Ymgeisydd Llafur: 'Posib bydd toriad i grantiau myfyrwyr'

  • Cyhoeddwyd
myfyrwyr

Mae ymgeisydd Llafur yn etholiad y Cynulliad wedi cyfaddef y gallai'r gefnogaeth sy'n cael ei roi i fyfyrwyr prifysgol gael ei thorri.

Ond ychwanegodd Julie James, oedd yn ddirprwy weinidog sgiliau i Lywodraeth Cymru, y bydd myfyrwyr o Gymru "bob amser yn cael eu cefnogi yn well" na'r rhai mewn mannau eraill yn y DU.

O dan y system bresennol, mae myfyrwyr yn derbyn grant blynyddol ar gyfer eu ffioedd dysgu sy'n werth hyd at £5,190.

Mae disgwyl i adolygiad o'r system gan yr Athro Ian Diamond adrodd yn ôl yn ddiweddarach eleni.

Ddydd Gwener, dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones, wrth BBC Cymru fod torri'r grant i lai na £5,000 "ddim yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno ar hyn o bryd".

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Julie James bod "newidiadau cynnil" yn bosib

Dywedodd Julie James wrth BBC Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i barhau â'n polisi presennol hyd nes i'r Athro Diamond adrodd yn yr hydref.

"Ac yna rydym yn ymrwymedig i bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar ôl hynny, gyda'r ymrwymiad y bydd myfyrwyr o Gymru bob amser yn cael eu cefnogi yn well na'u cymheiriaid mewn mannau eraill.

"Efallai y bydd newidiadau cynnil.

"Nid ydym yn ymrwymo i £5,000 gan y gallai hynny fynd i fyny neu i lawr yn dibynnu ar yr hyn y bydd yr Athro Diamond yn ei ddweud."

Pleidiau eraill

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig am gael gwared ar grantiau ffioedd dysgu, ond maen nhw am dalu hanner costau rhent myfyrwyr.

Byddai Plaid Cymru yn lleihau dyled myfyrwyr sy'n aros i weithio yng Nghymru ar ôl graddio o £6,000, os yw'r blaid mewn grym.

Polisi'r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai i roi grant costau byw i fyfyrwyr yn hytrach na grant ffioedd dysgu, tra bod UKIP wedi dweud eu bod am dorri costau dysgu.

Mae'r Blaid Werdd wedi galw am addysg prifysgol am ddim ar draws y DU.