.)
Dim ond cerbydau sydd ag odrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael
mynediad i’r safleoedd ar ddyddiadau sy’n odrifau (e.e. 1,3,5,7,9,11
etc.)
Bydd cyfyngiadau llym o
ran nifer y cerbydau sy’n gallu cael mynediad i’r Safle Gwastraff Cartref
ar unrhyw un adeg.
Gall uchafswm o ddau
berson o’r un cartref adael y cerbyd er mwyn cael gwared â’r gwastraff a
helpu ei gilydd gydag eitemau mwy neu drymach ar y safle; ni fydd unrhyw
gymorth ar gael gan staff y safle i
ddadlwytho unrhyw eitemau.
Dim ond mewn cerbyd y
bydd trigolion yn gallu cael mynediad i’r safle; bydd trigolion sy’n
cyrraedd ar droed yn cael eu troi ymaith.
Ymateb Llywodraeth Cymru i bryderon gwerthwyr ceir
Llywodraeth Cymru
Yn gynharach fe glywson ni am bryder gwerthwyr ceir am nad ydynt yn cael agor yng Nghymru - yn wahanol i Loegr.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn wedi nodi y dylai busnesau na sy'n cael eu hystyried yn gwerthu nwyddau hanfodol baratoi i ailagor ymhen tair wythnos os ydynt yn gallu sicrhau ymbellhau cymdeithasol - ac fe fyddwn yn adolygu hyn.
"Bydd unrhyw benderfyniad yn seiliedig ar gyngor gwyddonol a meddygol.
"Ry'n wedi darparu pecyn cefnogi hael i fusnesau - yr haelaf yn y DU sy'n cynnwys £1.7bn o gefnogaeth ariannol uniongyrchol i fusnesau o bob maint drwy ein Cronfa Cadernid Economaidd a grantiau i dalu ardrethi busnes."
Nifer y marwolaethau Covid-19 hyd yma
Iechyd Cyhoeddus CymruCopyright: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gwerthwyr ceir Cymru'n anhapus gyda'r llywodraeth
Mae nifer o gwmnïau gwerthu ceir wedi lleisio eu gwrthwynebiad am nad ydynt yn cael agor yma yng Nghymru ar hyn o bryd - yn wahanol i werthwyr ceir yn Lloegr.
Mae 18 o gwmnïau gwerthu ceir wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Mark Drakeford yn cyfleu eu "pryder mawr a siom" nad oes modd iddyn nhw werthu cerbydau, tra bod gwerthwyr ceir dros y ffin yn cael gwneud hynny o heddiw ymlaen.
Dywed y gwerthwyr Cymreig y gall y sefyllfa arwain at golli swyddi, gyda nifer fawr o gwsmeriaid yn croesi Clawdd Offa i brynu ceir.
Yn y llythyr mae'r gwerthwyr ceir yn dadlau fod y polisi yma yng Nghymru wedi arwain at "niwed sylweddol i'r sector."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r llywodraeth am ymateb.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Cyngor CBAC ar arholiadau UG a Safon Uwch
Wrth i dymor y dysgu adref ailgychwyn heddiw - dyma rai atebion i ddisgyblion y chweched.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i annog pobl i
ddilyn deddfwriaeth Llywodraeth Cymru wrth i'r rheolau am gyfyngiadau teithio newid yn ddiweddarach heddiw.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Nigel Harrison: “Roedd yr
ardal yn fwy prysur y penwythnos hwn gyda llawer mwy o bobl ar ein traethau ac
mewn llecynnau eraill o harddwch.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi gwrando ar ganllawiau'r llywodraeth. Ond
eto mi wnaethon ni weld pobl yn teithio i mewn o ogledd orllewin a chanolbarth
Lloegr sy'n anghyfreithlon yn y rhan fwyaf o achosion."
Ychwanegodd: “Wrth i'r canllawiau newid yng Nghymru am 16:00 heddiw bydd hi'n
hanfodol bwysig fod pobl yn gwneud y peth iawn a cheisio diogelu eu hanwyliaid.
“Mae'r neges yn glir - arhoswch yn lleol a chadwch bellter oddi wrth eich
gilydd. Mae'n bwysig eich bod yn cwrdd â phobl o aelwyd arall allan yn yr awyr
agored yn unig. Cofiwch bwrpas y rheoliadau – atal
lledu’r feirws, diogelu’r GIG ac achub bywydau.
"Mae Gogledd Cymru yn le gwych i ymweld â hi ac edrychwn ymlaen at
groesawu pobl yn ôl cyn gynted â phosib ond ddim ar hyn o bryd."
