a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Oni bai bod y Senedd yn cael ei galw yn ôl oherwydd pandemig Covid-19, mae hynny'n dod â thrafodion cyfarfod llawn olaf y Pumed Senedd i ben.

    Bydd Toriad y Pasg rhwng dydd Llun 29 Mawrth a dydd Mawrth 6 Ebrill, gyda'r cyfnod cyn diddymu rhwng dydd Mercher 7 Ebrill a dydd Mercher 28 Ebrill.

    Bydd y Senedd yn cael ei diddymu ar 29 Ebrill ar gyfer yr etholiad ar Fai 6.

    Dechreuodd y Pumed Cynulliad - fel y’i gelwid bryd hynny - gydag Aelodau'r Cynulliad yn methu dewis prif weinidog ar ôl yr etholiad pan enillodd Llafur 29 o’r 60 sedd.

    Mae'n bryd i'r pleidleiswyr ddweud eu dweud eto.

    pleidleisio
  2. Angen pleidlais fwrw'r cadeirydd ar gyfer pleidlais olaf y Pumed Senedd

    Gwrthodir cynnig y Ceidwadwyr ar "Ddyfodol Cymru".

    Mae'r cynnig gyda gwelliant Llywodraeth Cymru hefyd yn methu â phleidlais fwrw'r cadeirydd Elin Jones yn ei erbyn.

    Roedd 27 o blaid, neb yn ymatal a 28 yn erbyn.

  3. Cymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd.

    Mae ASau yn cymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd.

    Mae'n ceisio:

    • "darparu mwy o eglurder ar y safonau a ddisgwylir gan yr Aelodau; ac
    • "alinio'n well â'r Polisi Urddas a Pharch a fabwysiadwyd gan y Senedd ym mis Mai 2018."

    Ceir egwyddor ychwanegol sy’n canolbwyntio ar barch: "Ni chaiff Aelodau ymddwyn mewn modd sy'n lleihau cyfle cyfartal, rhaid iddynt barchu urddas pobl eraill a pheidio ag ymddwyn yn wahaniaethol neu mewn modd nas dymunir."

    Roedd 49 o blaid, neb yn ymatal a 5 yn erbyn.

  4. Beth yw grŵp gwleidyddol?

    Mae ASau yn cymeradwyo cynlluniau i newid rheolau'r Senedd ar ffurfio grwpiau plaid.

    Roedd 38 o blaid, neb yn ymatal ac 17 yn erbyn.

    Mae''r newid rheol a gynigiwyd gan Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, yn golygu at ddibenion y Ddeddf, grŵp gwleidyddol yw:

    (i) grŵp a chanddo o leiaf dri Aelod sy’n perthyn i’r un blaid wleidyddol gofrestredig a enillodd o leiaf un sedd yn etholiad blaenorol y Senedd; neu

    (ii) tri neu fwy o Aelodau, nad ydynt yn bodloni’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 1.3(i), sydd wedi hysbysu’r Llywydd eu bod yn dymuno cael eu trin fel grŵp gwleidyddol, ac wedi bodloni’r Llywydd bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys.

    Gwrthwynebodd y Torïaid, y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio, a Phlaid Diddymu'r Cynulliad y newidiadau.

    Mae gan grwpiau plaid fynediad at fwy o staff a mwy o statws.

    Ym mis Mai 2019, roedd Plaid Cymru, a rhai gwleidyddion Llafur, wedi dymuno i'r rheolau gael eu newid i atal grŵp Plaid Brexit rhag cael ei ffurfio.

    Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio yw'r pedwar grŵp sydd wedi'u sefydlu yn Senedd Cymru ar hyn o bryd.

