Etholiad: Y Blaid Werdd yn addo 'creu hanes'

  • Cyhoeddwyd
Alice Hooker-Stroud
Disgrifiad o’r llun,
Alice Hooker Stroud yw arweinydd y blaid yng Nghymru

Mae'r Blaid Werdd yn addo "creu hanes" wrth iddi lansio ei maniffesto ar gyfer y Cynulliad yn ddiweddarach.

Mae'r blaid wedi nodi chwe pholisi y mae'n credu sy'n hanfodol mewn ymgais i gipio ei sedd gyntaf yn y Senedd yn etholiad mis Mai.

Mae'r polisiau'n cynnwys adeiladu 12,000 o dai fforddiadwy newydd y flwyddyn, cael gwared ar ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru a chreu cyswllt rheilffordd rhwng y gogledd a'r de.

Bydd manylion y polisiau'n cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach, ac fe fydd y polisiau'n gwireddu gobeithion y blaid o greu economi decach, cymunedau bywiog, addysg am ddim i bawb, tai fforddiadwy, gwasanaeth iechyd cyhoeddus i bawb ymhob man, a chysylltiadau gwell drwy Gymru.

Dywedodd Caroline Lucas, unig aelod seneddol y blaid, fod y Gwyrddion am "ysgwyd y Senedd" wedi'r etholiad ym mis Mai.

Mae rhai manylion am bolisiau'r blaid wedi eu cyhoeddi'n barod yn cynnwys y farn ar ffioedd dysgu.

Dywedodd dirprwy arweinydd y blaid, Amelia Womack, wrth raglen Sunday Politics Wales BBC Cymru na fyddai'n rhaid i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yng Nghymru'n gorfod talu ffioedd dysgu os byddai'r blaid yn ennill grym yn etholiad y Cynulliad.