Ar raglen Dros Ginio heddiw dywedodd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd bod yn rhaid "cael sgwrs onest fel gwlad ynghylch sut fyddwn ni'n talu am wasanaethau o hyn ymlaen".
Mewn cyfweliad â Dewi Llwyd, nododd bod sefyllfa ariannol bresennol Cyngor Caerdydd yn un “bryderus” oherwydd effeithiau haint coronafeirws.
“Mae'n costau ni dros y ddeufis diwethaf wedi bod lan hyd at £20m ac hefyd mae 'na ffynonellau incwm, oedd yn hanfodol i'n cyllideb ni yn y gorffennol, ddim wedi bod yno dros y tri mis diwethaf," meddai.
Esboniodd fod cau lleoliadau fel Neuadd Dewi Sant a Chastell Caerdydd a'r diffyg incwm o feysydd parcio wedi golygu “colli incwm o ryw £11m”.
Ychwanegodd: “Does dim ateb rhwydd ac os ydych chi'n edrych ar dreth y cyngor, dyw'r dreth y cyngor yn ei hun ddim yn mynd i fod yn ddigonol i ateb y twll yn y gyllideb.”
"Yn y byd newydd," meddai, “dwi'n awyddus iawn i annog cynifer o bobl â phosibl i gerdded ac i ddefnyddio'r beic yn lle mynd nôl i ddefnyddio ceir - yn enwedig pan fydd na lai o gapasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae hynna'n galw am benderfyniad personol... mae hynna'n sialens i ni gyd.”
Canslo Speedway Grand Prix Caerdydd
Mae Speedway Grand Prix Caerdydd wedi ei ganslo - roedd y digwyddiad fod i gael ei gynnal yn Stadiwm Principality ar 18 Gorffennaf.
Dyw cynnal y digwyddiad ar ddyddiad hwyrach yn y flwyddyn ddim yn bosib a dywed y trefnwyr y bydd tocynnau a brynwyd ar gyfer 2020 yn ddilys y flwyddyn nesaf.
Fe fyddai'r digwyddiad wedi dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed eleni a'r dyddiad sydd wedi cael ei bennu ar gyfer y flwyddyn nesaf yw 17 o Orffennaf.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Ofnau nad yw pobl wedi cael profion canser angenrheidiol
Dywed elusen Cancer Research UK bod angen cynnal 1,900 prawf Covid y dydd yng Nghymru er mwyn adfer gwasanaethau canser i'r hyn oeddent cyn yr haint.
Mae gwaith ymchwil diweddar ganddynt yn dangos hefyd bod 14,000 yn llai o gleifion, a amheuir o fod â chanser, wedi cael eu cyfeirio am brofion pellach gan feddygon teulu wedi i'r cyfyngiadau ddod i rym ddeg wythnos yn ôl.
Mae elusen Cancer Research newydd lansio ymgyrch yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal profion Covid-19 er mwyn sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael eu hadfer yn ddiogel.
Mae oddeutu 19,000 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn.
Mae'r elusen yn poeni fod pobl wedi bod ofn ymweld â'r meddyg yn ddiweddar.
Cynlluniau cwmni bysys First Cymru
Mae cwmni bysys First Cymru wedi datgelu eu cynlluniau ar gyfer ymbellhau cymdeithasol sy'n golygu na fydd pobl yn gallu eistedd ar 75% o'u seddau
Dim ond naw neu 10 o bobl fydd yn gallu eistedd ar fws arferol a rhyw 18 ar fws deulawr.
Bydd y cwmni yn gwneud teithiau amlach.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Jane Reakes-Davies: "Mae'n gwasanaeth wedi'i gynllunio i gwrdd â gofynion gweithwyr allweddol gan sicrhau eu bod yn gallu teithio i ac o'r gwaith.
"O 1 Mehefin byddwn yn cynyddu ein lefel o wasanaeth wrth i ni gyflwyno mesurau ymbellhau cymdeithasol... ond i wneud iawn am y diffyg lle byddwn yn neilltuo bysys deulawr ar ein teithiau prysuraf ac yn sicrhau gwasanaeth amlach."
First BusCopyright: First Bus
Newydd dorriPump yn rhagor o farwolaethau Covid-19
Mae pump yn rhagor o farwolaethau Covid-19 wedi eu cofnodi medd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddod a'r cyfanswm i 1,347.
Cafodd 59 o achosion newydd eu cofnodi, gan ddod â'r cyfanswm o bobl sydd wedi derbyn prawf positif yng Nghymru i 14,054.
Mae'n debyg fod y gwir ffigwr yn llawer uwch gan nad yw profi am yr haint ar lefel eang wedi digwydd hyd yn hyn.