  5. 'Y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru'

    Llywodraeth Cymru

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn ceisio dileu popeth yng nghynnig y Ceidwadwyr a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod y Senedd:

    1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru, yn wyneb heriau digynsail o ran llymder, Brexit, newid yn yr hinsawdd a Covid-19, wedi:

    a) Sefydlu Banc Datblygu Cymru, sicrhau dros 100,000 o brentisiaethau pob oed a darparu ryddhad ardrethi busnes heb ei ail, gan gynnwys dros £580m o ryddhad parhaol i fusnesau bach;

    b) Cyflwyno'r Gronfa Triniaethau Newydd, gan sicrhau bod triniaethau sydd newydd eu cymeradwyo ar gael yn y GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd;

    c) Gwella canlyniadau PISA ym mhob un o'r tri maes a datblygu cwricwlwm newydd radical ar gyfer ein hysgolion;

    d) datgan argyfwng newid yn yr hinsawdd a gosod targed cyfreithiol rwymol cyntaf Cymru i gyflawni allyriadau sero-net;

    e) adeiladu 20,000 o gartrefi newydd a chryfhau hawliau’r rhai sy’n rhentu.

    2. Yn nodi bod y cyflawniadau llawn wedi'u nodi yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru.

  6. 'Trychinebus i Gymru ac economi Cymru'

    Dywed David Rowlands o Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio bod y rhan fwyaf o flynyddoedd Llywodraethau Cymru dan arweiniad Llafur “wedi bod yn drychinebus i Gymru ac economi Cymru”.

    Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio
    Image caption: Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio
  7. 'Bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy ethol llywodraeth newydd'

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno y gwelliannau canlynol i gynnig y Ceidwadwyr:

    Gwelliant 2

    Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

    Yn credu y bydd Cymru dim ond yn adfer yn llwyr drwy ethol llywodraeth newydd a fydd yn gadael i bobl Cymru, nid San Steffan, benderfynu ar ein dyfodol.

    Yn credu bod angen newid cyfeiriad ar Gymru drwy ganiatáu i bobl Cymru ddweud eu dweud ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol drwy gynnal refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd.

    Gwelliant 3

    Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

    Yn credu, er mwyn ailadeiladu Cymru, y dylai'r Senedd nesaf gael pwerau dros faterion sydd wedi'u cadw yn ôl i San Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, ac Ystâd y Goron.

  8. 'Llywodraethau olynol Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru'

    Ceidwadwyr Cymreig

    Y pwnc a ddewiswyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yw "dyfodol Cymru".

    Maen nhw'n cynnig bod y Senedd:

    1. Yn gresynu at y ffaith bod llywodraethau olynol Cymru dan arweiniad Llafur wedi methu â gwella cyfleoedd bywyd pobl Cymru.

    2. Yn cydnabod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cyfaddef nad ydynt yn gwybod beth y maent yn ei wneud o ran yr economi.

    3. Yn nodi bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar gyfer ôl-groniadau cyn i'r pandemig ddod i ben.

    4. Yn nodi ymhellach bod cyn Brif Weinidog Cymru hefyd wedi cyfaddef bod Llafur wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl ar addysg.

    5. Yn cydnabod, er mwyn ailadeiladu Cymru, fod angen newid cyfeiriad a chael llywodraeth newydd ar 6 Mai 2021, a fydd yn darparu cynllun adfer i Gymru, sy'n cynnwys:

    a) creu 65,000 o swyddi newydd, gydag o leiaf 15,000 o swyddi gwyrdd;

    b) mynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn amseroedd aros yng Nghymru;

    c) rhoi gorau i danariannu ein pobl ifanc;

    d) adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar Gymru gan gynnwys ffordd liniaru'r M4 ynghyd ag uwchraddio'r A40 a'r A55;

    e) cefnogi pobl gyda chostau byw drwy rewi'r dreth gyngor am ddwy flynedd;

    f) rhoi Cymru ar y llwybr tuag at sero net erbyn 2050.

  9. 'Sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?'

    Gofynnir i'r Senedd nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Edrych ar ddatganoli darlledu: sut y gall Cymru gael y cyfryngau y mae eu hangen arni?

    Dywed cadeirydd y pwyllgor Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru):

    "Mae’r pwyllgor yn cytuno y dylai’r Senedd gael pwerau dros ddarlledu. Mae safbwyntiau’n amrywio ar y graddau y dylid datganoli ymhellach i wneud hynny, gyda rhai o blaid datganoli pwerau darlledu’n llawn i’r Senedd, ac eraill o blaid pwerau newydd mwy cyfyngedig mewn meysydd penodol.

