Etholiad Cymru 2016: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
- Cynyddu gwariant ar y GIG mewn termau real
- Ail-agor unedau man anafiadau ym Mae Colwyn, Dinbych-y-pysgod ac ardal Rhyl a Phrestatyn
- Rhoi cap o £400 ar gostau gofal wythnosol pobl hŷn, a gwarchod £100,000 mewn asedau cyfalaf i'r rhai mewn gofal preswyl
- Cyflwyno system o raddio ysbytai.
Prif addewidion:
- Galluogi cleifion i gael gweld meddygon teulu yn haws
- Rhoi'r un sylw i iechyd meddwl a iechyd corfforol
- Mwy o nyrsys mewn ysbytai
- Sefydlu comisiwn annibynnol i'r GIG i edrych ar ddyfodol gwasanaethau iechyd.
Prif addewidion:
- Creu cronfa driniaethau newydd ar gyfer afiechydon difrifol
- Dyblu'r arian y gall pobl hŷn ei gadw o werthu eu tŷ er mwyn mynd i gartref gofal i £50,000
- Lleihau amseroedd aros drwy "atal" ymweliadau diangen i ysbytai a meddygfeydd
- Blaenoriaethu triniaeth iechyd meddwl, cefnogaeth a gwasanaethau rhwystro.
Prif addewidion:
- Sicrhau nad oes raid i neb aros dros 28 diwrnod cyn cael diagnosis canser
- Buddsoddi yn y GIG i gwtogi amseroedd aros drwy recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ychwanegol
- Darparu gofal am ddim i'r henoed gan ddechrau trwy ddiddymu'r taliadau a godir am ofal yn y cartref a phobl â dementia dros y pum mlynedd nesaf
- Ad-drefnu'r GIG drwy integreiddio gofal cynradd, cymunedol a gofal i oedolion, a chreu rhwydwaith o ysbytai arbenigol.
Prif addewidion:
- Rhoi pwyslais ar hyrwyddo iechyd cyhoeddus a lleihau anghydraddoldeb iechyd
- Newid GIG Cymru i sicrhau ei fod yn cyrraedd anghenion y boblogaeth
- Uno gofal iechyd a gofal cymdeithasol
- Diddymu'r gwaharddiad ar drallwysiad gwaed gan ddynion sydd wedi cael rhyw gyda dynion eraill, a'u partneriaid benywaidd.
Prif addewidion:
- Ethol byrddau iechyd lleol
- Darparu nyrs arbenigol i bob claf sy'n cael diagnosis o ganser
- Cynnal adolygiad annibynnol o'r GIG i sicrhau lefelau staffio sy'n ddiogel a'r lleiafswm o staff sydd eu hangen
- Gwella gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn gofal dementia a gofal diwedd oes.