Llygad craff ar Wrecsam yn Etholiad 2016

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam

Fel tîm pêl-droed enwog y dref, coch yw lliw gwleidyddol Wrecsam.

Oni bai am ffrae rhwng y Blaid Lafur ac un o'i chyn-aelodau, fe fyddai wedi bod yn goch yn ddi-dor ers datganoli yn 1999.

Rhai blynyddoedd yn ôl, cafodd Llafur eu gwthio i'r ail safle gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Wrecsam, ond nawr, plaid arall - y Ceidwadwyr - sy'n herio Llafur am gefnogaeth yr etholwyr yn nhre' fwyaf gogledd Cymru.

Y cyn-Aelod Seneddol Llafur, John Marek oedd Aelod Cynulliad cyntaf Wrecsam. Roedd yn gefnogwr brwd o ddatganoli, ond doedd e ddim wastad mor frwd yn ei gefnogaeth o'i blaid ei hun.

Yn dilyn ei feirniadaeth o gyngor Wrecsam dan arweinyddiaeth Llafur, collodd ei rôl fel ymgeisydd y blaid ar gyfer ail etholiad y Cynulliad yn 2003.

Dewisodd y blaid Lesley Griffiths, oedd yn arfer gweithio i Dr Marek, yn ei le, ond fe gadwodd Dr Marek ei afael ar y sedd fel ymgeisydd annibynnol.

Bu'n rhaid i Ms Griffiths aros tan 2007 i gael ail-chwarae'r gystadleuaeth. Y flwyddyn honno, fe enillodd, ac mae hi wedi cynrychioli Wrecsam yn y Cynulliad ers hynny.

Fe gefnogodd Mrs Griffiths ymgyrch Carwyn Jones i arwain Llafur yng Nghymru ar ôl i Rhodri Morgan ymddeol. Yn dilyn ei fuddugoliaeth, fe benododd Mr Jones hi i'r cabinet.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Glyndŵr
Disgrifiad o’r llun,
Fel tîm pêl-droed enwog y dref, coch yw lliw gwleidyddol Wrecsam

Rhoddodd Dr Marek gynnig arall arni yn 2011 - y tro hwnnw, fel ymgeisydd Ceidwadol. Daeth yn ail. Dyletswydd Andrew Atkinson yw hi i chwifio'r faner las eleni.

Mae'n gobeithio gwneud yn well na Dr Marek, a hynny oherwydd canlyniad yr Etholiad Cyffredinol y llynedd. Llwyddodd i gynyddu canran pleidlais y Torïaid dros chwe phwynt.

Y gwasanaeth iechyd yw'r pwnc mawr ar y stepen drws, meddai'r Ceidwadwyr. Dyna oedd sylfaen eu hymgyrch y llynedd.

Ond mae ymgyrchwyr Llafur yn dweud bod y dicter a welwyd yn rhai mannau o'r gogledd ynglŷn â newidiadau i'r gwasanaeth iechyd dros y blynyddoedd diweddar wedi cilio.

Pleidiau eraill

Dim ond 36% o etholwyr wnaeth fwrw pleidlais yma yn etholiad diwethaf y Cynulliad. Mae ffigyrau isel fel hynny yn ei wneud hyd yn oed yn anoddach i ddarogan canlyniad.

Peidiwch ag anwybyddu'r pleidiau eraill chwaith. Fe ddaeth UKIP yn drydydd yn yr etholaeth llynedd. Gall perfformiad da ganddyn nhw eleni gael effaith ar gefnogaeth y ddwy blaid fawr. Jeanette Stefani yw'r ymgeisydd yno.

Ac fe wnaeth ymgeisydd Plaid Cymru, Carrie Harper, gynyddu pleidlais y blaid llynedd. Mae hi'n sefyll eto eleni.

Hefyd yn sefyll mae Beryl Blackmore dros y Democratiaid Rhyddfrydol ac Alan Butterwoth ar ran y Blaid Werdd.