A dyna ni am heddiw ar y diwrnod y cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd Cymru yn aros ar lefel sero ond mae yna rybudd bod achosion o amrywiolyn Omicron yn debygol o godi yn fuan.
O ganlyniad i hynny bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad wythnosol o hyn ymlaen.
Os bydd y sefyllfa yn gwaethygu bydd angen cael cymorth i fusnesau gan y Trysorlys yn Llundain, medd Mr Drakeford.
Gellid disgwyl hefyd canllawiau pellach ar ymweld â chartrefi gofal ac ysbytai yn sgil ton newydd.
Fe bwysleisiodd y Prif Weinidog bwysigrwydd brechu a gwneud prawf unffordd (lft) cyn mynd allan.
Mae miliwn o bobl bellach wedi cael brechiadau atgyfnerthu.
Mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.
Diolch am eich cwmni a chadwch yn ddiogel.
BBCCopyright: BBC
Plaid Cymru'n croesawu adolygiadau wythnosol
Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi cefnogi penderfyniad Mark Drakeford i gynnal adolygiad Covid wythnosol o hyn ymlaen.
Ychwanegodd ei fod yn cefnogi galwad Llywodraeth Cymru am fwy o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU os oes cyfyngiadau llymach yn cael eu cyflwyno.
Dywedodd fod lefel y gefnogaeth o San Steffan am fod yn ffactor wrth benderfynu "faint o fesurau iechyd cyhoeddus all Llywodraeth Cymru gyflwyno".
Wfftio adroddiadau o 'gyfnod clo cyn y Flwyddyn Newydd'
Llywodraeth Cymru
Mae Mark Drakeford wedi dweud na fydd o'n gwneud sylw ar "honiadau afluniedig" ei fod wedi galw am gyfnod clo dros y Nadolig.
Mae'r blogiwr gwleidyddol Guido Fawkes wedi honni fod y prif weinidog wedi galw am reolau llymach yn yr wythnos rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Dywedodd Mr Drakeford fod yr adroddiadau hynny yn "torri rheolau'r mathau yna o gyfarfodydd" ac yn ymgais i "dynnu sylw oddi wrth drafferthion niferus Llywodraeth y DU yr wythnos hon".
"Beth ddyweda i yw hyn: ydw i'n annog Llywodraeth Cymru i gynllunio ymlaen a chymryd y camau sydd eu hangen er mwyn taclo her coronafeirws?
"Dwi wedi gwneud hynny dro ar ôl tro ar y platfform yma, a dwi'n hapus i ailadrodd hynny heddiw."
'Ffrindiau yn eu 50au heb gael cynnig hwblyn'
Ceidwadwyr Cymreig
Dywed llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Russell George, bod "Llywodraeth Cymru yn iawn i beidio cyflwyno cyfyngiadau sylweddol wrth ddelio ag Omicron".
"Dwi'm yn meddwl bod yr un ohonom am weld cyfyngiadau newydd - yn arbennig yn ystod cyfnod y Nadolig," meddai.
"Mae'n rhaid i ni ddysgu mwy am yr amrywiolyn newydd a sicrhau bod cyfyngiadau newydd wedi'u seilio ar dystiolaeth.
"Ond mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ehangu y cynllun rhoi brechlynnau atgyfnerthu.
"Mae gen i ffrindiau yn eu 50au hwyr na sydd eto wedi cael gwahoddiad am frechlyn atgyfnerthu er eu bod wedi cael yr ail frechlyn ymhell dros dri mis yn ôl."
'Amrywiolyn Delta fydd gryfaf am wythnos'
Llywodraeth Cymru
Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod e wedi gwneud prawf unffordd (lft) cyn mynd i ddigwyddiad yn Abertawe bore 'ma a hynny "er mwyn rhoi hyder i fi nad oeddwn yn peri risg i neb arall".
