Etholiad y Cynulliad: Her i ddiogelu gwariant ar addysg
- Cyhoeddwyd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi herio'r pleidiau eraill i efelychu eu haddewid i ddiogelu gwariant ar addysg.
Honnodd eu harweinydd, Kirsty Williams, mai ei phlaid hi yw'r unig un i wneud addewid o'r fath cyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn anelu at dorri maint dosbarthiadau babanod a rhoi mwy o arian i ysgolion ar gyfer disgyblion o gefndir tlotach.
Dywedodd Ms Williams bod ei phlaid wedi gwrando ar bryderon rhieni gan ychwanegu ei bod yn amser i'r pleidiau eraill ddilyn.
'Dechrau teg'
"Os ydych yn gwerthfawrogi pwysigrwydd addysg, yna ni yw'r blaid i chi," meddai cyn ymweld ag ysgol yng Nghaerdydd ddydd Iau.
"Mae'r pum mlynedd diwethaf wedi dangos mai ni yw plaid addysg: ni yw'r unig blaid i flaenoriaethu addysg mewn trafodaethau cyllidebol, sydd wedi sicrhau dros £282m ar gyfer ein hysgolion drwy ein Premiwm Disgybl.
"Rydym yn cydnabod bod addysg yn hanfodol bwysig i sicrhau bod pawb yn cael dechrau teg mewn bywyd, ac er mwyn inni gael economi yn seiliedig ar sgiliau da.
"Dyna pam y byddwn yn clustnodi gwariant ar addysg: ar gyfer ysgolion ac addysg uwch".
Mae Llafur Cymru yn addo £100m ychwanegol i wella safonau mewn ysgolion, ac i greu 100,000 o brentisiaethau "i bobl o bob oed".
Byddai'r Ceidwadwyr Cymru yn rhoi £150 miliwn o gyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion ac yn trawsnewid hyfforddiant athrawon.
Mae Plaid Cymru yn dweud y bydden nhw'n creu 50,000 o brentisiaethau ychwanegol, ac yn anelu i roi hwb i ansawdd yr addysgu drwy dalu premiwm blynyddol o 10% i athrawon gyda sgiliau ychwanegol.
Galw y mae UKIP am ddatblygu ysgolion gramadeg a galwedigaethol, gan honni y byddant yn helpu pobl ifanc abl o gefndiroedd tlotach.
Straeon perthnasol
- 21 Mawrth 2016
- 22 Chwefror 2016