Ceidwadwyr: Beth fydd ffawd y blaid yn yr etholiad?
- Cyhoeddwyd

Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC sydd yn darogan beth fydd ffawd y pleidiau gwleidyddol yn yr etholiad Cynulliad. Y tro yma mae'n canolbwyntio ar y Ceidwadwyr. Mae ei ddadansoddiad o UKIP, y blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yma.
Wel dyma'r flwyddyn wedi dod - y flwyddyn orau fu erioed. Dyna o leiaf oedd gobaith Ceidwadwyr Cymry ar drothwy 2016.
Wedi'r cyfan ddeuddeg mis yn ôl roedd y blaid wedi ennill rhes o fuddugoliaethau annisgwyl wrth i Lafur gysgu wrth y llyw mewn llefydd fel Gŵyr a Dyffryn Clwyd.
Doedd neb ond strategwyr mwyaf siarp y Ceidwadwyr wedi gweld y rheiny'n dod ac roedd yr union strategwyr hynny yn argyhoeddedig bod modd efelychu'r gamp yn etholiad y Cynulliad.
Wedi'r cyfan fe fyddai'r holl ddata a'r peirianwaith feicro-dargedi yn dal ar gael, a'r tro hwn yn cael eu hanelu at blaid oedd wedi troi at Jeremy Corbyn, o bawb, am ei hachubiaeth.
Roedd y cynllun yn ddigon syml - defnyddio'r holl ddata i gymell i gefnogwyr y llynedd droi mas eto eleni a cholbio "Plaid Lafur Jeremy Corbyn" ar bob cyfle posib gan ei beio am bopeth o faint y ddyled a chyflwr yr economi i'r baw cŵn ar eich palmant lleol.
Plaid Lafur Jeremy Corbyn, sylwer, nid Llafur Cymru neu'r blaid Lafur nac hyd yn oed Plaid Lafur Carwyn Jones - Corbyn, yr arweinydd Prydeinig yn darged ac yn arf er mwyn rhoi ail hamrad i Lafur.
O ba fodd y cwymp y cedyrn - nid tymor o obaith ac adnewyddu oedd y gwanwyn i'r Ceidwadwyr yn hytrach dwysau wnaeth y rhwygiadau ynghylch Ewrop a phrin yw'r Gymraeg rhwng David Cameron ac Andrew RT Davies ynghylch y pwnc erbyn hyn.
Yna cafwyd cawlach o gyllideb ac ymadawiad disymwth yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau, Iain Duncan Smith i ddyfroedd stormus.
Dyma ni felly ar drothwy'r etholiad - etholiad yr oedd y Ceidwadwyr yn gobeithio ei fframio fel ras dau geffyl rhyngddyn nhw a Llafur.
Yn lle hynny yn ôl yr arolygon diweddaraf mae'r Torïaid yn cwffio a Phlaid Cymru am yr ail safle. A ddaw ethol haul ar fryn - pwy a ŵyr - ond nid hwn oedd yr etholiad yr oedd Ceidwadwyr Cymru yn ei ddeisyfu na'i ddisgwyl.