Helpu pobl i brynu tŷ: addewid y Democratiaid Rhyddfrydol
- Cyhoeddwyd

Fe fyddai dymuniad pobl i brynu cartrefi eu hunain yn cael ei gefnogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol pe bai'r mewn grym wedi etholiadau'r Cynulliad, meddai arweinydd y blaid.
Yn ddiweddarach ddydd Gwener, fe fydd Kirsty Williams yn hybu cynlluniau i wneud o leiaf 2,500 o dai yn rhai fydd ar gael i bobl sydd yn prynu am y tro cyntaf.
O dan y cynllun, bydd pobl fydd yn prynu eu tai yn raddol, yn ennill cyfrannau yn y tŷ trwy daliadau misol, fydd yn gyfwerth i rent tan eu bod yn prynu'r eiddo cyfan ar ôl 30 mlynedd.
"Os allwch chi fforddio eich rhent, yna mi fyddwn ni yn eich helpu i brynu eich tŷ eich hun," meddai Ms Williams.
Mae'r pleidiau gwleidyddol i gyd yn canolbwyntio ar eu prif negeseuon wrth i 5 Mai agosáu.
Ychwanegodd Ms Williams: "Am amser rhy hir, dyw Cymru ddim wedi cael ei gweld fel lle i bobl ifanc wireddu eu breuddwydion ac uchelgeisiau.
"Dan ein cynlluniau does dim ots beth yw eich cefndir neu amgylchiadau teuluol.
"Os allwch chi fforddio talu eich rhent yna mi fyddwn ni yn eich helpu i brynu eich cartref eich hun- rhywbeth y mae rhan fwyaf ohonom ni yn breuddwydio am wneud."