    "Mae’r adroddiad hwn ac adroddiadau blaenorol y Pwyllgor yn llywio’r safbwyntiau hyn, gan eu bod yn dangos nad oes gan Gymru y cyfryngau y mae eu hangen arni i weithredu fel cenedl lwyddiannus.

    "Gellid ystyried datganoli darlledu i Gymru fel proses yn hytrach na digwyddiad. Felly, yn hytrach na gofyn “a ddylid datganoli darlledu?”, y cwestiynau mwyaf perthnasol ym marn y Pwyllgor yw “i ba raddau y dylid datganoli darlledu?”, a “sut y gellir cryfhau llais Cymru yn y tirlun darlledu?”."

    Darlledu
  10. 'Defnyddio’r cyfle hwn i greu dyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol'

    Gofynnir i'r Senedd nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: Y stori hyd yn hyn'.

    Dywed cadeirydd y pwyllgor Nick Ramsay (Mynwy):

    "Rhaid i ni ddysgu gwersi o’r ffordd yr ydym wedi ymateb i Covid-19 a defnyddio’r cyfle hwn i greu dyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae gweithredu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn fan cychwyn da."

  11. Pedair treth yn ariannu tua 20% o wariant Llywodraeth Cymru ar wasanaethau cyhoeddus

    Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Threfnydd, yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, holl argymhellion y pwyllgor.

    Dywed fod y refeniw o Dreth Trafodiadau Tir, Treth Gwaredu Tirlenwi, a Chyfraddau Treth Incwm Cymru - ynghyd â chyfraddau annomestig (a ddatganolwyd yn 2015) - bellach yn ariannu tua 20% o wariant Llywodraeth Cymru ar wasanaethau cyhoeddus.

    Arian
  12. 'Trethi y mae wedi’u datblygu yn deg i’r busnesau a’r unigolion sy’n eu talu'

    Nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol.

    Mae cadeirydd y pwyllgor Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) yn cyflwyno'r adroddiad.

    Un casgliad yw bod y Pwyllgor o’r farn "bod strategaeth dreth Llywodraeth Cymru ar y cyfan wedi sicrhau bod y trethi y mae wedi’u datblygu yn deg i’r busnesau a’r unigolion sy’n eu talu".

    Hefyd, "ynghyd â’r angen am dryloywder ar gyfer y penderfyniadau cyllido a wneir gan Lywodraeth y DU, mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen proses annibynnol ar gyfer herio’r penderfyniadau hyn".

  13. Ceryddu Helen Mary Jones

    Mae ASau yn ystyried adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

    Ail-drydarodd Helen Mary Jones AS neges ynghylch treial llofruddiaeth a oedd yn mynd rhagddo, a chanfuwyd ei bod wedi cyflawni dirmyg llys am wneud hynny, a chafodd ei cheryddu gan farnwr y treial yn Llys y Goron Abertawe.

    Mae ASau yn cymeradwyo argymhelliad y pwyllgor fod achos o dorri’r Cod Ymddygiad wedi’i ganfod ac y dylid ceryddu’r Aelod.

    Helen Mary Jones yn cyrraedd y llys fis diwethaf
    Image caption: Helen Mary Jones yn cyrraedd y llys fis diwethaf
  14. Gwarchodaeth rhag troi allan

    Mae ASau yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.

    Mae’r Rheoliadau hyn yn atal, ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig, bod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben gweithredu gwrit neu warant meddiant, gweithredu gwrit neu warant adfer neu ddanfon hysbysiad troi allan.

    Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021 a byddant yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 30 Mehefin 2021.

    Yr amgylchiadau penodedig yw "pan fo’r llys wedi ei fodloni bod yr hawliad yn un yn erbyn tresmaswyr sy’n bersonau anhysbys; neu pan y’i gwnaed yn llwyr neu’n rhannol ar sail trais domestig, troseddau difrifol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu niwsans; neu, mewn achosion pan fo’r person sy’n bresennol wedi ei fodloni nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu ar yr adeg pan fo’n bresennol a phan fo’r gorchymyn meddiant wedi ei wneud yn llwyr neu’n rhannol ar sail marwolaeth y meddiannydd."

