Yn ystod cyfarfod y wasg dyddiol Llywodraeth y DU dywedodd Boris Johnson fod 233 o farwolaethau yn gysylltiedig â coronafeirws wedi eu cofnodi ers ddoe.
Mae'n golygu fod cyfanswm o 41,969 o farwolaethau wedi eu cofnodi, ond mae'r cyfanswm go iawn yn debygol o fod yn uwch.
Caerfyrddin ac Airbus yn colli eu lle
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Mae clybiau Caerfyrddin ac Airbus UK wedi disgyn o Uwchgynghrair Cymru.
Yn cael eu dyrchafu i'r uwchgynghrair mae clybiau Hwlffordd a'r Fflint.
Dywed y Gymdeithas iddynt ddod i'r penderfyniad ar ôl ystyriaeth fanwl i'r holl opsiynau.
Pryder am 'yr hyn sy'n wynebu pobl hŷn'
Senedd Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots, wedi dweud mai'r pandemig coronafierws yw’r cyfnod mwyaf heriol iddi yn ei swydd.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Senedd dywedodd nad oedd hi "erioed wedi gweld amser pan oedd hawliau pobl hŷn dan gymaint o fygythiad" ac nad oedd hi erioed wedi bod yn dyst i "gymaint o sgyrsiau torcalonnus gyda phobl hŷn."
Dywedodd ei bod wedi clywed am nifer o achosion o ragfarn yn erbyn pobl hŷn ar y cyfyngau cymdeithasol.
"Rwyf wedi ei gweld hi'n amser anodd iawn wrth glywed beth sy'n mynd mlaen er gwaethaf yr holl waith da sydd hefyd yn digwydd."
Ychwanegodd: "Pan rwy'n edrych i'r dyfodol rwyf dal yn bryderus am yr hyn sy'n wynebu pobl hŷn."
BBCCopyright: BBC
Sut orau i warchod Eryri a'i phobl?
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael cais i ohirio cynnal digwyddiadau yno tan 2021.
Ar hyn o bryd mae'r Awdurdod yn edrych ar ffyrdd i symud ymlaen wrth i rai o'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Bydd yn rhaid iddynt ystyried y cydbwysedd rhwng gofynion y diwydiant ymwelwyr a gwarchod Eryri a'i phobl.
Dyma farn rhai o drigolion, pobl busnes a threfnwyr digwyddiadau'r ardal.
Video content
Video caption: Effaith 'anodd' canslo digwyddiadau tan 2021 ar EryriEffaith 'anodd' canslo digwyddiadau tan 2021 ar Eryri
Mae gwyddonwyr yn obeithiol eu bod wedi dod o hyd i steroid sy'n gallu lleihau nifer y marwolaethau ymhlith cleifion sy'n dioddef effeithiau mwyaf dwys Covid-19.
Ar gyfartaledd mae 40% o gleifion sydd angen cymorth peiriant i anadlu yn marw o'r haint.
Ond roedd hyn yn gostwng i draean y ffigwr yma i'r rhai wnaeth dderbyn y cyffur dexamethasone.
Yn ystod y cyfnod prawf fe wnaeth 2,104 o gleifion - yn cynnwys 180 o ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro - dderbyn 6mg o'r cyffur unwaith y dydd am 10 diwrnod.
Dywed Heddlu’r De y bydd mwy o blismyn ar ddyletswydd yn ardal Bae Langland ar Benrhyn Gŵyr wedi i tua 100 o bobl ifanc ymgasglu yno nos Lun.
Yn ôl yr heddlu roedden nhw'n ymateb i alwad ynglŷn ag ymosodiad yn yr ardal.
Fe ddaethon nhw o hyd i ddyn 21 oed oedd wedi ei anafu, ond nid oedd cyhuddiad o ymosod.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Byddwn am atgoffa pobl fod rheolau Covid-19 yn parhau mewn grym ac na fyddwn yn derbyn unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol."
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod wyth yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19.
Mae 1,456 o bobl bellach wedi marw ar ôl cael yr haint yng Nghymru.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 65 o achosion newydd - gan gynyddu'r cyfanswm i 14,869.
Mae'r ffigyrau yn uwch mewn gwirionedd oherwydd y ffordd maen nhw'n cael eu cofnodi.
'Chwarter' gweithwyr ffatri yn hunan-ynysu
Mae tua chwarter gweithwyr ffatri prosesu cywion ieir yn Sir Fôn yn hunan-ynysu ar ôl achos o Covid-19, medd undebau.
Yn ôl cynrychiolwyr yr undebau ar safle ffatri 2 Sisters yn Llangefni mae 13 o achosion wedi eu cadarnhau ymhlith staff, gyda 110 yn hunan-ynysu.
Mae'r cwmni wedi gwrthod cadarnhau nifer yr achosion, ond maen nhw wedi dweud eu bod yn cefnogi staff ar y safle ac "yn gweithio er mwyn sicrhau'r amodau mwyaf diogel yn y gweithle".
BBCCopyright: BBC
Agor a gohirio cwest i ddwy weddw
Mae crwner yn Rhuthun wedi agor a gohirio cwest i ddwy wraig weddw oedd wedi eu heintio gyda Covid-19 ar ôl mynd i'r ysbyty.
Fe wnaeth Dorothy McRobert, 99, o'r Rhyl gael triniaeth yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon ar ôl syrthio yn ei chartref.
Bu farw Mary Bevan, 93, hefyd o'r Rhyl, yn Ysbyty Rhuthun ac ar ôl mynd yno ar ôl syrthio yn ei chartref.
Wrth ohirio’r achosion dywedodd y crwner fod y ddwy wedi marw o Covid-19, ond bod y damweiniau wedi cyfrannu at eu marwolaethau.
Mae'r bwlch yn fach iawn rhwng Cymru a Lloegr o ran y cyflymdra mae busnesau yn ailagor, yn ôl gweinidog yr economi yng Nghymru.
Ddoe fe wnaeth siopau nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol ailagor yn Lloegr.
Dyw siopau o'r fath yng Nghymru heb gael dyddiad ailagor eto.
Dywedodd Mr Skates y byddai Llywodraeth Cymru ond yn gwneud y cyhoeddiad pan roedd sicrwydd y byddai'n gallu'r "cwblhau'r cam".
Ychwanegodd y byddai Mark Drakeford yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn ag ailagor busnesau ddydd Gwener.
"Nid ydym am fod mewn sefyllfa lle rydym yn gorfod gwneud tro pedol a mynd yn ôl ar ein haddewidion yma yng Nghymru.
"Mae angen sicrwydd ar fusnesau, maen nhw angen bod â hyder yn y llywodraeth - a phan rydym yn datgan y bydd rhan o'r economi yn ailagor, yna y bydd hynny yn digwydd."
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Mae siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol wedi ailagor yn LloegrImage caption: Mae siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol wedi ailagor yn Lloegr
Pryder am 'ansicrwydd Brexit'
Llywodraeth Cymru
Galwodd Mr Skates ar Lywodraeth y DU i "sicrhau ei fod yn cynnig y gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau".
Rhybuddiodd fod cwmnïau yn wynebu'r "storm berffaith" yn yr hydref wrth i gynllun gwarchod swyddi Llywodraeth y DU ddod i ben a bod Brexit yn achosi "dryswch ac ansicrwydd".
Yn ystod y gynhadledd ddyddiol dywedodd Mr Skates: "Mae'n rhaid osgoi hynny.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau ei fod yn cynnig y gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau er mwyn osgoi'r ansicrwydd allai wynebu gormod o bobl."
Galw am helpu pobl i ddychwelyd i waith
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mr Skates y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu rhagor o gefnogaeth i'r 316,000 o bobl yng Nghymru sydd ar gynllun 'furlough'.
Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Boris Johnson hefyd barhau i gefnogi 102,000 o bobl hunan-gyflogedig yng Nghymru "er mwyn sicrhau eu bod yn gallu dychwelyd i waith unwaith fod y pandemig ar ben".
Yn ôl Mr Skates mae Llywodraeth Cymru am gefnogi cwmnïau fydd yn cyflogi pobl sy'n fwy tebygol o fod wedi cael eu heffeithio gan coronafeirws - pobl ifanc, pobl o gymunedau BAME a phobl anabl.
Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu £40m er mwyn cynorthwyo hyn.
BBCCopyright: BBC
Skates: Dim dyddiad ar ailagor y sector dwristiaeth
Llywodraeth Cymru
Dywed Ken Skates bod rhagolygon tymor twristiaeth 2020 yn edrych yn "llawer gwell" ond nad oedd y llywodraeth am roi dyddiad pryd maen nhw'n gobeithio y bydd y sector dwristiaeth yma yn ailagor.
