Pôl etholiad y Cynulliad: Brwydr am ail y tu ôl i Lafur

  • Cyhoeddwyd
Senedd

Mae canlyniadau pôl piniwn cyntaf ymgyrch etholiad y Cynulliad yn awgrymu bod brwydr agos rhwng dwy blaid am yr ail safle, ar ôl y blaid Lafur.

Yn ôl canlyniadau'r pôl gan YouGov i ITV Cymru, mae Plaid Cymru ar y blaen i'r Ceidwadwyr yn nifer y pleidleisiau etholaethol, gydag UKIP yn agosau at y ddwy blaid.

Mae'r Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd yn darogan y bydd Llafur yn methu a chipio mwyafrif, gan sicrhau 28 o seddi ar sail canlyniadau'r pôl.

Mae hefyd yn darogan y bydd Plaid Cymru'n ennill 12 sedd, gyda 10 sedd yn mynd i'r Ceidwadwyr, wyth i UKIP a dwy sedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ar sail pleidleisiau etholaeth, mae'r data yn awgrymu bod cefnogaeth y blaid Lafur yn 35% (cynnydd o un pwynt ers mis Mawrth), gyda Plaid Cymru ar 21% (dim newid), y Ceidwadwyr ar 19% (gostyngiad o dri phwynt), UKIP ar 17% (cynnydd o ddau), y Democratiaid Rhyddfrydol ar 6% (dim newid) a'r gweddill ar 3% (dim newid).

Rhestr ranbarthol

O ran y rhestr ranbarthol, lle mae 20 allan o'r 60 Aelod Cynulliad yn cael eu dewis ar sail ffurf o gynrychiolaeth gyfrannol, mae'r ymchwil yn dangos bod y blaid Lafur ar 31% (dim newid), y Ceidwadwyr ar 20% (gostyngiad o ddau bwynt), Plaid Cymru ar 20% (gostyngiad o ddau bwynt), UKIP ar 16% (cynnydd o 2 bwynt), y Democratiaid Rhyddfrydol ar 5% (dim newid), y Blaid Werdd ar 4% (dim newid) a'r gweddill ar 3% (dim newid).

"Rydym yn gweld cynnydd bychan yng nghryfder y gefnogaeth i Lafur, ac ychydig mwy i UKIP ers ein pôl piniwn diwethaf," meddai'r Athro Scully.

"Ond y newid mwyaf yw'r gostyngiad yn y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr - ac un sy'n adeiladu ar y gostyngiad pellach yn ein pôl barometer o fis Chwefror o'r 23% yr oedd y blaid yn ei fwynhau ym mis Rhagfyr."

Dywedodd hefyd bod y gefnogaeth i'r blaid Lafur yn "fyr iawn" o'r lle yr oedd cyn etholiad 2011, ond ychwanegodd bod gan y blaid "fantais fawr" o achos "natur ranedig y gwrthwynebiad".