Cafodd 2,945 prawf eu cynnal ddoe, ac hyd yn hyn mae 92,675 o brofion wedi eu cynnal yng Nghymru.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Darllen mwyHwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
A dyna ni am heddiw - ar ddiwrnod lle gwelwyd rhywfaint o lacio ar y cyfyngiadau yng Nghymru.
Bellach mae pobl o ddau gartref gwahanol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored cyn belled â'u bod yn aros yn lleol ac yn cadw pellter o ddau fetr.
Mae grwpiau risg uchel sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain yn cael gadael eu cartrefi eto - ond ddim i fynd i siopa neu i'r gwaith.
Roedd yna bump marwolaeth arall yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm i 1,347.
Ac mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud eu bod yn datblygu cynlluniau i gael myfyrwyr i ddychwelyd ym mis Medi.
Diolch am ddarllen - bydd y llif byw yn ôl bore fory ond tan hynny fe fydd y newyddion diweddaraf ar wefan Cymru Fyw.
Hwyl am y tro.
Effaith yr haint ar y rhai lleiaf?
Mudiad Meithrin
Mae'r pandemig wedi cael effaith ar bawb ond mae'r Mudiad Meithrin yn awyddus i wybod yr effaith ar y plant bach.
111 yn fwy wedi marw ar draws y DU - y nifer isaf ers deufis
Yng nghynadledd y wasg llywodraeth San Steffan mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, wedi dweud bod 1,570 o bobl wedi cael prawf Covid-19 positif ddydd Sul.
Dyma'r nifer isaf ers dechrau'r cyfnod clo ar 23 Mawrth.
"Mae hyn," meddai, "yn dangos bod y feirws o dan reolaeth ac yn caniatáu rhywfaint o lacio ar y cyfyngiadau."
Cafodd 111 o farwolaethau o'r haint ar draws y DU eu cofnodi gan ddod â'r cyfanswm i 39,045.
Dyma'r nifer isaf am dros ddeufis.
Dywed Mr Hancock bod y ffigyrau yn brawf bod cynllun gweithredu llywodraeth y DU yn "gweithio" ond bod yn rhaid parhau â mesurau fel ymbellhau cymdeithasol ac eraill gan nad yw'r "haint ar ben eto".
Myfyrwyr yn cael dychwelyd i Aber ym mis Medi
Mae Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu cael myfyrwyr yn ôl ar y campws ym mis Medi.
Bydd nifer o fesurau yn cael eu cyflwyno fel ymbellhau cymdeithasol a chynlluniau dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Tim Woods: "Ein blaenoriaeth yw diogelwch myfyrwyr, staff a'r gymuned yn ehangach.
"Mae trefniadau manwl yn cael eu datblygu ar y cyd gydag Undeb y Myfyrwyr, Cyngor Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Llywodraeth Cymru."
Llongyfarchiadau Huw Edwards
Y darlledwr Huw Edwards sydd ar frig pôl darllenwyr y Press Gazette am y "cyflwynydd newyddion nos gorau yn ystod argyfwng coronafeirws".
Fe wnaeth dros 2,500 ymateb i'r pôl ar-lein ac fe gipiodd Mr Edwards 28% o'r bleidlais.
Cyflwynydd ITV Tom Bradby oedd yn ail ac roedd Sophie Raworth, cydweithwraig i Huw Edwards, yn drydydd.
Ym mis Ebrill, datgelodd y cyflwynydd 58 oed, ei fod wedi cael cyfnod bant o'r gwaith am dair wythnos ar ôl iddo gael, mae e'n amau, yr haint coronafeirws.
Ar fin dechrau ...
BBC Radio Cymru
Cofiwch wrando ar y Post Prynhawn i gael y newyddion diweddaraf.
'Ystyried opsiynau' wedi trafodaeth ar brifysgolion
Wedi cyfarfod gyda Gweinidog Prifysgolion y DU, Michelle Donelan, dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod yn ystyried ei hopsiynau.
Mi hi a gweinidogion addysg eraill o lywodraethau datganoledig yn gwrthwynebu cynlluniau llywodraeth San Steffan - cynlluniau a fyddai'n gosod cyfyngiadau ar faint o fyfyrwyr o Loegr a allai astudio mewn sefydliadau ar draws y DU.
Mae oddeutu 40% o is-raddedigion prifysgolion Cymru yn dod o Loegr.
Mewn neges ar ei chyfrif Twitter wedi'r cyfarfod dywedodd ei fod "yn anghytuno â dull Lloegr o ymdrin â'r mater hwn.
