Llafur yn gwrthod gosod meini prawf ar ffioedd dysgu
- Cyhoeddwyd

Mae Carwyn Jones wedi gwrthod y syniad o osod meini prawf ariannol ar gyfer grantiau ffioedd dysgu prifysgolion yn y dyfodol.
Dyw'r prif weinidog "ddim yn cael ei ddenu" gan y cynnig o roi "symiau mawr o ddyled" ar fyfyrwyr eraill pe bai Llafur yn adennill grym wedi etholiad y Cynulliad.
Daw ei sylwadau wedi beirniadaeth o'r polisi gan y corff sy'n cynrychioli prifysgolion Cymru a'r gwrthbleidiau.
Mae disgwyl i adolygiad polisi gan yr Athro Syr Ian Diamond ddod i gasgliad erbyn mis Medi.
Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr Cymru yn talu £3,810 tuag at eu ffioedd dysgu, lle bynnag maen nhw'n astudio yn y DU.
Llywodraeth Cymru sy'n talu'r gweddill, sef hyd at £5,190 y flwyddyn.
Mae'r mater yn bwnc llosg yn yr ymgyrch cyn etholiad y Cynulliad fis Mai.
Mae cadeirydd Prifysgolion Cymru wedi dweud y dylai grantiau ffioedd dysgu gael ei ddisodli gyda grantiau yn destun prawf modd i helpu myfyrwyr tlotach.
Yn ôl yr Athro Colin Riordan, mae'r polisi yn bygwth dyfodol addysg uwch yng Nghymru oherwydd bod degau o filiynau yn mynd i goffrau prifysgolion Lloegr.
Mewn cyfweliad â BBC Wales Today, dywedodd Mr Jones: "Nid gosod meini prawf ydi'r ffordd yr ydym yn mynd gyda hyn.
"Byddwn yn edrych ar beth sydd gan adolygiad Diamond i'w ddweud, ond dwi ddim yn cael fy nenu gan y syniad o wneud beth mae Lloegr yn wneud ac mae gosod meini prawf yn rhoi swm anferth o ddyledion ar fyfyrwyr eraill.
"Beth wnawn ni ddim yw rhoi myfyrwyr Cymreig yn yr un safle â'u cyfoedion yn Lloegr. Dyna egwyddor sylfaenol o beth wnawn ni yn y dyfodol."
Pleidiau eraill
Mae'r Ceidwadwyr wedi datgan eu bwriad i ddiddymu'r cymhorthdal ffioedd yn gyfan gwbl, ond y byddan nhw'n hytrach yn talu hyd at hanner costau llety myfyrwyr prifysgol.
Fe ddywed Plaid Cymru y byddan nhw'n talu £6,000 o ffioedd blynyddol myfyrwyr os fyddan nhw'n aros yng Nghymru i astudio neu'n dychwelyd ar ôl graddio.
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, byddai'r blaid yn cael gwared â'r Grant Ffïoedd Myfyrwyr gan sefydlu grant cynhaliaeth newydd, tra bod UKIP o blaid torri ffioedd dysgu.