Democratiaid Rhyddfrydol yn addo 'rhoi pobl yn gyntaf'
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn lansio'u hymgyrch ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ddydd Iau gydag addewid i "roi pobl yn gyntaf".
Yn ystod y digwyddiad yn Llanrhystud, Ceredigion, bydd y blaid yn canolbwyntio ar rai o'i phrif bolisïau sy'n cynnwys darparu mwy o nyrsys, lleihau maint dosbarthiadau ysgol a chynyddu faint o brentisiaethau sydd ar gael.
Ar hyn o bryd, mae gan y blaid bump o'r 60 Aelod Cynulliad, ac mae arolygon barn yn awgrymu eu bod yn wynebu talcen caled i ddal eu gafael ar y seddi hynny.
Cyn y lawnsiad, fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams AC: "Mae'r weledigaeth rydym ni'n ei chyflwyno yn yr etholiad yma'n dangos mai ni yw'r blaid sy'n gwrando.
"Fe fyddwn ni'n rhoi pobl yn gyntaf, a dyna pam mai ein blaenoriaethau ni yw eich blaenoriaethau chi: mwy o nyrsys ar wardiau ysbytai, dosbarthiadau llai i'n plant, ac economi sy'n rhoi cyfle i bobl lwyddo mewn bywyd."
Addewidion
Mae prif addewidion y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar gyfer yr etholiad yn cynnwys:
- Mwy o nyrsys ar wardiau ysbytai
- Adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros gyfnod o bum mlynedd
- Sefydlu 'gweinyddiaeth busnesau bach' i gynnig cyngor annibynnol a chyllid
- Hyblygrwydd trethi buses i gynghorau er mwyn hybu datblygiad economaidd
- Torri graddfa sylfaenol y dreth incwm o 1c i 19% yng Nghymru
Yn gynharach eleni, cafodd trafodaethau anffurfiol eu cynnal rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Plaid Cymru a'r Blaid Werdd am bact etholiadol posib - ond wnaethon nhw ddim arwain at gytundeb.
"Mae pobl wedi cael eu siomi gan lywodraeth Lafur sy'n dal i fethu cael y pethau sylfaenol yn iawn gyda'n gwasanaethau cyhoeddus, ac maen nhw wedi blino gyda gwleidyddion sy'n rhoi pregeth iddyn nhw o hyd," meddai Ms Williams.
"Ers dros 150 o flynyddoedd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi bod yn brwydro am degwch i'n cymunedau. Fe fyddwn ni'n parhau i wrando fel y gallwn ni greu Cymru sy'n gweithio i chi."