"Os ydych yn mynd i ddigwyddiad o unrhyw fath, meddyliwch am yr hyn a ellwch ei wneud - cael brechiad, profi, gwisgo mwgwd - mi all y gweithredoedd yma ein cadw'n ddiogel yn y cyfnod hyd at y Nadolig," ychwanegodd.
Dywedodd hefyd na fyddai "wedi mynd ymhellach" o ran cyflwyno cyfyngiadau ar hyn o bryd hyd yn oed os na fyddai "arian" yn ystyriaeth.
"Yn ystod yr wythnos nesaf amrywiolyn Delta sy'n mynd i fod gryfaf yng Nghymru," meddai.
"A phetaem ond yn gorfod delio gyda Delta mi fyddai'r llwybr yn un cymharol rwydd - mae'r nifer sydd wedi bod yn grofod cael triniaeth ysbyty wedi gostwng."
'Angen gweithredu'n sydyn' os oes angen
Llywodraeth Cymru
Bydd gweinidogion yn gweithredu'n gyflym os yw'r data yn dangos bod amrywiolyn Omicron yn achosi problemau sylweddol i'r gwasanaeth iechyd.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn derbyn y gallai cyfyngiadau newydd "ypsetio" busnesau a'r cyhoedd.
Ond os yw'r cyngor gwyddonol yn rhybuddio fod y wlad yn wynebu problemau, meddai, "dylech chi actio'n gynnar a cheisio trechu'r broblem yn fuan y gorau gallwch chi".
"Mae hynny'n gallu bod yn anodd ac yn siomedig, ond dwi dal yn meddwl mai dyna'r peth iawn i wneud," meddai.
Achosion Omicron 'yn uwch na'r ffigwr swyddogol'
Llywodraeth Cymru
Mae Mark Drakeford wedi cydnabod fod gwir nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi dal yr amrywiolyn Omicron yn dipyn uwch na'r ffigwr swyddogol.
Ar hyn o bryd dim ond naw person gydag Omicron sydd wedi'u cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ond nid yw profion PCR pawb yn cael eu hanfon i labordai sydd yn gallu adnabod yr amrywiolyn newydd, ac felly nid pob achos o Omicron sy'n cael ei ganfod ar hyn o bryd.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Drakeford 'ddim yn osgoi craffu'
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mr Drakeford nad yw'n ceisio osgoi craffu yn y Senedd wrth symud at drefn o adolygiadau Covid wythnosol.
Bydd tymor y Senedd yn dod i ben wythnos nesaf ar gyfer y Nadolig, sy'n golygu y bydd adolygiadau yn digwydd tra bod ASau i ffwrdd.
Ond dywedodd y prif weinidog y gallai aelodau gael eu galw yn ôl os oedd angen.
"Yn anffodus dyw Omicron ddim yn gweithio i amserlen unrhyw un," meddai.
"Os 'dyn ni'n gwneud penderfyniadau ac mae angen i'r Senedd graffu arnyn nhw, dwi'n siwr y gwnawn ni ffeindio ffordd i wneud i hynny ddigwydd."
'Bydd cymorth ariannol help gan y Trysorlys"
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganfod "pa arian fydd ar gael i helpu busnesau ymhellach os ydym yn wynebu cyfnod hynod o heriol yn sgil amrywiolyn Omicron", medd y Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau'r wasg a'r cyfryngau.
"Ond os yw'r amrywiolyn newydd yn lledu, fel mae rhai modelau yn awgrymu, bydd rhaid i'r Trysorlys weithredu i ddelio ag unrhyw effaith economaidd.
"Ni all yr un lywodraeth ddatganoledig ddarparu y gefnogaeth anghenrheidiol yn y fath amgylchiadau.
"Felly rwyf eisoes wedi nodi hynny yn uniongyrchol wrth siarad â Llywodraeth y DU a byddaf yn gwneud hynny eto'r prynhawn 'ma."
'Dwi ddim eisiau meicro-reoli bywydau pobl'
Llywodraeth Cymru
Dylai pobl gymryd eu hwb frechlyn a dilyn y rheolau yn hytrach na newid eu cynlluniau Nadolig, meddai Mark Drakeford.
Wrth ateb cwestiynau yn dilyn ei ddatganiad, dywedodd y prif weinidog nad oedd eisiau "meicro-reoli" bywydau teuluol pobl.
"Meddyliwch am y bobl rydych chi'n cyfarfod, yn enwedig os 'dych chi'n cwrdd a phobl sydd a chyflyrau iechyd fyddai'n eu gwneud nhw'n fregus i'r feirws," meddai.
"Mae'r holl bethau yma, a chadw pellter cymdeithasol, yn bethau 'dyn ni wedi dysgu i wneud, ac yn gallu ein cadw ni ar y llwybr rydyn ni eisiau bod arno wrth arwain at y Nadolig."
Canllaw newydd ar ymweld â chartrefi gofal ac ysbytai
Llywodraeth Cymru
Byddwn yn rhoi canllaw newydd ar ymweld â chartrefi gofal ac ysbytai.
"Ry'n am wneud popeth posib i gefnogi ymweliadau pan mae hynny'n ddiogel - ond os oes ton newydd bydd angen mesurau cryfach i amddiffyn cleifion a phreswylwyr cartrefi.
"Yn anffodus ry'n yn wynebu dyfodol ansicr unwaith eto a rhaid i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i ddiogelu ein hunain a'n hanwyliaid.
"Gadewch i ni fod yn ddiogel ac yn iach y Nadolig hwn," medd y Prif Weinidog.
Aros ar lefel rhybudd sero
Llywodraeth Cymru
Mae Mark Drakeford yn dweud y bydd Cymru'n aros ar lefel rhybudd sero am y tro.
Ond dylai pawb gymryd prawf llif unffordd (LFT) cyn mynd allan i lefydd cyhoeddus a phrysur, mynd i bartion Nadolig neu ymweld a ffrindiau a theulu.
Dywedodd y dylai myfyrwyr hefyd gymryd prawf cyn iddyn nhw deithio adref dros y Nadolig.
Pwysleisiodd y prif weinidog y dylai pobl dal wisgo mwgwd yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus - gan gynnwys bwytai a thafarndai pan nad ydyn nhw'n bwyta ac yfed, ac y dylai pobl weithio o adref ble mae'n bosib.
Symud i adolygiad wythnosol
Llywodraeth Cymru
"Ry'n wythnos y tu ôl i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr a'r Alban - ac mae hyn yn rhoi ychydig mwy o amser o ran gweithredu," medd Mr Drakeford.
"Ond o ystyried fod pethau yn gallu newid yn gyflym mae'r Cabinet wedi penderfynu adolygu'r sefyllfa yn wythnosol.
"Byddwn yn cadw golwg agos ar y sefyllfa ac yn ystyried a oes angen amddiffyniadau pellach i gadw Cymru yn ddiogel."
'Yr anrheg Nadolig i chi a'ch teulu'
Llywodraeth Cymru
"Byddwn yn brechu pobl o ran trefn oedran," medd y Prif Weinidog.
"Cofiwch fynychu - dyna'r unig ffordd i gadw'n ddiogel.
"Os ydych dros 65 a ddim eto wedi cael apwyntiad mae angen i chi gysylltu â'ch bwrdd iechyd yn uniongyrchol.
"Dyma'r anrheg Nadolig gorau y gallwch ei roi i chi'ch hun a'ch teulu eleni."
'Tri dos yn amddiffyn pobl rhag Omicron'
Llywodraeth Cymru
"Mae ffigyrau heddiw yn dangos ein bod eisoes wedi rhoi dros filiwn o frechlynnau atgyfnerthu," medd y Prif Weinidog, "gan roi amddiffyniad pellach i bobl rhag y feirws ofnadwy hwn."
