A dyna ni am heddiw - bydd y cyfarfod llawn nesaf yfory.
Tan hynny, diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogel.
Nos da.
Sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig
Mae ASau yn cymeradwyo sefydlu pedwar pwyllgor rhanbarthol - gogledd Cymru, canolbarth Cymru, de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Cymru - i gydlynu prosiectau trafnidiaeth, cynllunio a datblygu economaidd mawr.
Roedd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cael y pwyllgorau ar waith erbyn Medi 2021.
Mae’r Rheoliadau yn pennu’r swyddogaethau a ganlyn:
(1) y swyddogaeth llesiant economaidd
(2) datblygu polisïau trafnidiaeth a llunio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth sy'n ymwneud â faint o amser y mae'n
ofynnol i rai dogfennau awdurdodau lleol fod yn hygyrch yn electronig o dan Reoliadau
Cyfarfodydd Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) 2020 (Cymru) 2020.
Bil Gwasanaethau Ariannol
Mae ASau yn cytuno "y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwasanaethau Ariannol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd."
Diben y Bil, a noddir gan Drysorlys Ei Mawrhydi, yw "gwneud darpariaeth
ynghylch gwasanaethau a marchnadoedd ariannol; cynlluniau seibiant dyledion;
cyfrifon cymorth i gynilo; ac at ddibenion cysylltiedig."
Yr amcan polisi y mae
Llywodraeth y DU wedi’i ddatgan yw "sicrhau bod fframwaith rheoleiddiol y DU yn
parhau i weithredu'n effeithiol ar gyfer y DU ar ôl ymadael â’r UE, ac mae'n ystyried
bod y Bil yn gam cyntaf pwysig tuag at gymryd cyfrifoldeb am reoleiddio
gwasanaethau ariannol, a sicrhau bod y DU yn cynnal y safonau rheoleiddio uchaf
ac yn parhau i fod yn ganolfan ariannol fyd-eang agored a deinamig."
Bil Cam-drin Domestig Llywodraeth y DU
Mae ASau yn cytuno "y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cam-drin Domestig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd."
Mae’r nodiadau esboniadol i’r Bil yn nodi:
“Diben y Bil yw codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o gamdrin domestig a’i effaith ar ddioddefwyr, gwella effeithiolrwydd y
system gyfiawnder ymhellach o ran diogelu dioddefwyr camdriniaeth
ddomestig a dod â throseddwyr gerbron y llysoedd, a chryfhau’r
cymorth i ddioddefwyr camdriniaeth a’u plant a ddarperir gan
asiantaethau statudol eraill.”
Dywed Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, bod llofruddiaeth Sarah Everard wedi aildanio sgwrs genedlaethol am ddiogelwch menywod,
"Rhaid i Fil Cam-drin Domestig Llywodraeth y DU wneud y cyfraniad cryfaf posibl i ddiogelu menywod," meddai.
Rhaid i allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 fod 100 y cant yn is na’r waelodlin
Effaith y diwygiad yw bod isafswm y ganran y mae rhaid i gyfrif allyriadau net Cymru ar
gyfer y flwyddyn 2050 fod yn is na’r waelodlin wedi ei gynyddu o 80 y cant i 100 y cant.
Mae ASau hefyd yn cymeradwyo Rheoliadau sy'n diwygio Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau
Interim) (Cymru) 2018 trwy gynyddu'r targedau interim ar gyfer 2030 a 2040 o “45%” i “63%”
ac o “67%” i “89%”, yn y drefn honno.
BBCCopyright: BBC
'Personau diwladwriaeth yn gymwys i gael dyraniad o lety tai'
Mae’n "rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth
fewnfudo, sef personau diwladwriaeth, sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf
1996."
Pedwar pwyllgor rhanbarthol?
Mae ASau nawr yn troi at y syniad o bwyllgorau rhanbarthol sy'n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru ar ôl i gynlluniau dadleuol i uno cynghorau gael eu gollwng.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y 22 awdurdod lleol yn rhy fach i fod yn effeithiol ac effeithlon, ond cefnodd ar y syniad o uno yn 2018 yn wyneb gwrthwynebiad chwyrn gan gynghorau.
Yn lle, y cynnig yw y dylid sefydlu pedwar pwyllgor rhanbarthol - gogledd Cymru, canolbarth Cymru, de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Cymru - i gydlynu prosiectau trafnidiaeth, cynllunio a datblygu economaidd mawr.
Ar hyn o bryd, nid yw'r swyddogaethau a roddwyd i'r Cyngor yn caniatáu iddo atal Person
Cofrestredig rhag gweitho hyd nes y ceir canlyniad ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu.
Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at swyddogaethau'r Cyngor fel y gall y Cyngor, drwy
Orchymyn Atal Dros Dro Interim, ddileu enw Person Cofrestredig oddi ar y gofrestr
gyhoeddus cyn y ceir canlyniad ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu.
'Buddsoddiad hirdymor i ysgolion a cholegau'
Nawr, ceir datganiad gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: "Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif".
"Buddsoddiad hirdymor i ysgolion a cholegau ddatblygu fel canolfannau dysgu a lleihau nifer yr adeiladau sydd mewn cyflwr gwael" yw'r nod.
Cynigiwyd y rhaglen gyntaf yn 2009, ac ariennir y rhaglen 50% gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio cyfuniad o gyllid cyfalaf a refeniw, gyda'r 50% sy'n weddill yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol ac eraill.
Dywed Kirsty Williams fod £1.5bn wedi'i wario yn ystod y rhaglen a bod nifer o brosiectau wedi'u cyflawni yn gynt na'r disgwyl.
PA MediaCopyright: PA Media
Treth yn 'ddatrysiad tymor hwy'
Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod 'datrysiad treth' ar gyfer codi arian ar gyfer gofal cymdeithasol yn 'ddatrysiad tymor hwy posib' ond nid yn un ar gyfer y dyfodol agos.
Dywed y Ceidwadwr Angela Burns 'na fyddech chi'n gwybod bod etholiad ar y gorwel' gan fod hon yn ffordd o 'gicio'r polisi i'r glaswellt hir'.
Daeth arolwg i'r casgliad mai dim ond chwarter o bobl (27%) oedd yn teimlo eu bod yn gwybod llawer am y system gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yr angen cynyddol - a'r gost gynyddol - sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol
Nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol".
Cafodd y Grŵp ei sefydlu "yn benodol i edrych ar ddichonoldeb cyflwyno ardoll, neu opsiwn arall, i godi cyllid ychwanegol yn y tymor canolig i'r tymor hir i helpu i fodloni'r galw cynyddol, gan ddefnyddio syniad yr Athro Gerry Holtham ar gyfer ardoll, fel sylfaen."
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Angela Burns, yn ailadrodd ei phryderon ynghylch anhawster aildrefnu apwyntiadau brechlyn, gan ofni y gallai hyn wastraffu dosau yn enwedig wrth gyflwyno'r brechlyn i'r boblogaeth oedran gweithio.
Atebodd y gweinidog iechyd ei fod yn 'ymdrech anghyffredin' wrth redeg y rhaglen apwyntiadau - roedd yn bersonol yn ei chael hi'n anodd archebu un ar gyfer perthynas dros y ffôn, a'r allwedd oedd 'dyfalbarhad' meddai.
Dywed Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru y dylid cael strategaeth ar gyfer defnyddio dosau dros ben pan nad yw pobl yn dod i apwyntiadau.
Mae gan Gymru 'gyfraddau gwastraff isel iawn' atebodd Mr Gething.
BBCCopyright: BBC
'Gwneud cynnydd da' tuag at garreg filltir canol mis Ebrill
Dywed Vaughan Gething eu bod yn 'gwneud cynnydd da' tuag at garreg filltir canol mis Ebrill o roi brechlyn cyntaf i'r rhai yn y naw grŵp blaenoriaeth.
Derbyniodd yntau ei ddos gyntaf ddydd Sul ac mae'n annog eraill i wneud yr un peth, oherwydd 'rydym yn hyderus yn ein brechlynnau'.
BBCCopyright: BBC
Vaughan Gething yn derbyn brechlyn COVID-19Image caption: Vaughan Gething yn derbyn brechlyn COVID-19
Y diweddaraf am y cynllun brechu
Nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething: Y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau Covid-19.
Dywed Mr Gething 'rydym yn cynnal y gyfradd frechu orau yn y DU'.
Dywed bod bron i chwarter yr holl bobl dros 70 oed yng Nghymru wedi cael y brechlyn Covid-19 llawn.
Hyd yn hyn, mae 36.1% o boblogaeth Cymru wedi cael dos cyntaf ac mae 8.7% wedi cael brechiad llawn.
Mae'n golygu bod cyfanswm o 1,139,866 o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf tra bod 272,983 wedi cael yr ail ddos - y cwrs brechu llawn.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Y cyfarfod trwy gynhadledd fideo
BBCCopyright: BBC
'Ymchwiliad Covid ledled y DU yn fwy effeithiol'
Mae Andrew RT Davies yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i Covid yng Nghymru yn unig, ar wahân i lywodraethau eraill y DU.
Mae'r prif weinidog yn gwrthod hynny, gan ddweud y byddai ymchwiliad ledled y DU yn fwy effeithiol.
