Dyna ni am heddi. Fe fyddwn ni 'nôl Ddydd Mawrth 17 Tachwedd. Hwyl!
BBCCopyright: BBC
Y ddadl fer
AC y Ceidwadwyr Altaf Hussain sy'n arwain y ddadl fer ar heintiau a geir mewn ysbytai.
Dywed y gall y clefyd MRSA gael canlyniadau difrifol i gleifion a theuluoedd, yn ogystal ag mewn ysbytai lle mae'n rhaid cau wardiau.
BBCCopyright: BBC
ACau yn pleidleisio o blaid cyllideb Comisiwn y Cynulliad
ACau yn pleidleisio o blaid cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2016/17. Pleidleisiodd pedwar AC yn erbyn ond pleidleisiodd 43 o blaid y gyllideb
BBCCopyright: BBC
Gwella darpariaeth gofal plant
Mae'r gweinidog cymunedau yn ymateb i'r ddadl gan ddweud bod gofal plant yn ddrud, ond dadlau nad yw'n ddrutach yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU.
Yn ôl Lesley Griffiths mae'r llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o wella darpariaeth gofal plant.
Cysondeb
Yn ôl Plaid Cymru mae teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban.
Mae'r blaid yn galw ar lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru.
Dywed Simon Thomas bod materion gofal plant yn amrywio o un awdurdod i'r llall ar hyn o bryd.
ThinkstockCopyright: Thinkstock
Dadl Plaid Cymru
Mae'r ddadl olaf ond un yn cael ei harwain gan Blaid Cymru ar ofal plant.
BBCCopyright: BBC
'Comisiynydd y Lluoedd Arfog yn ddi-angen'
Mae'r gweinidog Leighton Andrews yn ymateb i'r ddadl gan ddweud bod gwaith da yn cael ei wneud yng Nghymru gyda'r gymuned lluoedd arfog.
Mae'n dweud nad oedd yn credu bod angen Comisiynydd y Lluoedd Arfog ac na fyddai cerdyn i gyn-filwyr yn werth rhyw lawer.
Yn ôl y gweinidog yr opsiwn gorau yw Cerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n rhoi gostyngiadau mewn siopau a chanolfannau hamdden.
BBCCopyright: BBC
Comisiynydd y Lluoedd Arfog?
Mae'r Ceidwadwyr yn galw ar y llywodraeth i sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog ac am gerdyn arbennig a fyddai'n cynnig nifer o fanteision i gyn-filwyr a phersonél.
Ail ddadl y Ceidwadwyr
Mae'r ail ddadl yn ymwneud â'r lluoedd arfog. Heddiw yw Diwrnod y Cadoediad pan mae pobl yn cofio am y rhai a fu farw yn y ddau Ryfel Byd a phob gwrthdaro ers hynny.
BBCCopyright: BBC
Llywodraeth yn cefnogi pobl hŷn
Mae'r Dirprwy Weinidog Julie James yn ymateb i'r ddadl. Dywed bod adrannau'r llywodraeth yn gweithredu er mwyn helpu pobl hŷn.
Yn ôl Nick Ramsay AC mae'r ddadl yn gadarnhaol gan ei bod hi'n ymwneud â phob cenhedlaeth.
BBCCopyright: BBC
Dadl y Ceidwadwyr ar bobl hŷn
Mae'r Ceidwadwyr yn arwain dadl ar bobl hŷn a'r cyfraniad maent yn eu gwneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.
ALAMYCopyright: ALAMY
Hawlio'r 'penawdau'
Yn ôl Rhodri Glyn Thomas os yw'r gyllideb yn cael ei gwrthod, bydd yn rhaid i ACau benderfynu eu hunain faint y byddant yn cael eu talu.
Mae e'n cyhuddo'r Democratiaid Rhyddfrydol o wrthwynebu'r codiad cyflog er mwyn ceisio hawlio'r 'penawdau'.
Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru hefyd yn anghytuno gan ddweud y dylai'r drafodaeth fod yn seiliedig ar gyllideb y comisiwn, nid ar faint y dylid talu aelodau cynulliad.
BBCCopyright: BBC
Codiad cyflog yn 'annerbyniol'
Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb mewn protest yn erbyn cynnydd mewn cyflogau ACau.
Mae Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod hi'n 'annerbyniol' i ACau dderbyn codiad cyflog pan fydd cyflogau gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus yn cael eu rhewi.
BBCCopyright: BBC
Yn ôl aelod Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas, holl bwynt cyflwyno'r ddeddfwriaeth oedd osgoi dadl fel hon.
'Dysgwch sut i fyw gyda'r penderfyniad...'
Mae Jocelyn Davies, aelod o Gomisiwn y cynulliad, yn dweud bod y ddeddfwriaeth wedi rhoi'r grym i'r bwrdd annibynnol benderfynu lefel cyflogau'r Aelodau Cynulliad.
"Dysgwch sut i fyw gyda'r penderfyniad... dewch yma i ennill yr arian" neu "ail-apeliwch yn erbyn y ddeddfwriaeth."
Codiad cyflog i'r AC
Mae bwrdd annibynnol wedi argymell codiad cyflog y flwyddyn nesaf o £54,391 i £ 64,000 - er gwaethaf gwrthwynebiad gan rai ACau sy'n dweud na fyddant yn derbyn y cynnydd.
Cyllideb Comissiwn y Cynulliad
Mae'r ACau yn trafod y cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comissiwn y Cynulliad 2016/17.
Angen gweithredu ar unwaith
Mae "gweithwyr yn dweud wrthyf bod angen gweithredu ar unwaith", meddai Eluned Parrott.
Yn ôl y gweinidog bydd y gweithgor yn rhoi cyngor arbenigol ac yn eu hysbysu am y sefyllfa ar draws y byd.
BBCCopyright: BBC
'Angen cynorthwyo'r diwydiant'
Mae Edwina Hart yn mynnu bod angen cynorthwyo'r diwydiant.
Mae ymddangos nad oes digon o awydd i gynorthwyo a bod yr argyfwng mor niweidiol a'r hyn a ddigwyddodd i'r diwydiant glo, yn ôl Ms Hart.
BBCCopyright: BBC
Cyd-weithio ar draws y DU
Mae'r Gweinidog yn dweud bod grŵp gorchwyl wedi ei sefydlu i rannu arfer da ac i nodi'r gefnogaeth a roddir i weithwyr eraill yr UE mewn sefyllfa debyg. Yn ôl Edwina Hart mae angen cyd-weithio ar draws y Deyrnas Unedig ynglyn â'r sefyllfa yma.
Datganiad ar y diwydiant dur
Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart yn gwneud datganiad ar y diwydiant dur.
BBCCopyright: BBC
Bobl ifanc sy'n gadael gofal
Mae'r gweindog yn dweud bod angen cyd-weithio rhwng gwasanaethau ac y dylid cael trosglwyddiad syml i bobl ifanc sy'n gadael gofal i fyw yn annibynnol.
Mae AC Llafur Gwenda Thomas yn gofyn i'r gweinidog am gefnogaeth i bobl ifanc sy'n gadael gofal sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
BBCCopyright: BBC
Y Sesiwn Lawn
Mae'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn wynebu cwestiynau'r aelodau ar lawr y Siambr.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Janet Ebenezer
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl!