Y Blaid Werdd: Trafferthion hysbysebu
- Published
Mae'r Blaid Werdd yng Nghymru wedi gorfod rhoi'r gorau i'w hymgyrch hysbysebu "Pleidlais Werdd ar Lwyd" mewn un rhanbarth ar gyfer etholiad y Cynulliad, yn dilyn camgymeriad oedd yn golygu na fydd pleidleisiau drwy'r post ar bapur llwyd.
Mae papurau pleidleisio drwy'r post yng Ngheredigion, Preseli Penfro, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro wedi eu hail-brintio ar bapur brown golau er mwy cywiro camgymeriad yn y cyfarwyddiadau pleidleisio.
Dywedodd ffynhonnell o'r Blaid Werdd bod ymgyrch "Pleidlais Werdd ar Lwyd" y blaid - ar bamffledi a fideo - bellach yn ddiwerth o achos y newid yn lliw'r papurau pleidleisio drwy'r post.
Roedd y blaid wedi argraffu taflenni a chreu fideo ar gyfer gwefannau cymdeithasol.
Dywedodd y ffynhonnell: "Fel y gallwch ddychmygu, rydym wedi'n dychryn yn arw gan y blerwch yma.
"Rydych chi wedi gweld y ffilm yr ydym wedi ei gynhyrchu - yn ffodus dydyn ni heb ddechrau ei rhannu eto. Mae'n hollol ddiwerth bellach.
"Rydym ni hefyd wedi argraffu nifer o bamffledi newydd "Pleidlais Werdd ar Lwyd". O leiaf bydd modd i ni eu defnyddio mewn rhannau eraill o'r rhanbarth."
Dywedodd Tom Marshall, rheolwr ymgyrch y blaid yn Rhanbarth Canol a Gorllewin Cymru: "Rydym wedi ein siomi'n arw i glywed am y camgymeriad gyda'r papurau pleidleisio.
"Dyw "Pleidlais Werdd ar frown golau" ddim yn swnio'r un fath."
Dywedodd y swyddog canlyniadau rhanbarthol Mark James: "Mae'n ymddangos bod camgymeriad cyfrifiadurol gan yr argraffwyr oedd wedi paratoi papurau ar gyfer Ceredigion a Sir Benfro wedi arwain at gam-argraffiad anffodus."