a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni am heddiw - bydd y cyfarfod llawn nesaf ddydd Mawrth

    Tan hynny, diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogel.

    Nos da.

  2. Amseroedd aros y GIG: pasio cynnig diwygiedig

    Mae'r cynnig gan y Ceidwadwyr ar amseroedd aros y GIG yn cael ei ddiwygio gan Lywodraeth Cymru, ac yna'n cael ei basio gan ASau.

  3. 'Angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r gwasanaethau iechyd'

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn ceisio dileu popeth ar ôl pwynt 1 yng nghynnig y Ceidwadwyr a rhoi yn ei le:

    Yn cydnabod:

    a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu;

    b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;

    c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a

    d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl.

  4. 'Angen integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor'

    Mae gwelliant Plaid Cymru yn ceisio ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd cynnig y Ceidwadwyr:

    Yn credu mai'r unig ffordd o drawsnewid iechyd a gofal yw drwy:

    a) ffocws newydd ar fesurau ataliol; a

    b) integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor drwy wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol integredig newydd.

  5. Gŵr AS wedi treulio pum wythnos yn yr ysbyty 'yn ddifrifol wael â'r coronafeirws'

    Os derbynnir gwelliant Llywodraeth Cymru, fel y disgwylir, caiff gwelliant Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) ei ddad-ddethol.

    Mae'n datgelu bod ei gŵr wedi treulio pum wythnos yn yr ysbyty "yn ddifrifol wael â'r coronafeirws", ond wedi gwella erbyn hyn.

    Mae hi eisiau dileu popeth ar ôl pwynt 2 yng nghynnig y Ceidwadwyr a rhoi yn ei le:

    Yn gresynu at y ffaith bod mwy na 23,000 o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU wedi methu â chael lleoedd hyfforddi nyrsys y llynedd ac y gwrthodwyd lle i fwy na 54 y cant o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU i gyrsiau nyrsio ers 2010.

    Yn credu bod GIG Cymru wedi cael ei ddal yn ôl gan lywodraethau'r DU a Chymru oherwydd diffyg llwyr o gynllunio gweithlu dros sawl degawd.

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) gweithio gyda darparwyr addysg uwch y DU i ddarparu mwy o leoedd hyfforddiant meddygol i fyfyrwyr sy'n hanu o'r DU;

    b) gweithio gyda'r colegau brenhinol a chyrff proffesiynol i asesu gwir anghenion staffio GIG Cymru;

    c) recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau enfawr o ran amseroedd aros am driniaeth yn ogystal ag amseroedd aros am ddiagnosis;

    d) sicrhau na fydd unrhyw un yn aros mwy na 12 mis am driniaeth; ac

    e) trawsnewid iechyd meddwl drwy sicrhau ei fod yn cael ei drin yn gyfartal ag iechyd

    Caroline Jones
  6. 'Datganoli wedi dal y ddarpariaeth o ofal iechyd a'i chanlyniadau yn ôl yng Nghymru'

    Os derbynnir gwelliant Llywodraeth Cymru, fel y disgwylir, caiff gwelliant Mark Reckless (Dwyrain De Cymru) ei ddad-ddethol.

    Me e eisiau dileu popeth ar ôl pwynt 2 yng nghynnig y Ceidwadwyr a rhoi yn ei le:

    Yn credu bod datganoli wedi dal y ddarpariaeth o ofal iechyd a'i chanlyniadau yn ôl yng Nghymru.

    Yn galw am ddull integredig DU-gyfan o ymdrin â gofal iechyd gydag un Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

    Mark Reckless
    Image caption: Mark Reckless
  7. 'Llywodraeth Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl'

    Y pwnc a ddewiswyd gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer eu dadl yw "Amseroedd Aros y GIG".

    Maen nhw'n cynnig bod y Senedd:

    1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.

    2. Yn cydnabod bod 5 o bob 7 bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig neu wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu dros y pum mlynedd diwethaf.

    3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn:

    a) clirio'r ôl-groniad o driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth;

    b) recriwtio o leiaf 1,200 o feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; ac

    c) trawsnewid iechyd meddwl drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.

