a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni am heddiw - bydd y cyfarfod llawn nesaf yfory.

    Tan hynny diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogel.

    Nos da.

  2. Cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

    Mae ASau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws).

    Roedd 48 o blaid, neb yn ymatal a 5 yn erbyn.

    Felly mae hynny'n cwblhau cyfnod cyntaf y broses pedwar cyfnod.

    Bydd y bil yn cyrraedd y cyfnodau olaf ar 10 Chwefror.

    Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Bil Cyhoeddus, sef:

    • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a'r Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
    • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 3 - y Senedd yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Senedd i basio testun terfynol y Bil.
  3. Cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021

    Mae ASau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021.

    Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y bydd y Gorchymyn arfaethedig yn:

    • "cywiro nifer o ddiffygion yn Atodlenni 7A a 7B i Ddeddf 2006 sy'n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd;
    • "cywiro gwallau drafftio a fewnosodwyd i Ddeddf 2006 gan Ddeddf Cymru 2017;
    • "darparu eithriad o’r gofynion cydsyniad yn Atodlen 7B mewn perthynas â swyddogaethau cydredol a chydredol plws a grëwyd gan ddeddfwriaeth ymadael â’r UE a Deddf y Coronafeirws 2020."

    Roedd 49 o blaid, neb yn ymatal a 4 yn erbyn.

    Baneri
  4. Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

    Mae'r ASau nawr yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws).

    Fe allai etholiadau Senedd Cymru eleni gael eu gohirio nes cyn hwyred â 5 Tachwedd dan gynigion Llywodraeth Cymru.

    Dywed gweinidogion eu bod yn cymryd camau rhag ofn i'r pandemig atal cynnal yr etholiad yn ddiogel ar 6 Mai.

    Dywed gwrthwynebwyr fod yn rhaid i weinidogion egluro o dan ba amgylchiadau y byddent yn ceisio newid y dyddiad.

    Byddai etholwyr hefyd yn gallu danfon rhywun i bleidleisio ar ei rhan os oes rhaid iddyn nhw hunan-ynysu.

    Bydd mwy o bobl yn gymwys i bleidleisio yn 2021, gyda phobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu cymryd rhan am y tro cyntaf
    Image caption: Bydd mwy o bobl yn gymwys i bleidleisio yn 2021, gyda phobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu cymryd rhan am y tro cyntaf
  5. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau)

    Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021.

    Felly mae'r cyfyngiadau cyfredol sydd ar waith mewn ymateb i'r straen newydd o'r coronafeirws a nodwyd gyntaf yn Ne Affrica ym mis Rhagfyr 2020 yn parhau yn eu lle.

    Mae'r mesurau hefyd yn cael eu hymestyn i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo a Tanzania, "gan fod gan y ddau o'r rhain ffiniau â Zambia sy'n ddarostyngedig i'r drefn gyfyngiadau llymach ac sydd wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion a marwolaethau yn ystod yr wythnosau diwethaf".

    map
  6. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir

    Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020.

    Bydd y trothwy sy'n rhydd o dreth wrth brynu tai hyd at £250,000 yn dychwelyd i'r trothwy £180,000 ym mis Mawrth.

    Ond nid felly ar gyfer ail gartrefi.

    Hyd yma mae'r perchnogion yma wedi wynebu treth ychwanegol o o leiaf 3%.

    Bydd hynny'n cynyddu i 4% ar gyfer tai sy'n costio hyd at £180,000, gan godi i 16% ar gyfer eiddo sy'n werth o leiaf £1.5m.

    Roedd 39 o blaid, 11 yn ymatal a thri yn erbyn.

    Abersoch
    Image caption: Ym mhentref Abersoch, Gwynedd, gall cwt traeth gostio cymaint â chartref fforddiadwy
  7. Treth gwarediadau tirlenwi

    Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.

    Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio'r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi a fydd yn berthnasol i warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2021 neu wedi hynny yng Nghymru.

    Dyma’r cyfraddau o 1 Ebrill 2021:

    • Y gyfradd safonol yw £96.70 y dunnell (cynnydd o £94.15 y dunnell)
    • Y gyfradd is yw £3.10 y dunnell (cynnydd o £3.00 y dunnell)
    • Y gyfradd gwarediadau anawdurdodedig yw £145.05 y dunnell (cynnydd o £141.20 y dunnell).
    Cafodd y dreth ei datganoli ym mis Ebrill 2018
    Image caption: Cafodd y dreth ei datganoli ym mis Ebrill 2018
  8. Trethi datganoledig

    Nesaf, datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Rebecca Evans: "Cynnydd o ran Trethi Datganoledig".

    Mae hi'n canmol "gweithredu llwyddiannus" tair treth yng Nghymru - Treth Trafodiad Tir a Threth Gwaredu Tirlenwi yn 2018, a Chyfraddau Treth Incwm Cymru yn 2019.

    Mae hi'n dweud bod "gwaith pellach i'w wneud ar y posibilrwydd ar gyfer trethi newydd" ond y bydd "yn waith i Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru nesaf".

    Arian
  9. 'Methiant i wrando ar fenywod'

    Mae gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd yn parhau i fod mewn mesurau arbennig ers i "fethiannau difrifol" gael eu hamlygu ddwy flynedd yn ôl.

    Daeth ymchwiliad y Colegau Brenhinol yn 2019 i'r casgliad fod mamau'n wynebu "profiadau trallodus a gofal gwael" yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, gyda gwasanaethau mamolaeth yn cael eu hystyried yn "gamweithredol".

    Mae pedwar maes allweddol wedi'u nodi fel ffactorau a gyfrannodd at ddarparu gofal gwael gan gynnwys, 'methiant i wrando ar fenywod', 'methiant i nodi a chynyddu risg', 'arweinyddiaeth annigonol' a 'thriniaeth amhriodol sy'n arwain at ganlyniadau niweidiol'.

    Roedd y gwasanaethau mamolaeth dan sylw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles
    Image caption: Roedd y gwasanaethau mamolaeth dan sylw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles
  10. 'Rwy’n dal yn flin iawn am yr hyn a aeth o’i le'

    Dywed y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, “Rwy’n dal yn flin iawn am yr hyn a aeth o’i le”.

    Dywed fod "gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud", ond mae angen gwneud mwy.

    Vaughan Gething
  11. Mamolaeth Cwm Taf: Methiant yn achos dwy o bob tair

    Symudwn ymlaen at Ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething: "Diweddariad ar Adolygiad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg".

    Daeth panel annibynnol o glinigwyr i'r casgliad y gallai canlyniadau ar gyfer dwy ran o dair o fenywod sy'n rhan o adolygiad i wasanaethau mamolaeth bwrdd iechyd fod wedi bod yn wahanol pe byddent wedi derbyn gofal gwell.

    Mae adroddiad gan Banel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol yn canolbwyntio ar brofiadau menywod beichiog oedd dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg rhwng Ionawr 2016 a Medi 2018.

    Roedd y mwyafrif yn derbyn gofal dwys mewn dau ysbyty oedd yn cael eu rhedeg gan y bwrdd iechyd - Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

    Mae'r methiannau sydd yn cael eu nodi yn yr adolygiad yn atgyfnerthu casgliadau adroddiad blaenorol gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg Brenhinol yr Obstetregwyr a'r Gynaecolegwyr.

    Bydd dau adolygiad pellach o farw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedig yn dilyn yn ddiweddarach eleni.

    Daeth y panel i'r casgliad fod 19 adolygiad o ofal mamau (68%) wedi datgelu o leiaf un ffactor lle "byddai disgwyl rhesymol i reolaeth wahanol newid y canlyniad".

    Babi
  12. Y diweddaraf am y cynllun brechu

    Nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau Covid-19.

    Dywed fod bron i 440,000 o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf wedi cael eu dosau cyntaf o frechlynnau Covid-19 yng Nghymru hyd yn hyn.

