Mwy o bobl ifanc am bleidleisio y tro yma?

  • Cyhoeddwyd
CroesFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'r ymgyrchu ar gyfer etholiad y Cynulliad ar fin dod i ben, y drysau wedi eu cnocio a'r pamffledi wedi eu hanfon.

Felly beth yw barn un ferch 20 oed sydd hefyd yn llysgennad Prydain ar gyfer pobl ifanc am yr wythnosau diwethaf?

Mae Arroj Khan yn dweud bod yr ymgyrch eleni wedi bod yn "actif iawn" a bod ei ffrindiau wir wedi cymryd diddordeb gan hyd yn oed wneud gwaith ymchwil eu hunain.

"Mae llawer o bobl wedi dod i'r casgliad bod nhw angen edrych ar y polisïau, y small print i wneud yn siŵr bod nhw ddim jest yn pleidleisio am blaid oherwydd bod eu teulu nhw yn pleidleisio (iddi)."

Mae'n cofio sylwi yn blentyn bod hyn yn digwydd yn aml ond mae'n dweud bod pethau wedi newid erbyn hyn.

Ond nid dim ond am fod pobl ifanc eisiau dod i gasgliadau eu hunain maen nhw'n darllen polisïau'r pleidiau ar gyfer yr etholiad meddai.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Arroj yn credu y bydd mwy o bobl ifanc yn pleidleisio eleni

Yn ôl Arroj mae'r straeon newyddion yn y wasg Brydeinig fel y stori am bapurau Panama hefyd wedi dylanwadu ar ei chyfoedion.

Papurau sydd wedi arwain at honiadau bod llawer o bobl gyfoethog yn osgoi talu trethi ac yn twyllo yn ariannol yw'r rhain. Cafodd y dogfennau cyfrinachol eu rhannu gyda'r wasg ac mae enwau rhai sy'n gysylltiedig â'r byd gwleidyddol ar draws y byd yn y papurau.

Mae'r stori wedi gwneud iddi hi fod yn fwy sinigaidd am wleidyddion. "Chi ddim yn gwybod os chi'n gallu ymddiried ynddyn nhw a dweud y gwir oherwydd papurau Panama a phethe sydd wedi dod allan."

Mae'n dweud mai esiampl ddiweddar yw'r Ysgrifennydd Iechyd yn Lloegr, Jeremy Hunt a hynny am fod Llywodraeth San Steffan wedi cyflwyno cytundeb newydd i ddoctoriaid yn Lloegr, cytundeb sydd wedi cael ei wrthwynebu gan Gymdeithas Feddygol y BMA.

"Mae e yn wynebu backlash mawr," meddai.

Er mai etholiad ar gyfer Aelodau Cynulliad yw hwn mae'n dweud bod yr hyn sydd yn digwydd dros y ffin yn bwysig i bobl ifanc.

"Yn y diwedd mae'r pleidiau yn dilyn polisïau neu amcanion sydd yn cael eu dynodi gan bob plaid ac mi fydd yr arweinwyr yng Nghymru yn dilyn beth sydd yn cael ei ddweud yn Lloegr ac yn San Steffan. Ni ddim mor wahanol, ni dal dan y faner Cymru a Lloegr."

Y rheswm arall meddai yw bod proffil gwleidyddion San Steffan yn llawer uwch na rhai Cymru.

Er hynny mae'n dweud bod yna drawstoriad o bobl yr un oed a hi wedi bod yn ymgyrchu yn yr etholiad ar 5 Mai ac weithiau i drio dwyn perswâd ar unigolion i beidio pleidleisio am blaid benodol. Ac mae'n grediniol y bydd mwy yn dewis pleidleisio y tro yma.

"Ni angen rhoi ein hunain ar yr agenda, ni eisiau gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ac mae gan Gymru'r grym i wneud hyn. Ni wedi sylweddoli hyn. Mae pobl yn deall y neges a fi'n meddwl y bydd pobl yn pleidleisio."

Mae Arroj Khan yn un o Gymry Ifanc 2016 sydd yn cynnwys 50 o bobl ifanc dan 25 oed, sydd â safbwyntiau amrywiol, ac sy'n gymwys i bleidleisio yn Etholiad y Cynulliad 2016.

Maen nhw wedi bod yn cyfrannu i raglenni a gwasanaethau digidol y BBC ar ystod o bynciau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ym mis Mai.