a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr a nadolig llawen!

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto y flwyddyn nesaf.

    Da boch chi.

  2. Tua 200 o bobl yn byw gyda chlefyd motor niwron ar unrhyw adeg

    Pan ofynnwyd iddo pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau’r rhai sy’n byw gyda chlefyd motor niwron, mae’r prif weinidog yn ateb bod "Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r grŵp gweithredu cyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau i bawb sydd â chyflyrau niwrolegol, gan gynnwys clefyd motor niwron. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i benderfynu beth arall y gellir ei wneud i wella bywydau pobl sy'n byw gyda'r afiechyd creulon hwn."

    Dywed bod tua 200 o bobl yng Nghymru yn byw gyda’r cyflwr ar unrhyw adeg, sy’n golygu y dylai unrhyw awdurdod lleol gael “agwedd bersonol ac uniongyrchol tuag at anghenion yr unigolyn".

  3. Effaith yr amrywiolyn Omicron ar fusnesau lletygarwch

    Pan ofynnwyd iddo gan y Ceidwadwr Janet Finch-Saunders am effaith yr amrywiolyn Omicron ar fusnesau lletygarwch yng Nghymru, dywed y prif weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn "ystyried" pa gymorth ariannol y gallai ei roi i gwmnïau lletygarwch a thwristiaeth sy'n colli masnach.

    Ond ychwanegodd Mark Drakeford "byddem yn bendant yn gobeithio y byddai llywodraeth y DU yn barod i gydnabod yr effeithiau y mae'r amrywiolyn newydd yn ei gael yn ehangach ar y rhannau hynny o'r economi yr effeithir arnynt fwyaf uniongyrchol.

    "Mae'r newyddion am yr amrywiolyn Omicron yn newid ymddygiad pobl, a does dim amheuaeth o gwbl bod hynny'n cael effaith ar fusnes yn y diwydiant lletygarwch."

    lletygarwch
  4. Patentau brechlynnau Covid

    Dywed y prif weinidog fod Llywodraeth Cymru “yn cefnogi cynlluniau i lacio hawliau eiddo deallusol fel y gellir sicrhau bod brechlynnau patent ar gael i wledydd incwm isel i helpu i liniaru pwysau a achosir gan bandemig Covid-19. Rydym wedi cyfleu'r farn honno'n uniongyrchol i lywodraeth y DU gan fod cyfrifoldeb am hawliau eiddo deallusol yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl."

    Mark Drakeford
  5. Trydydd dos o'r brechlyn

    Bydd rhoi “arweiniad cryf” yn lle newid deddfau Covid yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw adolygu rheolau coronafeirws yng Nghymru, meddai Mark Drakeford yn ystod cwestiynau gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

    "Mae’n rhywbeth y byddwn am ei ystyried fel cabinet yn ystod yr wythnos hon,” meddai.

    O ran y brechlyn atgyfnerthu, mae Mr Price yn gofyn a ddylid rhoi blaenoriaeth i bobl sydd wedi cael y brechlyn AstraZeneca oherwydd ei ddiffyg effeithiolrwydd yn erbyn Omicron.

    Dywed y prif weinidog y bydd ei lywodraeth yn dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) "ynglŷn â sut rydyn ni'n blaenoriaethu galw pobl ymlaen i gael eu brechu gyda'r brechlyn atgyfnerthu."

    "Byddwn ni'n gweithio ein ffordd i lawr yr ystodau oedran, ac rydych chi'n cyrraedd pwynt yn nhridegau pobl lle'r oeddem ni mewn gwirionedd yn defnyddio Pfizer yn hytrach nag AZ ar gyfer y mwyafrif o bobl," meddai.

    Dywed y prif weinidog hefyd y gellir "gwneud mwy o ran awyru" i frwydro yn erbyn lledaeniad y feirws.

    Eglura, "mae'n rhan bwysig iawn o'r ffordd y gallwn gadw ein gilydd yn ddiogel. Ysgrifennodd y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf gan drosglwyddo cyngor pellach ar yr hierarchaeth o gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod pobl sy'n gweithio a phobl sy'n cael eu trin yn ein hysbytai a lleoliadau caeedig eraill o'r math hwnnw yn cael eu cadw mor ddiogel â phosibl, ac roedd awyru yn un o'r materion a bwysleisiwyd ganddynt yn y llythyrau."

    Adam Price
  6. Dadansoddiad rhagarweiniol o'r amrywiolyn omicron

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dyfynnu dadansoddiad rhagarweiniol o'r amrywiolyn Omicron, sy'n awgrymu, meddai "ei fod 29 y cant yn fwynach; bod dau ddos o'r brechlyn Pfizer yn 30 y cant yn effeithiol o ran lleihau trosglwyddiad; ac, yn bwysig, bod dau ddos o'r Pfizer yn 70 y cant yn effeithiol o ran lleihau mynd i'r ysbyty."

    Mae'n gofyn "pa effaith fydd y wybodaeth hon yn ei chael ar gynlluniau posib ar gyfer gosod cyfyngiadau ddydd Gwener, ac yn y pen draw yn osgoi cau Cymru i lawr yn llwyr."

    Mae'r prif weinidog yn ateb "mae'n galonogol yn ei ffordd, ond ni ddylid dibynnu arno fel sylfaen gref ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi," gan ychwanegu hyd yn oed os yw Omicron yn fwynach, bydd ei drosglwyddadwyedd cynyddol yn arwain at bwysau mawr ar y GIG.

    O ran brechlynnau atgyfnerthu, dywed Mr Drakeford y bydd y cynigion a fydd yn cael eu gwneud cyn diwedd mis Rhagfyr “yn ymestyn i’r flwyddyn newydd i’r graddau byrraf posibl”.

    Andrew RT Davies
  7. Problemau technegol

    Mae problemau technegol yn y cyfarfod rhithwir yn arwain at atal y trafodion dros dro.

  8. Cyfraddau ailgylchu Cyngor Caerdydd yn 'siomedig'

    Dywed Rhys ab Owen fod cyfraddau ailgylchu Cyngor Caerdydd yn “siomedig”.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod y cyngor - sy'n cael ei redeg gan Lafur - "yn gweithio'n galed i wneud mwy i gael eu cyfraddau ailgylchu i'r man lle byddem ni i gyd eisiau eu gweld."

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi penderfynu "hepgor y gosb i Gyngor Caerdydd mewn perthynas ag isafswm targedau ailgylchu awdurdodau lleol ar gyfer 2019 i 2020. Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, mae’r Gweinidog wedi ystyried yr effaith y gallai rhoi cosb ariannol sylweddol ei chael ar allu Cyngor Caerdydd i ddarparu’r union wasanaethau y mae angen eu gwella ar frys, a hefyd ar yr angen i fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn, a hynny ar adeg pan mae’r pandemig yn creu heriau mawr i awdurdodau lleol."

    Erbyn hyn, dim ond dau safle ailgylchu gwastraff cartref sydd gan Gaerdydd
    Image caption: Erbyn hyn, dim ond dau safle ailgylchu gwastraff cartref sydd gan Gaerdydd
  9. Croeso

    Prynhawn da, mae'r sesiwn olaf o Gwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2021 yn dechrau am 1.30pm.