Comisiynydd: Elis-Thomas yn cefnogi ymgeisydd Llafur

  • Cyhoeddwyd
Elis Thomas
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas bod rôl y comisiynydd yn hynod o bwysig

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru wedi annog pleidleiswyr i fwrw un o'u dwy bleidlais i ymgeisydd Llafur wrth ethol Comisiynydd Heddlu a Throsedd nesaf gogledd Cymru.

Dywedodd bod angen i etholwyr Plaid, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol "atal UKIP" drwy roi un o'r ddwy bleidlais y mae pob etholwr yn eu cael i Lafur. Yn yr etholiad, mae pawb sy'n pleidleisio yn cael dewis cyntaf ac ail ddewis ar gyfer y comisiynydd nesaf.

Mae'r etholiad yn digwydd ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad ar 5 Mai.

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud nad oes neb yn fwy cymwys ar gyfer y swydd na'u hymgeisydd nhw, Arfon Jones.

Etholiad 'hollbwysig'

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, sy'n ceisio cael ei ail-ethol i'r cynulliad, y byddai'n defnyddio ei ail ddewis i bleidleisio dros ymgeisydd Heddlu a Throsedd Llafur, David Taylor.

Ymgeisydd Plaid yw Arfon Jones, cyn arolygydd gyda'r heddlu ac aelod o gyngor Wrecsam.

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau gan Mr Taylor, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Rydw i'n credu bod angen i etholwyr gogledd Cymru feddwl yn dactegol ar gyfer y comisiynydd heddlu a throsedd, er mwyn atal UKIP.

"Mae rôl y comisiynydd, sy'n weddol newydd, yn ofnadwy o bwysig o ran rhoi atebolrwydd ddemocrataidd i mewn i heddlua yma yng ngogledd Cymru.

"Mae'n hollbwysig felly nad yw'r etholiad yma yn cael ei heffeithio gan y bleidlais i UKIP ar gyfer y cynulliad ar yr un diwrnod."

Disgrifiad o’r llun,
David Taylor yw ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholiad

Ychwanegodd: "Dyna pam fy mod yn galw ar holl gefnogwyr Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar draws gogledd Cymru i roi eu dewis cyntaf neu ail ddewis i bleidleisio am David Taylor o Lafur ar ddiwrnod yr etholiad, er mwyn atal UKIP rhag manteisio."

Ymateb Plaid Cymru

Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones: "Fel cyn arolygydd heddlu mae Arfon Jones yn deall plismona a bydd yn gweithio gyda heddweision a'r cyhoedd i gyflawni ar ran cymunedau.

"Cafodd Arfon ei eni yng Ngwynedd, mae wedi gweithio ar draws y rhanbarth ac mae nawr yn byw ac yn gynghorydd yn Wrecsam.

"Mae ei gymwysterau heb eu hail, ac rwy'n falch o roi fy nghefnogaeth lwyr iddo."

Yn natganiad Plaid Cymru mae ffigyrau amlwg eraill - gan gynnwys yr Aelodau Seneddol Hywel Williams a Liz Saville Roberts a chyn AS Dwyfor Meirionydd Elfyn Llwyd yn rhoi cefnogaeth i Mr Jones, ac fe ymatebodd yntau drwy ddweud:

"Rwyf wrth fy modd o dderbyn cefnogaeth calonog gan gynrychiolwyr Plaid Cymru ar draws gogledd Cymru."

Doedd dim sôn yn y datganiad am sylwadau'r Arglwydd Elis-Thomas.

'Egni a brwdfrydedd'

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod wedi adnabod Mr Taylor ers nifer o flynyddoedd, a'i fod yn debyg iddo'i hun gan "nad yw ofn dweud ei farn a rhoi gogledd Cymru yn gyntaf.

"Rydw i'n gwybod y byddai'n gwneud comisiynydd arbennig, gan ddod ag egni a brwdfrydedd sydd ei angen i'r rôl," meddai.

Dywedodd Mr Taylor ei fod yn "fraint" cael cefnogaeth Elis-Thomas, sy'n rhywun y mae ganddo "barch mawr tuag ato" er iddyn nhw fod yn aelodau o bleidiau gwahanol.

"Rydw i wedi ceisio cynnal ymgyrch bositif, ac rydw i wedi bod yn benderfynol o ddangos y byddwn i'n gomisiynydd i bawb yng ngogledd Cymru," meddai.

Yn ôl Nick Ramsay, ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mynwy yn etholiad y Cynulliad a llefarydd cyllid y blaid yn y Cynulliad diwethaf, mae'r Arglwydd Elis-Thomas yn iawn i ddweud ei ddweud.

Trydarodd Mr Ramsay bod Elis-Thomas yn "iawn i roi'r etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyn gwleidyddiaeth plaid" ac ychwanegodd y byddai David Taylor yn cael ei ail bleidlais ef pe bai'n byw yng ngogledd Cymru.

  • Owain Arfon Jones, Plaid Cymru
  • Julian Sandham, Annibynnol
  • David Taylor, Llafur Cymru
  • Simon Wall, UKIP Cymru
  • Matt Wright, Ceidwadwyr Cymreig