Etholiad 2016: Arlwy BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
senedd

Mi fydd BBC Cymru'n cynnig ei arlwy mwyaf cynhwysfawr erioed i gyd-fynd ag Etholiad y Cynulliad 2016.

Yn ogystal â chynlluniau uchelgeisiol ar deledu, radio, ar-lein ac ar ddyfeisiadau symudol, bydd BBC Cymru yn teithio i gymunedau lleol i gwrdd â phleidleiswyr wyneb yn wyneb.

Bydd cyflwynwyr a gohebwyr arbenigol BBC Cymru - Dewi Llwyd, Bethan Rhys Roberts, Nick Servini, Aled ap Dafydd, Vaughan Roderick a David Cornock - yn arwain y sylw i ymgyrch yr Etholiad. Bydd gohebwyr o bob cwr o Gymru'n cynnig dadansoddiadau arbenigol.

Yn ogystal â'r gohebu a'r dadansoddi yn ystod yr ymgyrch bum wythnos, bydd gwasanaeth digidol cyflawn gyda straeon a gwybodaeth am bob ymgeisydd yn yr etholaethau Cymreig.

Dywedodd Mark O'Callaghan, Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru:

"Bydd darllediadau etholiadol eleni yn adeiladu ar lwyddiant ein tymor diweddar Deall Cymru, a oedd yn esbonio yn glir i'n cynulleidfaoedd sut mae ein system ddemocrataidd yn effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru.

"Yn y cyfnod yn arwain at 5 Mai, bydd ein timau ar y lôn, gan ddod â phob math o bobl at ei gilydd ynghyd â'r ymgeiswyr i danio trafodaeth."

Teledu

Am y tro cyntaf, bydd BBC Cymru yn cynnal pum dadl 'Ask the Leader', dros bum noson o 11 Ebrill, lle bydd arweinwyr y pum prif blaid yng Nghymru'n ateb cwestiynau gan aelodau o gynulleidfa stiwdio yn Abertawe, Aberystwyth a Llangollen.

Bydd y dadleuon yn cael eu darlledu'n fyw ar BBC One Wales bob nos am 19:00.

Bydd Pawb a'i Farn ar S4C yn cynnal tair dadl etholiadol wedi eu cyflwyno gan Dewi Llwyd yn Aberystwyth, 14 Ebrill; Llandudno, 21 Ebrill; ac Abertawe, 28 Ebrill. Bydd dadansoddi manwl ar raglen Y Sgwrs bob nos Fercher.

Ar 27 Ebrill, ychydig dros wythnos cyn y bleidlais, bydd Huw Edwards yn cyflwyno 'The BBC Wales Leaders' Debate' yn fyw o Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Mae arweinwyr Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Plaid Cymru, UKIP yng Nghymru a'r Blaid Werdd yng Nghymru wedi eu gwahodd.

Byddan nhw'n trafod rhai o bynciau llosg yr ymgyrch etholiad ac yn ateb cwestiynau gan gynulleidfa fydd wedi eu gwahodd o bob cwr o Gymru.

Bydd y rhaglen yn fyw ar BBC One Wales a'r BBC News Channel am 20:30.

Bydd darlledu cynhwysfawr o'r canlyniadau dros nos ar Mai 5 a 6. Dewi Llwyd a Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, fydd yn cyflwyno'r arlwy ar S4C.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyd-ddarlledu ar BBC Radio Cymru ac yn cynnwys canlyniadau byw, barn arbenigol, cyfweliadau gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus a dadansoddi gyda graffeg ryngweithiol wedi ei gyflwyno gan Arwyn Jones.

Radio

Ar BBC Radio Cymru, Dewi Llwyd fydd yn cyflwyno rhifynnau etholiad o Hawl i Holi yng ngogledd Cymru ar 19 Ebrill a de Cymru ar 26 Ebrill, tra bydd Vaughan Roderick yn edrych yn wythnosol ar sut siâp sydd ar yr ymgyrchu yn O'r Bae.

Bydd gan Good Morning Wales a Post Cyntaf ddarllediadau estynedig ar 6 Mai, gyda'r canlyniadau a'r dadansoddi diweddaraf o'r hyn sydd wedi digwydd dros nos a'r hyn allai'r canlyniad ei olygu i Gymru.

Digidol

Bydd arlwy ar-lein BBC Cymru yn cynnig newyddion a dadansoddi gwleidyddol ar gyfrifiadur, dyfeisiau symudol, ap BBC News a BBC Cymru Fyw yn ogystal â chyfryngau cymdeithasol.

Fe fydd hafan etholiad arbennig ar wefan BBC Cymru Fwy yn cynnig tudalennau unigol yn cwmpasu straeon a gwybodaeth am bob etholaeth yng Nghymru.

Bydd sylw i'r digwyddiadau allweddol ar dudalennau byw gan gynnwys diweddariad testun, negeseuon trydar, a chlipiau teledu a radio.

Ar noson yr etholiad, bydd gwasanaethau digidol BBC Cymru yn cynnig tudalennau byw, amlgyfrwng, canlyniadau, sïon a dadansoddi gan arbenigwyr fydd yn adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf ar draws Cymru ar gyfrif Twitter @BBCCymruFyw ac ar dudalen Facebook BBC Cymru Fyw.

Taith yr Etholiad

Bydd holl raglenni a gwasanaethau newyddion BBC Cymru yn ymuno â thaith o etholaethau allweddol. Yn ogystal â darlledu'n fyw o'r lleoliadau yma, bydd newyddiadurwyr y BBC yn holi etholwyr i brofi'r tymheredd.

Mae'r dyddiadau a'r lleoliadau fel a ganlyn, gyda'r babell ar agor o 07:00:

  • Dydd Llun 18 Ebrill Sgwâr y Castell, Hwlffordd;
  • Dydd Mercher 20 Ebrill Tu allan Y Plas, Machynlleth;
  • Dydd Gwener 22 Ebrill Sgwâr y Frenhines, Wrecsam;
  • Dydd Llun 25 Ebrill Tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr, Caerffili;
  • Dydd Mercher 27 Ebrill Yr Aes, Caerdydd;
  • Dydd Gwener 29 Ebrill Gerddi Southend, Y Mwmbwls.

Bydd cyfle i gynulleidfaoedd ymweld â'r safleoedd darlledu i gwrdd â chyflwynwyr BBC Cymru, dweud eu dweud ar bynciau llosg lleol a chenedlaethol yn ogystal â phrofi'r dechnoleg ddarlledu ddiweddaraf.