a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sara Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Senedd Fyw

    A dyna ni am heddiw - bydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf.

    Tan hynny cadwch yn ddiogel.

    Hwyl fawr.

  2. 'Profiadau staff rheng flaen yn werthfawr'

    Mae Ms Bryant yn cyfeirio at y gyfrol Behind the Mask, lle mae Dr Ami Jones, un o ymgynghorwyr gofal uned dwys yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni yn disgrifio effeithiau Covid-19.

    Mae'n dweud bod profiadau staff y rheng flaen yn ystod y pandemig yn gofnod gwerthfawr a real o'r sefyllfa argyfyngus.

    Video content

    Video caption: Profiad Dr Bethan Gibson, meddyg uned gofal ddwys
  3. Dadl Fer: Llesiant meddyliol ein gweithlu GIG a gofal cymdeithasol

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) ar gyfer y ddadl fer yw

    'Cefnogi'r rhai sy'n ein cefnogi ni: llesiant meddyliol ein gweithlu GIG a gofal cymdeithasol'.

    rheng flaen
  4. Cydnabod bod cyfyngiadau coronafeirws wedi cael 'effaith ddofn ar ein heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau'

    Senedd Cymru

    Mae cynnig Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio yn cael ei ddileu ac yn ei le mae diwygiad Llywodraeth Cymru.

    Roedd 25 o blaid, fe wnaeth wyth ymatal ac roedd naw yn erbyn.

    Felly mae'r Senedd:

    1. Yn cydnabod bod y mesurau angenrheidiol a gymerwyd i ddiogelu bywydau ac i atal y feirws SARS-COV-2 rhag lledaenu wedi cael effaith ddofn ar ein heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau.

    2. Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi economi Cymru, a'i hymrwymiad i sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd oherwydd effeithiau'r pandemig.

    3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyfyngiadau symud i ben cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny.

    4. Yn nodi mai ein pecyn cymorth i fusnesau yw'r un mwyaf hael yn y DU a bod dros £1.67bn o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ers dechrau mis Ebrill 2020.

  5. Dim cyfeiriad at honiadau fod gwleidyddion wedi yfed alcohol ar dir y Senedd

    Does dim cyfeiriad wedi bod yn y cyfarfod llawn at yr honiad fod gwleidyddion wedi bod yn yfed alcohol ar dir y Senedd ddyddiau wedi i waharddiad alcohol ddod i rym yng Nghymru i atal lledaeniad coronafeirws.

    Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Paul Davies, ei brif chwip, Darren Millar a'r Aelod Llafur Alun Davies wedi ymddiheuro ond maen nhw'n gwadu torri'r rheolau coronafeirws.

    Mae'r AS Ceidwadol Nick Ramsay wedi gwadu ei fod yn rhan o'r digwyddiad, er iddo fynd i'r bwyty yn y Senedd ar ben ei hun ar y noson honno.

    Mae awdurdodau'r Senedd yn ymchwilio i'r mater.

  6. 'Ein cefnogaeth i fusnesau wedi bod yn hael,' medd Llywodraeth Cymru

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru am ddileu popeth yng nghynnig Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod y Senedd:

    1. Yn cydnabod bod y mesurau angenrheidiol a gymerwyd i ddiogelu bywydau ac i atal y feirws SARS-COV-2 rhag lledaenu wedi cael effaith ddofn ar ein heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau.

    2. Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi economi Cymru, a'i hymrwymiad i sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd oherwydd effeithiau'r pandemig.

    3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyfyngiadau symud i ben cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny.

    4. Yn nodi mai ein pecyn cymorth i fusnesau yw'r un mwyaf hael yn y DU a bod dros £1.67bn o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ers dechrau mis Ebrill 2020.

    adeiladwr
    Image caption: Ymhlith y diwydiant adeiladu a manwerthu mae'r niferoedd uchaf o weithwyr sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun ffyrlo yng Nghymru
  7. 'Ymateb unedig, dan arweiniad y DU, sy'n fwyaf effeithiol'

    Mae Mark Reckless o Blaid Diddymu'r Cynulliad yn credu mai'r strategaeth Covid-19 fwyaf effeithiol i Gymru "yw ymateb unedig, DU-gyfan, dan arweiniad Llywodraeth y DU".