    Tai
  15. Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021

    Mae ASau yn cymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mawrth 2021.

    Mae ymgeiswyr yn medru gofyn i'w cyfeiriad cartref beidio â chael ei wneud yn gyhoeddus yn y papurau enwebu. Mae'r ffurflen cyfeiriad cartref yn gofyn i ymgeisydd fewnosod enw etholaeth Senedd Cymru y mae'r ymgeisydd yn byw ynddi. Mae'r Gorchymyn yn gwneud diwygiadau i alluogi unrhyw ymgeisydd sy'n byw y tu allan i Gymru ond o fewn y DU i gyfeirio at enw etholaeth Senedd y DU y mae’n byw ynddi ar y ffurflen cyfeiriad cartref.

    Mae'r Gorchymyn hefyd yn symud yr amser cau ar gyfer derbyn enwebiadau yn ôl i 4pm ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod y bleidlais er mwyn cysoni'r amseroedd ar gyfer derbyn enwebiadau a'u tynnu yn ôl.

  16. Gorbryder yn dilyn y cyfyngiadau symud

    Mae Jack Sargeant yn gofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl sy'n dioddef o orbryder yn dilyn y cyfyngiadau symud.

    Mae'n datgelu ei fod wedi cael un pwl o banig yn ei fywyd, "yn fuan ar ôl i Dad farw, a rhywbeth na fyddwn yn dymuno ar unrhyw un".

    Mae Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, yn cyfeirio at fuddsoddiad mewn mynediad at therapyddion ar-lein fel enghraifft.

    Cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o Lywodraeth Cymru yn 2017
    Image caption: Cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw bedwar diwrnod ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o Lywodraeth Cymru yn 2017
  17. 'Mwy agored i niwed nag y byddwn i wedi dymuno ar ddechrau'r pandemig'

    Mae Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru yn honni nad oedd gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru “yn ddigon gwydn” cyn y pandemig - ar ôl dau ddegawd o Lafur mewn grym - i allu delio ag ef.

    Mae'r gweinidog iechyd Vaughan Gething yn ateb bod gwasanaethau iechyd a gofal "ar y pryd yn dal i wella ar ôl degawd o lymder", ac mae'n cydnabod "ein bod ni'n fwy agored i niwed nag y byddwn i wedi dymuno ar ddechrau'r pandemig".

    Coronafeirws
  18. Rhaglen waith Covid-19

    Dywed y Ceidwadwr Angela Burns fod gan raglen waith Covid-19 Llywodraeth Cymru agweddau da, ond mae ganddi fwy o bwyslais ar nodi heriau na "sut rydyn ni'n mynd i'w datrys".

    Mae'r gweinidog iechyd Vaughan Gething yn ateb bod unedau gofal critigol yn dal i weithredu ar gapasiti dros 100%, ac y gellir gwneud ymrwymiadau hefyd mewn maniffestos pleidiau ar gyfer etholiad y Senedd.

  19. Tua 21% o farwolaethau Covid mewn cartrefi gofal

    Dywed y dirprwy weinidog Julie Morgan wrth Neil McEvoy AS y bu 1643 o farwolaethau mewn cartrefi gofal yn ymwneud â Covid-19 (hyd at Fawrth 5), tua 21% o farwolaethau Covid yng Nghymru.

    Dywed Julie Morgan, "mae'n drasiedi ac, wrth gwrs, rwy'n cefnogi ymchwiliad i pryd a pham y digwyddodd hyn. Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud, a rhaid inni ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd."

    Gofal
  20. Un AS yn y Siambr

    Elin Jones yn cadeirio y cyfarfod llawn o'r Siambr
    Image caption: Elin Jones yn cadeirio y cyfarfod llawn o'r Siambr
    a'r gweddill ar Zoom
    Image caption: a'r gweddill ar Zoom