    Y nod yw sicrhau bod ychydig llai na 750,000 o bobl - gan gynnwys gweithwyr iechyd a phobl dros 70 oed - yn cael dos cyntaf erbyn canol mis Chwefror.

    Ar ôl beirniadaeth am ddechrau arafach, mae Cymru bellach yn brechu mwy o bobl fesul poblogaeth na chenhedloedd eraill y DU.

    Brechlyn
  13. Galw am ymestyn y dyddiad cau i ddinasyddion yr UE wneud cais i aros yn y DU

    Mae'r prif weinidog yn galw am ymestyn y dyddiad cau i ddinasyddion yr UE wneud cais i aros yn y DU ar ôl Brexit.

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mehefin 2021, chwe mis ar ôl diwedd y cyfnod trosglwyddo Brexit.

    Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud fod £17m wedi'i wario ar gefnogaeth a'i bod yn annog unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais.

    Gwnaeth mwy na 74,000 o bobl yng Nghymru gais am y cynllun erbyn diwedd mis Tachwedd, er i geisiadau ostwng i tua 2,000 y mis rhwng Ebrill ac Awst yng nghanol ton gyntaf y pandemig coronafeirws.

  14. 'Cywilyddus' bod y DU yn tynnu’n ôl o raglen Erasmus yr UE

    Dywed y prif weinidog ei bod yn “gywilyddus” bod y DU yn tynnu’n ôl o raglen Erasmus yr UE.

    Mae'r cynllun, sy'n cynnig cyfleoedd i astudio dramor, yn dod i ben yn y DU oherwydd Brexit, gyda rhaglen newydd a rhatach i'w chynnig.

    Roedd llywodraethau’r Alban a Chymru eisiau parhau i gymryd rhan lawn yn Erasmus ar ôl Brexit.

    Fodd bynnag, dywedodd Gweinidog Addysg Uwch y DU, Richard Lochhead, fod llywodraeth y DU wedi diystyru hynny.

    Dywed Mark Drakeford y bydd yn parhau i archwilio'r posibiliadau.

    Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson wedi sicrhau ASau nad oedd Brexit yn fygythiad i gynllun Erasmus +, ond penderfynodd llywodraeth y DU yn ddiweddarach fod y rhaglen yn rhy ddrud ac wedi tynnu’n ôl.

    Mae wedi cynnig dewis arall mwy cyfyngedig ond byd-eang o'r enw Cynllun Turing, a enwyd ar ôl y mathemategydd a'r gwyddonydd cyfrifiadurol arloesol Alan Turing, gan ddadlau ei fod yn cynnig gwell gwerth am arian.

    Erasmus
  15. Galw am rewi treth gyngor

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn galw am rewi treth gyngor yng Nghymru, yn debyg i'r hyn a gynigiwyd gan Lywodraeth yr Alban.

    Dywed y prif weinidog ei fod yn gweld "atyniad" y cynnig, ond mae'n cyfeirio at gost o £100m. Mae hefyd yn cyfeirio at y cynllun buddion treth gyngor.

    Mae'r ddau arweinydd yn cytuno bod angen diwygio'r system dreth gyngor.

    Treth gyngor
    Image caption: Cynnydd cyfartalog y dreth gyngor y llynedd oedd 4.8%
  16. 'Gall y sylfeini symud ar unrhyw foment'

    Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol Andrew RT Davies yn holi am "gyflwr y pandemig".

    Cyfeiriodd y prif weinidog at y cyfyngiadau Lefel 4 gan ddweud "rydyn ni'n gweld y budd ers troad y flwyddyn".

    Mae'n rhybuddio, fodd bynnag, "y gall y sylfeini symud ar unrhyw foment", gan nodi amrywiad De Affrica fel enghraifft.

    Coronafeirws
  17. Croeso i Senedd Fyw

    Mae'r cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.

    Mae modd gwylio'r cyfarfod drwy glicio ar y saeth ar frig y dudalen.