Hamilton am gael arwain UKIP ym Mae Caerdydd
- Published
Mae disgwyl y bydd Neil Hamilton yn herio Nathan Gill wrth i UKIP benderfynu pwy fydd arweinydd y grŵp yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Mr Gill yw arweinydd y blaid yng Nghymru, ond yn ôl rheolau UKIP fe allai unigolyn arall fod yn arweinydd yn y Cynulliad.
Roedd Mr Hamilton a Mr Gill ymhlith saith aelod newydd o UKIP gafodd eu hethol i'r Senedd ym Mae Caerdydd yn dilyn etholiad 5 Mai.
Fe wnaeth pedwar o'r aelodau newydd - Gareth Bennett, Mark Reckless, David Rowlands a Mr Gill - dyngu llw ddydd Sadwrn.
Yn ôl ffynonellau o fewn y blaid, mae disgwyl i Mr Hamilton wneud cais am arweinyddiaeth y grŵp ddydd Mawrth.
Ddydd Sadwrn dywedodd Mr Hamilton ar BBC Radio Wales y bydd y grŵp o saith aelod newydd yn penderfynu pwy fydd yr arweinydd rhywbryd yr wythnos nesa.
Dewis arweinydd
Dywedodd Mr Hamilton, sy'n gyn AS Ceidwadol, nad yw'n dilyn mai arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill, fydd yn cael ei ddewis yn awtomatig fel arweinydd y grŵp yn y Cynulliad.
Dywedodd fod yna nifer o fewn y grŵp gyda'r sgiliau angenrheidiol.
Cafodd Mr Gill ei benodi yn arweinydd UKIP Cymru, gan Nigel Farage yn 2014.
"Rydym am gael trafodaeth o'r holl grŵp a byddwn yn dod i benderfynu pwy sy'n debyg o fod yr arweinydd mwyaf effeithiol yn y Cynulliad," meddai Mr Hamilton.
Pan ofynnwyd iddo a'i ef fyddai'r arweinydd gorau, dywedodd:
"Mae gennyf lawer o brofiad seneddol ac felly hefyd Mark Reckless, rwyf wedi bod yn ymwneud a gwleidyddiaeth am amser hir ar lefel eithaf uchel, ac mae yna dnifer o bobl yn UKIP sydd a'r math o sgiliau fyddai'n fanteisiol i arweinydd.
"Ond dwi ddim am ragdybio'r trafodaethau fyddwn yn eu cael, mae'n debyg ar ddydd Mawrth. "
Dywed ffynhonnell yn agos i Mr Gill ei fod o'n ffyddiog y byddai'n derbyn cefnogaeth mwyafrif yr ACau pan fydd yn cynnig ei hun fel arweinydd yr wythnos nesaf.
Ceidwadwyr
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn treulio'r penwythnos yn paratoi i ffurfio gweinyddiaeth newydd, ar ôl i'r Blaid Lafur ennill 29 o'r 60 sedd.
Mae disgwyl i'r Cynulliad gwrdd am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.
Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal ymhlith y pleidiau ynglŷn â phenodi llywydd a dirprwy lywydd newydd.
Bydd y grŵp Ceidwadol yn cyfarfod ddydd Llun i drafod strategaeth, ar ôl etholiad siomedig dan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
Fe fethodd y blaid ag ennill unrhyw seddi targed gan gwympo i'r trydydd safle yn y Cynulliad tu ôl i Blaid Cymru.
Dywedodd AC Mynwy, Nick Ramsay: "Ni allai problemau'r Ceidwadwyr gael eu brwsio o dan y bwrdd, ac mae angen trafod yr arweinyddiaeth."
Ond mae Mr Ramsay yn cefnogi Mr Davies ar ôl yr hyn a elwir yn ymgyrch "anodd".
Yn y cyfamser, disgrifiodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yr ymgyrch fel un "cadarnhaol" ac "uchelgeisiol" gyda "syniadau gwych" yn cael eu trafod.
"Rydym wedi profi y gallwn herio mewn seddi allweddol erbyn y tro nesaf."
Dywedodd AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth y byddai ei blaid yn "adeiladol ond yn chwarae rhan allweddol wrth fod yn wrthblaid gref" i Lafur.
"Fe fyddwn yn defnyddio y cyfle yn ddoeth i gynnig gweledigaeth i Gymru sydd yr un mor glir nawr ac yr oedd o y diwrnod cyn yr etholiad."
Plaid Cymru yw'r gwrthblaid swyddogol ar ôl iddynt sicrhau 12 sedd o'i gymharu â 11 i'r Ceidwadwyr.