"Rhaid i ni sicrhau pan fyddwn yn datgan dyddiad y gallwn ymrwymo i'r dyddiad hwnnw," meddai.
"Roeddwn i'n teimlo bod risg wirioneddol na fyddai unrhyw obaith o economi ymwelwyr yn 2020.
"Fy mhrif bryder fu sicrhau bod y diwydiant yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
"Mae'r rhagolygon o gael tymor twristiaeth 2020 yn edrych yn llawer gwell."
Ychwanegodd: "Ni fyddwn yn dewis dyddiad mympwyol yn unig ac yn dweud 'dyma pryd y gobeithiwn y byddwch yn gallu agor.' Rhaid i ni sicrhau pan fyddwn yn datgan dyddiad y gallwn ymrwymo i'r dyddiad hwnnw."
'Bydd llawer o bobl yn colli eu swyddi'
Llywodraeth Cymru
Dywed gweinidog yr economi, Ken Skates, er gwaethaf ystadegau marchnad lafur "gymharol sefydlog" heddiw, mae "diwrnodau anodd o'n blaenau lle bydd llawer o bobl yn colli eu swyddi".
Wrth siarad yng nghynhadledd i'r wasg ddyddiol coronafeirws Llywodraeth Cymru, dywedodd Mr Skates fod gweinidogion Cymru wedi darparu’r “pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau unrhyw le yn y DU”.
Dywedodd fod hyn yn ategu’r cyllid sydd ar gael gan gynlluniau Llywodraeth y DU a hefyd yn helpu cwmnïau nad ydyn nhw’n gymwys i gael cymorth.
Dywedodd Mr Skates fod cefnogi economi Cymru yn golygu mwy na darparu cyllid i gwmnïau yn unig a bod angen i'r llywodraeth hefyd gefnogi pobl a allai fod wedi colli swydd neu gyfle hyfforddi oherwydd y pandemig.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl fawr
Dyna ni o'r llif byw am heddiw.
Fe fyddwn ni yn ôl bore fory gyda rhagor o ddiweddariadau.
Hwyl am y tro
Cymrwch ofal...
Iechyd Cyhoeddus Cymru
233 yn rhagor o farwolaethau yn y DU
Yn ystod cyfarfod y wasg dyddiol Llywodraeth y DU dywedodd Boris Johnson fod 233 o farwolaethau yn gysylltiedig â coronafeirws wedi eu cofnodi ers ddoe.
Mae'n golygu fod cyfanswm o 41,969 o farwolaethau wedi eu cofnodi, ond mae'r cyfanswm go iawn yn debygol o fod yn uwch.
Caerfyrddin ac Airbus yn colli eu lle
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Mae clybiau Caerfyrddin ac Airbus UK wedi disgyn o Uwchgynghrair Cymru.
Daw hyn ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddod i benderfyniad ynglŷn â sut i rannu pwyntiau gweddill y gemau, gan fod y tymor wedi dod i ben yn gynnar oherwydd y pandemig.
Yn cael eu dyrchafu i'r uwchgynghrair mae clybiau Hwlffordd a'r Fflint.
Dywed y Gymdeithas iddynt ddod i'r penderfyniad ar ôl ystyriaeth fanwl i'r holl opsiynau.
Pryder am 'yr hyn sy'n wynebu pobl hŷn'
Senedd Cymru
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots, wedi dweud mai'r pandemig coronafierws yw’r cyfnod mwyaf heriol iddi yn ei swydd.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Senedd dywedodd nad oedd hi "erioed wedi gweld amser pan oedd hawliau pobl hŷn dan gymaint o fygythiad" ac nad oedd hi erioed wedi bod yn dyst i "gymaint o sgyrsiau torcalonnus gyda phobl hŷn."
Dywedodd ei bod wedi clywed am nifer o achosion o ragfarn yn erbyn pobl hŷn ar y cyfyngau cymdeithasol.
"Rwyf wedi ei gweld hi'n amser anodd iawn wrth glywed beth sy'n mynd mlaen er gwaethaf yr holl waith da sydd hefyd yn digwydd."
Ychwanegodd: "Pan rwy'n edrych i'r dyfodol rwyf dal yn bryderus am yr hyn sy'n wynebu pobl hŷn."
Sut orau i warchod Eryri a'i phobl?
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael cais i ohirio cynnal digwyddiadau yno tan 2021.
