Farage: UKIP i ennill pum sedd Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd plaid UKIP, Nigel Farage, wedi dweud ei fod yn disgwyl y bydd pum ymgeisydd UKIP cael eu hethol yn dilyn etholiad y Cynulliad ddydd Iau.
Dyw'r blaid heb ennill sedd i'r Cynulliad erioed o'r blaen ond mae arolygon barn yn awgrymu y bydd yn llwyddo i gipio seddi y tro hwn.
Ym mis Chwefror, awgrymodd dirprwy arweinydd y blaid, Paul Nuttall, y gallai'r blaid gipio naw sedd ac fe ddywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, by byddai cipio 10 sedd yn ganlyniad da.
Dywedodd Nigel Farage wrth raglen Daily Politics y BBC ddydd Mawrth: "Fe nawn ni ennill pum sedd. Rwy'n meddwl y gwnawn ni ennill pum sedd ac fe allen ni wneud yn well na hyn.
"Dydyn ni heb ennill sedd yn y Cynulliad o'r blaen, felly mae'n golygu torri tir newydd yng Nghymru, ac nid dim ond yng Nghymru."
Mae disgwyl i Mr Farage ymweld â de Cymru'n ddiweddarach dydd Mawrth.