Dem. Rhydd: Beth fydd ffawd y blaid yn yr etholiad?
- Cyhoeddwyd

Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC sydd yn darogan beth fydd ffawd y pleidiau gwleidyddol yn yr etholiad Cynulliad. Y tro yma mae'n canolbwyntio ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae ei ddadansoddiad o UKIP, y blaid Lafur a Phlaid Cymru yma.
Yn ôl yn nyddiau cynnar ei harweinyddiaeth fe lansiodd Kirsty Williams gynllun uchelgeisiol i drasnewid ei phlaid, a Chymru o ran hynny. Wele gwariodd dydd i'w gofio.
Fe fyddai 'Prosiect 31' yn sicrhau mwyafrif i'w phlaid yn y Cynulliad ac yn ail-sefydlu goruchafiaeth Rhyddfrydiaeth yng Nghymu.
Wel, trodd y freuddwyd yn hunllef gyda threigl amser wrth i benderfyniad y blaid i glymbleidio â'r Ceidwadwyr yn San Steffan brofi'n wenwynig yn etholiadol i'r blaid - a nid dim ond ar lefel seneddol.
Eleni felly mae'r blaid yn ymladd am ei heinioes etholiadol gan geisio dal gafael ar ei throedle yn y Cynulliad. Yn eironig ddigon mae gan y blaid dipyn o le i ymhyfrydu yn ei llwyddianau ym Mae Caerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.
Llwyddwyd i sicrhau rhagor o arian i ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig a lefelau staffio uwch yn ein hysbytai.
Ar gyfer y Cynulliad nesaf mae gan y blaid fwydlen o bolisïau atyniadol - addewidion i godi rhagor o dai a lleihau maint dosbarthiadau ysgol, er enghraifft.
Ond dyma'r broblem - oes unrhyw un yn gwrando? Dyw hi ddim yn ymddangos felly o'r arolygon barn.
Does dim dewis felly gan blaid gynrychiolaeth gyfrannol ond taflu bron y cyfan o'i hadnoddau at lond dwrn o seddi etholaethol yn y gobaith o'u cipio. O Brosiect 31 i brosiect tri neu bewar- o pa fodd y cwymp y cedyrn.