Etholiad: Llygad craff ar Frycheiniog a Sir Faesyfed
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth buddugoliaeth y Ceidwadwyr yn etholaeth fwyaf Cymru yn etholiad cyffredinol y llynedd ddod a 18 mlynedd o gynrychiolaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan i ben.
Mae'r blaid wedi cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed yn y Cynulliad am 18 mlynedd hefyd - ac eleni yn wynebu'r her fwya' i geisio dal gafael ar y sedd ym Mae Caerdydd.
Arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, sydd wedi ennill y sedd yn y pedwar etholiad Cynulliad ers 1999.
Pum mlynedd yn ôl fe gollodd Ms Williams bron i hanner ei mwyafrif, wnaeth ostwng o 18.7% yn 2007 i 9.7% yn 2011.
Y Ceidwadwyr sydd wedi sicrhau'r ail safle ym mhob etholiad Cynulliad - ac mae ymgeisydd y blaid eleni yn gyfarwydd iawn ag ymgyrchu yn yr etholiad.
Yn 2011 roedd Gary Price yn ymgeisydd dros Blaid Cymru, ond erbyn hyn ef yw ymgeisydd y Ceidwadwyr.
Mae'n gobeithio efelychu llwyddiant Aelod Seneddol yr etholaeth, Chris Davies, a gipiodd y sedd seneddol gan y Democratiaid Rhyddfrydol y llynedd.
Mae'r etholaeth yn un wledig gyda chanran uwch o bobol ar gyfartaledd yn gweithio yn y diwydiant amaeth, ac mae canran uchel o fusnesau bach yn yr etholaeth sy'n cynnwys trefi Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod.
Nid y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr yn unig sy'n cystadlu am y sedd eleni - mae Alex Thomas yn sefyll ar ran Llafur, Freddy Greaves i Blaid Cymru, Thomas Turton sy'n cynrychioli UKIP a Grenville Ham yw ymgeisydd y Blaid Werdd.