Ni fyddai ymchwiliad sy'n benodol i Gymru 'yn gallu mynd i'r afael â'r rhestr hir o hanfodion', meddai, fel achosion wedi teithio tramor, penderfyniadau Cobra, a chyflenwad ar gyfer y rhaglen frechu.
BBCCopyright: BBC
'Mae brechlyn Rhydychen yn ddiogel'
Mae arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn i’r prif weinidog a oedd ganddo neges i arweinwyr Ewropeaidd sydd wedi atal cyflwyno’r brechlyn Covid Rhydychen-AstraZeneca yn eu gwledydd, ar ôl adroddiadau o geuladau gwaed mewn rhai derbynwyr.
Dywed Mr Drakeford fod ei neges i bobl Cymru: 'mae brechlyn Rhydychen yn ddiogel' ac nid yw'r pryderon yn cael eu rhannu gan y prif swyddog meddygol a chyrff meddygol ac iechyd cyhoeddus rhyngwladol allweddol.
BBCCopyright: BBC
'Methiant clir' i gynllunio'n iawn ar gyfer pandemig
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn nodi pen-blwydd y farwolaeth gyntaf a gofnodwyd yng Nghymru o Covid.
Dywed bod 'methiant clir' i gynllunio'n iawn ar gyfer pandemig a 'methiant i gloi i lawr yn ddigon buan' gan arwain at roi'r gorau i brofi ac olrhain ar y cychwyn.
Mae Mr Drakeford yn cytuno bod gormod o ffocws ar ffliw mewn cynllunio pandemig ond 'mae'n rhy gynnar i siarad am gamgymeriadau', meddai.
Mae'n ailadrodd ei awydd am ymchwiliad ledled y DU ac ar adeg pan ellid arbed adnoddau rhag gweithio ar y pandemig.
BBCCopyright: BBC
Morlyn llanw ym Mae Abertawe?
Daw'r cwestiwn cyntaf gan AS Plaid Cymru Dr Dai Lloyd ar rôl Llywodraeth Cymru yn natblygiad posibl morlyn llanw Bae Abertawe.
Cafodd y prosiect ei roi o'r neilltu ym mis Mehefin 2020, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU a chyngor Abertawe fod y caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun £1.3bn y datblygwyr Tidal Power PLC wedi dod i ben.
Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu degau o filoedd o bunnoedd at ddatblygu'r cynllun, ond mae angen i Lywodraeth y DU 'ddod at y bwrdd' i'w wneud yn 'opsiwn hyfyw'.
Dywedodd ei fod wedi cynnig partneriaeth ryng-lywodraethol gyda Llywodraeth y DU a Chyngor Dinas Abertawe ac mae disgwyl iddo gael cyfarfod ag Ysgrifennydd Cymru yr wythnos nesaf.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl fawr
A dyna ni am heddiw - bydd y cyfarfod llawn nesaf yfory.
Tan hynny, diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogel.
Nos da.
Sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig
Mae ASau yn cymeradwyo sefydlu pedwar pwyllgor rhanbarthol - gogledd Cymru, canolbarth Cymru, de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Cymru - i gydlynu prosiectau trafnidiaeth, cynllunio a datblygu economaidd mawr.
Roedd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cael y pwyllgorau ar waith erbyn Medi 2021.
Mae’r Rheoliadau yn pennu’r swyddogaethau a ganlyn:
(1) y swyddogaeth llesiant economaidd
(2) datblygu polisïau trafnidiaeth a llunio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a
(3) llunio cynlluniau datblygu strategol.
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
Mae ASau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021.
Roedd 46 o blaid, dau yn ymatal ac un yn erbyn.
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth sy'n ymwneud â faint o amser y mae'n ofynnol i rai dogfennau awdurdodau lleol fod yn hygyrch yn electronig o dan Reoliadau Cyfarfodydd Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) 2020 (Cymru) 2020.
Bil Gwasanaethau Ariannol
Mae ASau yn cytuno "y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gwasanaethau Ariannol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd."
Diben y Bil, a noddir gan Drysorlys Ei Mawrhydi, yw "gwneud darpariaeth ynghylch gwasanaethau a marchnadoedd ariannol; cynlluniau seibiant dyledion; cyfrifon cymorth i gynilo; ac at ddibenion cysylltiedig."
Yr amcan polisi y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddatgan yw "sicrhau bod fframwaith rheoleiddiol y DU yn parhau i weithredu'n effeithiol ar gyfer y DU ar ôl ymadael â’r UE, ac mae'n ystyried bod y Bil yn gam cyntaf pwysig tuag at gymryd cyfrifoldeb am reoleiddio gwasanaethau ariannol, a sicrhau bod y DU yn cynnal y safonau rheoleiddio uchaf ac yn parhau i fod yn ganolfan ariannol fyd-eang agored a deinamig."