Ar hyn o bryd mae'r Awdurdod yn edrych ar ffyrdd i symud ymlaen wrth i rai o'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Bydd yn rhaid iddynt ystyried y cydbwysedd rhwng gofynion y diwydiant ymwelwyr a gwarchod Eryri a'i phobl.
Dyma farn rhai o drigolion, pobl busnes a threfnwyr digwyddiadau'r ardal.
Video content
£40m at gyfleoedd gwaith ac addysg yng Nghymru
Cyflwyno newidiadau yn bwyllog gan osgoi gorfod gwneud tro pedol, medd Gweinidog yr Economi.
Darllen mwyCyffur yn rhoi gobaith i wyddonwyr
Mae gwyddonwyr yn obeithiol eu bod wedi dod o hyd i steroid sy'n gallu lleihau nifer y marwolaethau ymhlith cleifion sy'n dioddef effeithiau mwyaf dwys Covid-19.
Ar gyfartaledd mae 40% o gleifion sydd angen cymorth peiriant i anadlu yn marw o'r haint.
Ond roedd hyn yn gostwng i draean y ffigwr yma i'r rhai wnaeth dderbyn y cyffur dexamethasone.
Yn ystod y cyfnod prawf fe wnaeth 2,104 o gleifion - yn cynnwys 180 o ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro - dderbyn 6mg o'r cyffur unwaith y dydd am 10 diwrnod.
Apêl ar gleifion i drafod symptomau
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mwy o heddlu ar ddyletswydd
Heddlu De Cymru
Dywed Heddlu’r De y bydd mwy o blismyn ar ddyletswydd yn ardal Bae Langland ar Benrhyn Gŵyr wedi i tua 100 o bobl ifanc ymgasglu yno nos Lun.
Yn ôl yr heddlu roedden nhw'n ymateb i alwad ynglŷn ag ymosodiad yn yr ardal.
Fe ddaethon nhw o hyd i ddyn 21 oed oedd wedi ei anafu, ond nid oedd cyhuddiad o ymosod.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Byddwn am atgoffa pobl fod rheolau Covid-19 yn parhau mewn grym ac na fyddwn yn derbyn unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol."
Ysbyty preifat wedi trin 1,000 o gleifion y GIG
Mae'r cytundeb yn galluogi prif ysbytai bwrdd iechyd i ganolbwyntio ar ofalu am gleifion Covid-19.
Darllen mwyWyth yn rhagor o farwolaethau
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod wyth yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael Covid-19.
Mae 1,456 o bobl bellach wedi marw ar ôl cael yr haint yng Nghymru.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 65 o achosion newydd - gan gynyddu'r cyfanswm i 14,869.
Mae'r ffigyrau yn uwch mewn gwirionedd oherwydd y ffordd maen nhw'n cael eu cofnodi.
'Chwarter' gweithwyr ffatri yn hunan-ynysu
Mae tua chwarter gweithwyr ffatri prosesu cywion ieir yn Sir Fôn yn hunan-ynysu ar ôl achos o Covid-19, medd undebau.
Yn ôl cynrychiolwyr yr undebau ar safle ffatri 2 Sisters yn Llangefni mae 13 o achosion wedi eu cadarnhau ymhlith staff, gyda 110 yn hunan-ynysu.
Mae'r cwmni wedi gwrthod cadarnhau nifer yr achosion, ond maen nhw wedi dweud eu bod yn cefnogi staff ar y safle ac "yn gweithio er mwyn sicrhau'r amodau mwyaf diogel yn y gweithle".
Agor a gohirio cwest i ddwy weddw
Mae crwner yn Rhuthun wedi agor a gohirio cwest i ddwy wraig weddw oedd wedi eu heintio gyda Covid-19 ar ôl mynd i'r ysbyty.
Fe wnaeth Dorothy McRobert, 99, o'r Rhyl gael triniaeth yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon ar ôl syrthio yn ei chartref.
Bu farw Mary Bevan, 93, hefyd o'r Rhyl, yn Ysbyty Rhuthun ac ar ôl mynd yno ar ôl syrthio yn ei chartref.
Wrth ohirio’r achosion dywedodd y crwner fod y ddwy wedi marw o Covid-19, ond bod y damweiniau wedi cyfrannu at eu marwolaethau.
Cadw'n ddiogel ond cofiwch...
Iechyd Cyhoeddus Cymru
'Bwlch bach iawn' rhwng Cymru a Lloegr