Etholiad: Arweinwyr Cymru yn paratoi am ddadl fyw

  • Cyhoeddwyd
Yr arweinwyrFfynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r arweinwyr wedi wynebu ei gilydd unwaith yn barod mewn dadl ar ITV

Bydd arweinwyr y prif bleidiau gwleidyddol yn mynd benben mewn dadl fyw nos Fercher, a hynny ychydig dros wythnos cyn etholiad y Cynulliad.

Dyma'r ail dro i'r chwech wynebu ei gilydd ar ôl cymryd rhan mewn dadl ar ITV Cymru nos Fercher diwethaf.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Plaid Cymru, Llafur Cymru, UKIP Cymru a Phlaid Werdd Cymru yn cymryd rhan.

Huw Edwards fydd yn cyflwyno'r rhaglen yn fyw o Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd am 20:30.

Yn nadl ITV, canolbwyntiodd yr arweinwyr ar y diwydiant dur, ysgolion a'r Gwasanaeth Iechyd, ac mae disgwyl i'r materion hyn fod yn rhan amlwg yn y ddadl hon, wyth diwrnod cyn y pleidleisio.

Yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd ddydd Llun, mae Llafur ymhell ar y blaen i'r pleidiau eraill, ond mae ei chefnogaeth wedi gostwng i'w lefel isaf ers cyn etholiad cyffredinol 2010.

Dywedodd Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, Mark O'Callaghan: "Rwy'n gobeithio y bydd pawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr economi, y gwasanaeth iechyd ac addysg yng Nghymru yn gwylio ein dadl fawr am etholiad y Cynulliad ddydd Mercher.

"Mae'n un o adegau allweddol ein hymgyrch ac mae'n addo bod yn ornest diddorol rhwng arweinwyr y pleidiau yng Nghymru."

Pwy yw'r arweinwyr?

  • Kirsty Williams - Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
  • Leanne Wood - Plaid Cymru
  • Carwyn Jones - Llafur Cymru
  • Andrew RT Davies - Ceidwadwyr Cymreig
  • Nathan Gill - UKIP Cymru
  • Alice Hooker-Stroud - Plaid Werdd Cymru

Beth yw'r fformat?

Mae'r arweinwyr eisoes wedi tynnu enwau o'r het i benderfynu lle byddant yn sefyll, a threfn eu datganiadau agoriadol, fydd tua 45 eiliad yr un.

Bydd Alice Hooker-Stroud yn siarad yn gyntaf, ac yna Carwyn Jones, Leanne Wood, Nathan Gill, Kirsty Williams ac yn olaf Andrew RT Davies.

Yna bydd y cyntaf o bedwar, os yw amser yn caniatáu. o brif gwestiynau gan y gynulleidfa.

Drwy gydol y rhaglen, bydd arweinwyr yn cael cyfle i ymateb i'r cwestiwn cyntaf ar bob maes cyn i Huw Edwards ofyn cwestiwn atodol, neu'n troi at y gynulleidfa ar gyfer cwestiwn dilynol.

Y meysydd allweddol i'w trafod yw iechyd, yr economi, addysg a dyfodol datganoli yng Nghymru, yn y drefn honno.