Bil Cam-drin Domestig Llywodraeth y DU
Mae ASau yn cytuno "y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cam-drin Domestig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd."
Mae’r nodiadau esboniadol i’r Bil yn nodi: “Diben y Bil yw codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o gamdrin domestig a’i effaith ar ddioddefwyr, gwella effeithiolrwydd y system gyfiawnder ymhellach o ran diogelu dioddefwyr camdriniaeth ddomestig a dod â throseddwyr gerbron y llysoedd, a chryfhau’r cymorth i ddioddefwyr camdriniaeth a’u plant a ddarperir gan asiantaethau statudol eraill.”
Dywed Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, bod llofruddiaeth Sarah Everard wedi aildanio sgwrs genedlaethol am ddiogelwch menywod,
"Rhaid i Fil Cam-drin Domestig Llywodraeth y DU wneud y cyfraniad cryfaf posibl i ddiogelu menywod," meddai.
Rhaid i allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 fod 100 y cant yn is na’r waelodlin
Mae ASau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021.
Effaith y diwygiad yw bod isafswm y ganran y mae rhaid i gyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 fod yn is na’r waelodlin wedi ei gynyddu o 80 y cant i 100 y cant.
Mae ASau hefyd yn cymeradwyo Rheoliadau sy'n diwygio Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018 trwy gynyddu'r targedau interim ar gyfer 2030 a 2040 o “45%” i “63%” ac o “67%” i “89%”, yn y drefn honno.
'Personau diwladwriaeth yn gymwys i gael dyraniad o lety tai'
Mae ASau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2021.
Mae’n "rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sef personau diwladwriaeth, sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996."
Pedwar pwyllgor rhanbarthol?
Mae ASau nawr yn troi at y syniad o bwyllgorau rhanbarthol sy'n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru ar ôl i gynlluniau dadleuol i uno cynghorau gael eu gollwng.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y 22 awdurdod lleol yn rhy fach i fod yn effeithiol ac effeithlon, ond cefnodd ar y syniad o uno yn 2018 yn wyneb gwrthwynebiad chwyrn gan gynghorau.
Yn lle, y cynnig yw y dylid sefydlu pedwar pwyllgor rhanbarthol - gogledd Cymru, canolbarth Cymru, de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Cymru - i gydlynu prosiectau trafnidiaeth, cynllunio a datblygu economaidd mawr.
Cyngor y Gweithlu Addysg
Mae ASau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021.
Ar hyn o bryd, nid yw'r swyddogaethau a roddwyd i'r Cyngor yn caniatáu iddo atal Person Cofrestredig rhag gweitho hyd nes y ceir canlyniad ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu. Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at swyddogaethau'r Cyngor fel y gall y Cyngor, drwy Orchymyn Atal Dros Dro Interim, ddileu enw Person Cofrestredig oddi ar y gofrestr gyhoeddus cyn y ceir canlyniad ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu.
'Buddsoddiad hirdymor i ysgolion a cholegau'
Nawr, ceir datganiad gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: "Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif".
"Buddsoddiad hirdymor i ysgolion a cholegau ddatblygu fel canolfannau dysgu a lleihau nifer yr adeiladau sydd mewn cyflwr gwael" yw'r nod.
Cynigiwyd y rhaglen gyntaf yn 2009, ac ariennir y rhaglen 50% gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio cyfuniad o gyllid cyfalaf a refeniw, gyda'r 50% sy'n weddill yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol ac eraill.
Dywed Kirsty Williams fod £1.5bn wedi'i wario yn ystod y rhaglen a bod nifer o brosiectau wedi'u cyflawni yn gynt na'r disgwyl.
Treth yn 'ddatrysiad tymor hwy'
Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod 'datrysiad treth' ar gyfer codi arian ar gyfer gofal cymdeithasol yn 'ddatrysiad tymor hwy posib' ond nid yn un ar gyfer y dyfodol agos.
Dywed y Ceidwadwr Angela Burns 'na fyddech chi'n gwybod bod etholiad ar y gorwel' gan fod hon yn ffordd o 'gicio'r polisi i'r glaswellt hir'.
Daeth arolwg i'r casgliad mai dim ond chwarter o bobl (27%) oedd yn teimlo eu bod yn gwybod llawer am y system gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yr angen cynyddol - a'r gost gynyddol - sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol
Nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol".
Cafodd y Grŵp ei sefydlu "yn benodol i edrych ar ddichonoldeb cyflwyno ardoll, neu opsiwn arall, i godi cyllid ychwanegol yn y tymor canolig i'r tymor hir i helpu i fodloni'r galw cynyddol, gan ddefnyddio syniad yr Athro Gerry Holtham ar gyfer ardoll, fel sylfaen."
Anhawster aildrefnu apwyntiadau brechlyn