"Dywed Sefydliad Iechyd y Byd y bydd ein brechlynnau yn parhau i amddiffyn pobl rhag salwch difrifol ac maent yn parhau i fod ein hamddifyniad gorau rhag y coronafeirws.
"Mae Pfizer-BioNTech yn dweud bod rhoi tri dos i bobl yn dangos canlyniadau calonogol o ran amddiffyn pobl rhag Omicron.
"Byddwn wedi cynnig brechlyn atgyfnerthu i bawb dros 18 erbyn diwedd Ionawr," ychwanegodd.
BBCCopyright: BBC
'Mwy o bobl yn debygol o fod angen triniaeth ysbyty'
Llywodraeth Cymru
"Dydyn ni ddim eto yn gwybod a yw amrywiolyn Omicron yn debygol o achosi salwch difrifol ond mae nifer fawr o bobl yn debygol o gael eu heintio.
"Mae hynny'n golygu," meddai'r Prif Weinidog, "y bydd nifer fawr o bobl yn gorfod cael triniaeth ysbyty fis nesaf - mewn cyfnod lle mae'r GIG eisoes o dan bwysau mawr.
"Ond dydyn ni ddim yn yr un sefyllfa â llynedd - diolch i'n cynllun brechu effeithiol."
Omicron: 'Disgwyl i'r achosion gynyddu'
Llywodraeth Cymru
Ar ddechrau'r gynhadledd dywed y Prif Weinidog ei fod am ganolbwyntio ar amrywiolyn Omicron a'i effaith posib ar Gymru.
Dywed bod ei ganfod yn Ne Affrica dros bythefnos yn ôl yn ddatblygiad pryderus arall yn y pandemig.
"Mae achosion wedi'u canfod ar draws y byd," meddai, "mae'r ffigyrau yng Nghymru yn isel ar y funud ond mae'n rhaid i ni baratoi wrth i ni ddisgwyl cynnydd yn nifer yr achosion.
"Mae gwyddonwyr gorau'r byd yn gweithio bob awr o'r dydd i ddeall mwy amdano," meddai.
Mae'n golygu bod 6,476 o farwolaethau wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig.
Cafodd 2,462 o achosion ychwanegol eu cofnodi hefyd hyd at 09:00 fore Iau, gan ddod a'r cyfanswm i 532,302, yn ol y dull yma o gofnodi.
Mae'r gyfradd saith diwrnod am bob 100,000 o bobl wedi gostwng ychydig o 507.1 i 504.6.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Pryder am ddiogelwch preswylwyr cartrefi gofal
BBC Radio Wales
"Gallai cartrefi gofal orfod cau eu drysau i ymwelwyr os yw'r nifer o achosion o'r haint yn codi'n gyflym," medd Mario Kreft, cadeirydd Fforwm Gofal Cymru.
Does dim disgwyl i adolygiad heddiw gyfeirio at gartrefi gofal ond dywed Mr Kreft mewn cyfweliad â Radio Wales fod amrywiolyn Omicron "yn bryder i reolwyr cartrefi".
"Mi fydd hi'n ras yn erbyn amser i roi'r brechlyn atgyfnerthu. Heblaw y rhaglen frechu mae'n debyg y byddai cyfnod clo arall yn ystod adeg y Nadolig," meddai.
"Ry'n ni gyd yn gobeithio na fydd cartrefi gofal, fel llynedd, ar gau. Mae gweld ymwelwyr yn gwbl hanfodol i'r rhai sydd mewn cartref gofal ond efallai bydd rhaid cyflwyno cyfyngiadau pellach i gadw pobl mewn cartrefi gofal yn ddiogel," ychwanegodd.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl fawr

Y gynhadledd yn fyw...
Naw marwolaeth pellach o Covid-19
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae naw o farwolaethau pellach yn gysylltiedig a Covid-19 wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.