    Mae'r GIG yn ceisio cynnal mwy o driniaethau nad ydynt yn rhai brys
    Image caption: Mae'r GIG yn ceisio cynnal mwy o driniaethau nad ydynt yn rhai brys
  8. Ymddiheuro nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r ddeiseb

    Mae Eluned Morgan - Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg - yn ymddiheuro am y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r ddeiseb ac yn dweud y bydd yn sicrhau bod hynny'n digwydd "o fewn wythnos".

    Eluned Morgan
  9. 'Mae’r cyfyngiadau symud wedi gwaethygu iechyd meddwl pobl'

    Nesaf, gofynnir i aelodau "nodi’r" ddeiseb "P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!"

    Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Laura Williams, ar ôl casglu cyfanswm o 5,159 lofnodion.

    Geiriad y ddeiseb:

    "Ers i COVID-19 a’r cyfyngiadau symud ddod i’r amlwg, mae pobl wedi bod yn gaeth i’w haelwydydd fis ar ôl mis ac roedd llawer o'r bobl hynny’n dioddef cyn y cyfyngiadau symud, a thra’r oeddent ar waith. Roeddwn i’n rhywun a ddioddefodd yn sgil y cyfyngiadau symud ac rwy’n pryderu am nifer yr achosion o hunanladdiad yn fy ardal cyn y cyfyngiadau symud, a thra’r oeddent ar waith. Mae’r cyfyngiadau symud wedi gwaethygu iechyd meddwl pobl ac wedi gosod gwasanaethau iechyd meddwl o dan gryn straen – mae plant ifanc yn dioddef, ac mae oedolion a’r henoed yn dioddef hefyd o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud.

    "Dylai Senedd Cymru fod yn cymryd camau ynghylch iechyd meddwl ac yn ariannu mwy o wasanaethau, mae pobl yn disgwyl am amser hir cyn gweld rhywun, neu cyn iddyn nhw gael help. Nid yw llawer o feddygon a nyrsys lleol wedi'u hyfforddi ym maes iechyd meddwl.

    "Cynyddodd canran y bobl wnaeth roi gwybod eu bod yn dioddef problemau iechyd meddwl o 23.3% yn 2017-2019 i 36.8% ym mis Ebrill 2020 (astudiaeth hydredol o aelwydydd y DU). Os nad yw hynny’n ei gwneud yn gwbl glir sut mae’r cyfyngiadau symud yn newid i’r eithaf y modd rydym yn byw ein bywydau ac yn ymladd y brwydrau sy’n ein wynebu’n ddyddiol, wn i ddim beth fydd yn gwneud."

    Gwybodaeth Ychwanegol

    "Fy enw i yw Laura ac rwy'n dioddef nifer o faterion iechyd meddwl, sef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Anhwylder Obsesiynol Cymhellol (OCD), iselder ysbryd, gorbryder ac anhwylder panig. Creais ddeiseb a oedd hefyd yn nodi’r ffaith bod iechyd meddwl mewn cyfyngder mawr, ac mae gofyn cael cymorth ychwanegol ar ei gyfer. Llwyddodd y ddeiseb ac ers fy neiseb ddiwethaf, penderfynais mai'r ffordd orau i wireddu newid oedd dechrau gyda fi fy hun. O ganlyniad, gorffennais fy therapi PTSD yn llwyddiannus."

    Janet Finch-Saunders yw Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau
    Image caption: Janet Finch-Saunders yw Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau
  10. 'Croesawu'r adroddiad yn gynnes'

    Mae Ken Skates - Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru - yn dweud "rwy'n croesawu'r adroddiad yn gynnes" ond nid yw'n gallu ymateb i'r argymhellion heddiw.

    Mae'n amlinellu'r Genhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu’r economi - "Sut ydym yn cynllunio adferiad yn dilyn difrod economaidd y pandemig coronafeirws."

  11. 'Bydd ail-greu yn broses hir'

    Nesaf, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o COVID-19.