  8. Ceidwadwyr: 'Angen rhoi terfyn ar ddosbarthu cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ar sail cyntaf i'r felin'

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Ceidwadwyr am ddileu popeth yng nghynnig Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod y Senedd:

    1. Yn cydnabod effaith Covid-19 ar wasanaethau cyhoeddus a busnes yng Nghymru.

    2. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru a chefnogi ymateb y sector cyhoeddus i'r pandemig, gan gynnwys:

    a) £5.2 biliwn o gymorth ariannol i Lywodraeth Cymru;

    b) y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws;

    c) y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig

    d) cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws

    e) y cynllun benthyciadau adfer;

    f) caffael brechlynnau a cyfarpar diogelu personol yn y DU; a

    g) defnyddio'r lluoedd arfog.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) dyrannu'r adnoddau nas defnyddiwyd sy'n weddill a ddaeth i law gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau Cymru;

    b) rhoi terfyn ar ddosbarthu cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ar sail cyntaf i'r felin a chanolbwyntio adnoddau ar y rhai mwyaf anghenus;

    c) gwarantu bod cymorth busnes ar gael ar unwaith pan gaiff cyfyngiadau eu cyflwyno; a

    d) datblygu cynllun cynhwysfawr i sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig gyda phrosiectau seilwaith arloesol ac amgylchedd croesawgar i fusnesau yng Nghymru.

  9. Mesurau yn y dyfodol i atal a mynd i'r afael â lledaeniad Covid-19

    Dadl Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio sydd nesaf a'r pwnc dan sylw yw mesurau yn y dyfodol i atal a mynd i'r afael â lledaeniad Covid-19.

    Mae'r blaid yn cynnig bod y Senedd:

    1. Yn cydnabod y niwed a achosir gan fesurau a gymerwyd i atal feirws SARS-CoV-2 rhag lledaenu.

    2. Yn credu bod mesurau lliniaru coronafeirws wedi arwain at ddifrod i economi Cymru ac wedi effeithio'n negyddol ar gyfleoedd bywyd cenedlaethau iau.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu mai'r cyfyngiadau symud presennol yw'r rhai olaf, drwy sicrhau:

    a) bod gan Gymru drefn brofi, olrhain ac ynysu ddigonol a'i bod yn darparu cyfleusterau i ganiatáu i unigolion ynysu eu hunain yn llwyr oddi wrth bob cyswllt wyneb yn wyneb.

    b) bod gan GIG Cymru fwy o welyau gofal critigol, gyda nifer y gwelyau ICU y pen yn nes at y nifer o welyau sydd gan yr Almaen neu'r Unol Daleithiau, lle mae llai o farwolaethau fesul y o'r boblogaeth na Chymru.

    4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y loteri cod post cymorth busnes, gan sicrhau bod pob busnes yng Nghymru sy'n gorfod cau o ganlyniad i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael ei ddigolledu'n ddigonol.

    Covid restrictions
  10. Llywodraeth yn gwrthod tri o argymhellion y pwyllgor plant

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod tri o argymhellion y pwyllgor gan gynnwys "Y dylai rôl i Weinidog gael ei chreu ar y cyfle nesaf gyda chyfrifoldebau clir a diffiniedig ar gyfer plant a phobl ifanc ynghyd â rôl bendant o ddwyn y Cabinet i gyfrif dros gyflawni darpariaethau Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011."

    Dywed y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wrth ymateb "mae gennyf gyfrifoldebau penodol perthynas â phlant a phobl ifanc a'u hawliau.

    "Fodd bynnag, fel llywodraeth, rydym yn cytuno bod hawliau plant yn gyfrifoldeb i bawb. Golyga hyn fod pryderon plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn flaenllaw yn syniadaeth gyfunol a phrosesau llunio polisïau'r Cabinet."

    Mae modd gweld ymateb y llywodraeth yn llawn yma.

    Julie Morgan
    Image caption: Dywed Julie Morgan AS bod ganddi hi gyfrifoldebau penodol am hawliau plant a phobl ifanc
  11. 'Yr haint wedi cael effaith sylweddol ar blant a phobl ifanc'

    plant

    Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Hawliau plant yng Nghymru.

    Mae Lynne Neagle (Torfaen) yn cynnig bod y Senedd yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Hawliau plant yng Nghymru.