"Mae myfyrwyr ac academyddion o Loegr, fel miloedd o bobl eraill o bob cwr o'r byd, yn gwneud cyfraniad enfawr i fywyd campws, y gymuned a chenedlaethol Cymru.
"Edrychwn ymlaen at groesawu miloedd mwy yn yr hydref ac yn y blynyddoedd i ddod."
Trefniadau ailagor safleoedd gwastraff Ceredigion
Cyngor Ceredigion
Bydd Safleoedd Gwastraff Cartref ar draws Ceredigion yn ailagor ar wahanol ddyddiadau rhwng 4 ac 17 Mehefin.
Anogir trigolion i beidio ag ymweld â’r safleoedd oni bai ei fod yn hanfodol.
Noda'r rheolau newydd mai:
Ymateb Llywodraeth Cymru i bryderon gwerthwyr ceir
Llywodraeth Cymru
Yn gynharach fe glywson ni am bryder gwerthwyr ceir am nad ydynt yn cael agor yng Nghymru - yn wahanol i Loegr.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn wedi nodi y dylai busnesau na sy'n cael eu hystyried yn gwerthu nwyddau hanfodol baratoi i ailagor ymhen tair wythnos os ydynt yn gallu sicrhau ymbellhau cymdeithasol - ac fe fyddwn yn adolygu hyn.
"Bydd unrhyw benderfyniad yn seiliedig ar gyngor gwyddonol a meddygol.
"Ry'n wedi darparu pecyn cefnogi hael i fusnesau - yr haelaf yn y DU sy'n cynnwys £1.7bn o gefnogaeth ariannol uniongyrchol i fusnesau o bob maint drwy ein Cronfa Cadernid Economaidd a grantiau i dalu ardrethi busnes."
Nifer y marwolaethau Covid-19 hyd yma
Gwerthwyr ceir Cymru'n anhapus gyda'r llywodraeth
Mae nifer o gwmnïau gwerthu ceir wedi lleisio eu gwrthwynebiad am nad ydynt yn cael agor yma yng Nghymru ar hyn o bryd - yn wahanol i werthwyr ceir yn Lloegr.
Mae 18 o gwmnïau gwerthu ceir wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Mark Drakeford yn cyfleu eu "pryder mawr a siom" nad oes modd iddyn nhw werthu cerbydau, tra bod gwerthwyr ceir dros y ffin yn cael gwneud hynny o heddiw ymlaen.
Dywed y gwerthwyr Cymreig y gall y sefyllfa arwain at golli swyddi, gyda nifer fawr o gwsmeriaid yn croesi Clawdd Offa i brynu ceir.
Yn y llythyr mae'r gwerthwyr ceir yn dadlau fod y polisi yma yng Nghymru wedi arwain at "niwed sylweddol i'r sector."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r llywodraeth am ymateb.
Cyngor CBAC ar arholiadau UG a Safon Uwch
Wrth i dymor y dysgu adref ailgychwyn heddiw - dyma rai atebion i ddisgyblion y chweched.
Neges gan Heddlu'r Gogledd
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i annog pobl i ddilyn deddfwriaeth Llywodraeth Cymru wrth i'r rheolau am gyfyngiadau teithio newid yn ddiweddarach heddiw.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Nigel Harrison: “Roedd yr ardal yn fwy prysur y penwythnos hwn gyda llawer mwy o bobl ar ein traethau ac mewn llecynnau eraill o harddwch.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi gwrando ar ganllawiau'r llywodraeth. Ond eto mi wnaethon ni weld pobl yn teithio i mewn o ogledd orllewin a chanolbarth Lloegr sy'n anghyfreithlon yn y rhan fwyaf o achosion."
Ychwanegodd: “Wrth i'r canllawiau newid yng Nghymru am 16:00 heddiw bydd hi'n hanfodol bwysig fod pobl yn gwneud y peth iawn a cheisio diogelu eu hanwyliaid.
“Mae'r neges yn glir - arhoswch yn lleol a chadwch bellter oddi wrth eich gilydd. Mae'n bwysig eich bod yn cwrdd â phobl o aelwyd arall allan yn yr awyr agored yn unig. Cofiwch bwrpas y rheoliadau – atal lledu’r feirws, diogelu’r GIG ac achub bywydau.
"Mae Gogledd Cymru yn le gwych i ymweld â hi ac edrychwn ymlaen at groesawu pobl yn ôl cyn gynted â phosib ond ddim ar hyn o bryd."
Actor yn addasu - a chynnig help llaw
Twitter
Pryderon am gyllideb Cyngor Caerdydd
Dros Ginio