    Mae cadeirydd y pwyllgor Russell George (Sir Drefaldwyn) yn cyflwyno'r adroddiad,

    Dywed, "Er bod rhywfaint o’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y presennol, mae’r mwyafrif ohono’n edrych tuag at y dyfodol. Bydd ail-greu yn broses hir ac er mwyn iddi fod yn llwyddiant bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru, ac o bosibl y rhai ar ôl hynny, roi sylw i’r argymhellion yn yr adroddiad hwn."

    Ceir 53 argymhelliad.

  12. Diabetes Math 2 - ASau yn cymeradwyo cynnig

    Dywed Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig ac mae hi’n cyhoeddi £6.5m ychwanegol i gefnogi cynlluniau i atal diabetes a gordewdra yng Nghymru.

    Daw manylion y cyllid hwn cyn i’r Cynllun Cyflawni diwygiedig ar gyfer Pwysau Iach: Cymru Iach 2021-22 gael ei gyhoeddi ar 18 Mawrth, yng ngoleuni effaith pandemig y coronafeirws.

    Mae'r cynnig yn cael ei basio gan ASau heb wrthwynebiad.

  13. Beth yw diabetes math 2?

    • Mae'n gyflwr cyffredin sy'n achosi i lefel y siwgr (glwcos) yn y gwaed fynd yn rhy uchel
    • Mae'n cael ei achosi gan broblemau gyda chemegyn yn y corff (hormon) o'r enw inswlin
    • Gall symptomau diabetes math 2 gynnwys syched gormodol, angen troethi llawer a blinder
    • Gall gynyddu'r risg o gael problemau difrifol gyda'r llygaid, y galon a'r nerfau
    • Mae rhai achosion yn gysylltiedig â bod dros bwysau

    Mae diabetes math 1 yn glefyd hunanimiwn nad yw'n gysylltiedig â bod dros bwysau.

    prawf
  14. 'Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop'

    Pwnc y Ddadl Aelodau yw Diabetes Math 2.

    Mae Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) yn cynnig bod y Senedd:

    1. Yn nodi:

    a) mai Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae dros 200,000 wedi cael diagnosis, lle yr amgcangyfrifir bod 65,000 gyda math 2 heb ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes;

    b) bod gofalu am bobl â diabetes eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG;

    c) y risgiau cynyddol o ddal COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a

    d) llwyddiant a chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl gwobr, a dreialwyd yng Nghwm Afan.

    2. Yn annog Llywodraeth Cymru i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o gynllun atal diabetes i Gymru.

    Bu cynnydd mewn diabetes math 1 a math 2 yng Nghymru
    Image caption: Bu cynnydd mewn diabetes math 1 a math 2 yng Nghymru
  15. Dileu’r prawf modd ar addasiadau bach a chanolig y Grant Cyfleusterau i’r Anabl

    "O Ebrill 2021 bydd yn haws i bobl anabl gael cymorth gydag addasiadau bach a chanolig eu maint i’w cartrefi wrth i ni gymryd camau i ddileu’r prawf modd ar Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl", medd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

    GCA yw prif ffynhonnell cymorth i bobl anabl yn y mwyafrif o aelwydydd yng Nghymru sy’n berchen-feddianwyr neu sy’n rhentu yn y sector preifat. Dyma’r brif ffordd y maent yn cael cymorth gyda’r mathau mwyaf cyffredin o addasiadau, megis lifft risiau, rampiau, a chyfleusterau toiled ac ymolchi llawr gwaelod.

    Mae ymchwil annibynnol yn cyfrifo y bydd yn golygu cost ychwanegol ar lywodraeth leol yng Nghymru o £238,000, ac mae’n amcangyfrif y byddai pob awdurdod lleol yn arbed £6,000-£10,000 bob blwyddyn mewn costau gweinyddol. Cyhoeddwyd yr ymchwil hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar eu gwefan heddiw.

    DFG
  16. 'Methu â chyflawni' ymrwymiad i gyflwyno Deddf Aer Glân

    Dywed y Ceidwadwr Janet Finch-Saunders fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi “methu â chyflawni” ymrwymiad i gyflwyno Deddf Aer Glân yng Nghymru.

    Mae gweinidog yr amgylchedd, Lesley Griffiths, yn ateb "Byddwn i wedi hoffi'n fawr pe bawn i wedi gwneud hynny", ond dywed bod "pwysau deddfwriaethol" oherwydd Covid-19 a Brexit wedi golygu nad ydyn nhw wedi gallu gwneud.