    "O holl gytuniadau’r Cenhedloedd Unedig, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn) yw’r un sy’n cael ei gadarnhau amlaf.

    "Rydym yn gwybod mor bwysig yw hawliau plant, a’u harwyddocâd o’u troi’n realiti. Maen nhw’n effeithio ar bob agwedd ar fywyd plentyn neu berson ifanc, o’u hiechyd meddwl, i a ydyn nhw’n cael eu hamddiffyn a’u cadw’n ddiogel, i leisio’u barn i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar eu rhan.

    "Dyna pam, ers sefydlu’r Pwyllgor hwn, yr ydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i’n holl waith: wrth inni graffu ar bolisi, deddfwriaeth a gwariant y llywodraeth," medd Ms Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

    "Drwy gydol yr argyfwng hwn, mae ein Pwyllgor wedi monitro’n agos effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Nid oes fawr o amheuaeth bod coronafeirws a’r mesurau a gymerwyd i’w reoli wedi effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc yn sylweddol ...

    "Yr hyn sy’n llai clir yw a fu ystyriaeth systematig o hawliau plant ymysg y llywodraeth wrth ddatblygu ei hymateb i’r pandemig. Rydym yn benderfynol o fonitro ymrwymiad diweddar y Prif Weinidog i ystyried y ffordd orau o gyflwyno asesiadau o’r effeithiau posibl o gynnal neu leddfu cyfyngiadau ar gydraddoldeb a hawliau plant a chyflawni dyletswyddau eraill," ychwanega Ms Neagle.

  12. 'Yn cydymdeimlo'r â gofynion y ddeiseb'

    Dywed Dai Lloyd AS, a geisiodd gyflwyno mesur ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol yn 2017 bod hi'n bwysig cadw enwau cartrefi hefyd.

    "Mae enwau," medd Dr Lloyd, "yn bwysig i gof cenedl - gan ddwyn i gof gysylltiadau hanesyddol, pobl enwog a digwyddiadau o fri".

    Wrth ymateb dywed y Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan bod "gen i lot o gydymdeimlad gyda'r mater hwn ond ar hyn o bryd mae hawl gan bobl i enwi eu tai".

    Mae'n dweud bod Ceredigion wedi cael deg cais i newid enw cartref o Saesneg i Gymraeg a dim ond un o Gymraeg i Saesneg.

    Ychwanega ei bod yn mynd i weld "beth ellid ei wneud yn statudol".

    Mae ASau yn nodi'r ddeiseb yn ddiwrthwynebiad.

  13. Tudur Owen a Carwyn Jones AS hefyd wedi lleisio barn

    Ym Mrynaman mae enw tafarn 'Tregib Arms' sy'n dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi newid i 'Pit Wheel' - dyw hynny ddim wrth fodd Carwyn Jones AS sydd â chysylltiad â'r ardal.

    Un arall sydd wedi lleisio barn ar newid enwau yw'r cyflwynydd Tudur Owen.

    Video content

    Video caption: Trafod deddfu i ddiogelu enwau Cymraeg
  14. Deiseb â dros 10,000 llofnod yn gallu sicrhau dadl yn y Senedd

    Mae’r Pwyllgor Deisebau yn adolygu’r holl ddeisebau sy’n casglu mwy na 50 llofnod. Bydd y Pwyllgor yn penderfynu beth i’w wneud er mwyn helpu i symud ymlaen â’r ddeiseb. Gall hyn gynnwys trafod y mater a phwyso ar Lywodraeth Cymru ac eraill i weithredu.

    Os bydd eich deiseb yn casglu dros 10,000 llofnod, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried gofyn am ddadl yn Siambr y Senedd.

    Bydd y Pwyllgor yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys y materion a godir yn y ddeiseb, pa mor ddybryd yw’r sefyllfa a chyfran y llofnodion sy’n dod o Gymru.

  15. Ydych chi'n gwybod lle mae Llan Tropez?

    Llan Tropez
    Image caption: Cafodd un eiddo ym Mae Trearddur ar Ynys Môn ei ail-enwi'n Llan Tropez

    Mae'r mater o newid enwau tai o'r Gymraeg i'r Saesneg wedi dod yn bwnc trafod llosg dros y misoedd diwethaf, a bu trafodaeth ar y mater yn ddiweddar yng nghyfarfod Cyngor Tref Porthmadog.

