Rhaid torri rheolaeth Llafur ar gynghorau, medd AC UKIP

  • Cyhoeddwyd
UKIPFfynhonnell y llun, AFP

Mae Llafur wedi bod yn ei chael hi'n "llawer rhy hawdd" mewn cynghorau ar draws Cymru ac mae angen torri "cnewyllyn" eu rheolaeth, yn ôl un o ACau UKIP.

Dywedodd David Rowlands y byddai ei blaid yn gweithio gyda "phwy bynnag rydyn ni'n teimlo sydd â pholisïau sy'n cyd-fynd â'n rhai ni".

Mae gan y blaid 80 o ymgeiswyr ar draws 14 awdurdod lleol yng Nghymru yn yr etholiadau cyngor eleni.

Er nad yw'r blaid yn gallu ennill grym yn yr ardaloedd maen nhw'n ei gystadlu, maen nhw'n gobeithio y gallan nhw ddal y balans pŵer mewn rhai.

'Llafur yn arglwyddiaethu'

Neges UKIP yw bod pleidlais dros y blaid yn golygu torri'n rhydd o'r system bresennol, ac na fydd eu cynghorwyr yn ufuddhau chwip pleidiol ond yn hytrach yn cynrychioli etholwyr fel maen nhw'n ei ddymuno.

Mae Llafur ar hyn o bryd yn rheoli 10 o'r 22 awdurdod yng Nghymru, pob un yn y de, ac mae UKIP yn sefyll yn rhai o'r ardaloedd hynny.

Yn ôl UKIP, mae gwasanaethau cyngor dan straen oherwydd mewnfudo ac maen nhw'n dweud y bydden nhw'n rhwystro gorddatblygu yng nghefn gwlad, amddiffyn pensiynwyr a gofalu am gyn-filwyr.

"Mae Llafur wedi arglwyddiaethu ar lywodraeth leol am rhy hir bellach," meddai Mr Rowlands, AC dros ranbarth Dwyrain De Cymru.

"Dydyn nhw heb wneud dim, yn enwedig yn nhrefi'r cymoedd. Maen nhw wedi gadael iddyn nhw wywo."

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd David Rowlands ei ethol i'r Cynulliad y llynedd

Dywedodd y byddai UKIP yn "gweithio gyda phwy bynnag 'dyn ni'n teimlo sydd â pholisïau sy'n cyd-fynd â'n rhai ni", ac y bydden nhw'n "ceisio lleddfu rhai o'r problemau 'dyn ni'n ei gael gyda llywodraeth leol Llafur".

Ychwanegodd fod Llafur "wedi bod yn ei chael hi'n llawer rhy hawdd".

"Mae'n rhaid i ni dorri'r cnewyllyn yma o gynghorau sy'n cael eu rheoli gan Lafur."