    O dan y Bil Aer Glân arfaethedig yng Nghymru, byddai gweinidogion yn gosod targedau ansawdd aer newydd a gofyniad am adolygiad o gynlluniau i fynd i’r afael â llygredd aer bob pum mlynedd.

    Fodd bynnag, nid oes amser i'w basio i gyfraith tan ar ôl etholiadau'r Senedd sydd i'w cynnal ym mis Mai, a byddai'n 2023 cyn i unrhyw fesurau gwahardd glo gael eu cyflwyno.

    Byddai llosgi coed heb ei drin yn cael ei gyfyngu a glo tŷ yn cael ei wahardd o dan y cynigion
    Image caption: Byddai llosgi coed heb ei drin yn cael ei gyfyngu a glo tŷ yn cael ei wahardd o dan y cynigion
  17. 'Datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn arafu o dan y llywodraeth Lafur'

    Dywed Llyr Gruffydd o Blaid Cymru fod “datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn arafu o dan y llywodraeth Lafur”, ac yn beirniadu torri cefnogaeth i’r sector pŵer dŵr fel enghraifft.

    Mae Lesley Griffiths yn ateb bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud "llawer iawn o waith i gefnogi gosod cynlluniau adnewyddadwy".

    Mae cynlluniau hydro fel hyn yn dargyfeirio ychydig bach o ddŵr o afon i mewn i bibell hir, trwy'r tyrbin, ac yna'n ôl i'r cwrs dŵr
    Image caption: Mae cynlluniau hydro fel hyn yn dargyfeirio ychydig bach o ddŵr o afon i mewn i bibell hir, trwy'r tyrbin, ac yna'n ôl i'r cwrs dŵr
  18. Mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Jayne Bryant, sy'n gofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Ngorllewin Casnewydd.

    Mae'r gweinidog Lesley Griffiths yn cynnal ymgynghoriad ar y Cynllun atal sbwriel a thipio anghyfreithlon i Gymru - mae'r ymgynghoriad arno yn cau 22 Ebrill 2021.

    Nod y cynllun yw:

    • "Lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd,
    • "lleddfu’r pwysau ariannol ar drethdalwyr,
    • "ennyn ymdeimlad o falchder lle ymhlith cymunedau
    • "helpu i gyflawni ein nod o sefydlu economi gylchol yng Nghymru."

    Mae Jayne Bryant yn cyfeirio at ymchwiliad BBC Panorama i waredu gwastraff yn anghyfreithlon ar gyrion Casnewydd fel rhan o raglen a ddarlledwyd ar BBC One ar 1 Mawrth yn archwilio maint y broblem ledled y DU.

    Ymwelodd y cyflwynydd Richard Bilton â ffordd ddeuol segur, a elwir yn lleol fel "y ffordd i unman", sydd wedi dod yn domen anghyfreithlon wedi'i pentyrru'n uchel gyda sbwriel, teiars a gwastraff adeiladu.

    Mae tipwyr anghyfreithlon yn cael eu dal yn mynd â sbwriel i gae lle caiff ei ffilmio wedyn yn cael ei losgi.

    Dywed Richard Bilton wrth y gwylwyr yr amcangyfrifir bod 4,000 tunnell o sbwriel wedi'i ddympio yn y cae.

    Mae sbwriel wedi bod yn casglu ar y ffordd segur y tu allan i Gasnewydd ers sawl blwyddyn
    Image caption: Mae sbwriel wedi bod yn casglu ar y ffordd segur y tu allan i Gasnewydd ers sawl blwyddyn
    Cofnododd BBC Panorama wastraff yn cael ei ddympio a'i losgi yng Nghasnewydd
    Image caption: Cofnododd BBC Panorama wastraff yn cael ei ddympio a'i losgi yng Nghasnewydd
  19. Croeso i Senedd Fyw

    Prynhawn da, mae'r cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

    Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.

    Mae modd gwylio'r cyfarfod drwy glicio ar y saeth ar frig y dudalen.