    Dywedodd y cadeirydd, Gwilym Jones: "Y pryder ydy bod yr enwau'r tai 'ma yn cael eu newid.

    "Mae pawb yn gwybod am y busnes lle mae mwy o dai yng Nghymru yn mynd yn eiddo i bobl ddi-Gymraeg, a fedra i ddim ond gweld tyfiant mewn newid enwau tai oherwydd hynny.

    "Mae o bwys - unwaith mae'r enwau tai 'ma wedi mynd, maen nhw wedi mynd am byth.

    "Mae rhai o'r enwau 'ma yn hanesyddol ac yn bethau sy'n ein gwneud ni'n Gymry."

    Gwilym Jones
    Image caption: "Unwaith mae'r enwau tai 'ma wedi mynd, maen nhw wedi mynd am byth," meddai Gwilym Jones
  16. 'Angen diwedd i'r enwau gwirion ar gartrefi yng Nghymru'

    Nesaf mae Janet Finch-Saunders (Aberconwy) yn cynnig bod y Senedd yn nodi’r ddeiseb 'Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai’.

    Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno gan Robin Aled Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 18,103 lofnodion.

    Mae geiriad y ddeiseb yn dweud: "Mae ‘na batrwm hyd a lled Cymru lle mae perchnogion newydd yn newid enwau tai i’r Saesneg."

    Ym mis Tachwedd dywedodd Robin Aled Davies o Lanbedr Dyffryn Clwyd: "Dwi'n gobeithio ceith o ei basio ymlaen fel bod o'n mynd o flaen pleidlais gan y Senedd.

    "Wedyn dod yn ddeddf gwlad na chaiff pobl newid enwau tai heb fod o'n mynd o flaen pwyllgorau lleol, a bydd hynny'n rhoi diwedd i'r enwau gwirion yma 'da ni'n weld ar gartrefi a bythynnod ar hyd a lled Cymru."

    Robin Aled Davies
    Image caption: Gobaith Robin Aled Davies ydy "rhoi diwedd i'r enwau gwirion" ar gartrefi
  17. 'Dim digon o athrawon cyfrwng Cymraeg,' medd y gweinidog

    Wrth ateb cwestiwn gan Suzy Davies, dywed y Gweinidog Iechyd, Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg nad yw'r Llywodraeth yn cwrdd â'r targedau o ran cael athrawon cyfrwng Cymraeg.

    Mae'n dweud bod y sefyllfa ar ei gwaethaf mewn ysgolion uwchradd er bod abwyd o £5,000 wedi'i roi i ddenu myfyrwyr ymarfer dysgu ac mae'n ychwanegu ei bod hi'n hapus i dderbyn syniadau.

    Cymraeg
  18. Gweinidog yn addo cwrdd â rhieni newydd

    Wrth ateb cwestiwn Bethan Sayed AS ar pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cymorth iechyd meddwl a llesiant i rieni newydd yng Nghymru?

    Dywed Eluned Morgan ei bod yn awyddus i gwrdd â rhieni newydd a bydd arian yn cael ei roi i fyrddau iechyd er mwyn cynnal "y safonau disgwyliedig".

    Mae'n dweud hefyd bod yn rhaid ystyried iechyd meddwl tadau newydd - roedd un arolwg a wnaed gan swyddfa Ms Sayed yn dweud bod nifer fawr o dadau newydd hefyd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl.

    Bethan Sayed
    Image caption: Fe anwyd mab bach i Bethan Sayed yn y cyfnod clo
  19. Effaith andwyol yr haint ar iechyd meddwl yng Nghymru?

    Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan sydd nesaf.

    Mae Jack Sargeant, AS Alun a Glannau Dyfrdwy yn gofyn: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith andwyol ar iechyd meddwl yng Nghymru?

    Dywed y gweinidog bod nifer o arolygon yn cael eu cynnal ar iechyd meddwl a bod hi'n ymddangos fod pryder pobl yn gyffredinol yn uwch yn ystod y pandemig - hynny oherwydd iechyd personol, iechyd perthnasau a phroblemau ariannol.

    Mae'n ychwanegu fod pob ymdrech yn cael ei wneud i gyrraedd pobl ac i weithredu yn sgil pryderon.

    Iechyd meddwl