Etholiad 2019: Pam nad yw pobl ifanc yn cael pleidleisio?

Rhai o aelodau Senedd Ieuenctid Cymru Image copyright Cynulliad
Image caption Rhai o aelodau Senedd Ieuenctid Cymru

Mae'n debyg eich bod wedi clywed bod etholiad ar y gweill.

Ac os ydych chi o dan 18 oed, fe allech chi fod yn pendroni pam na fyddwch chi'n gallu taro eich pleidlais y tro yma.

Bu cryn drafod a fydd pobl ifanc 16 oed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael pleidleisio.

Ar wahân i'r Ceidwadwyr, roedd pleidiau gwleidyddol fel Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP a Phlaid Cymru oll o blaid gostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn yr etholiad diwethaf yn 2017.

Mae'r Blaid Lafur hefyd wedi dweud y byddan nhw'n rhoi cyfle i rai 16 oed bleidleisio mewn refferendwm arall ynghylch Brexit os mai nhw fydd yn llywodraethu.

Ond ar ôl pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin, ni fydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu rhoi croes yn y bocs yn yr etholiad hwn wedi'r cyfan.

Mae un rhan o'r DU yn caniatáu i bobl ifanc o dan 18 oed bleidleisio.

Yn Yr Alban fe wnaethon nhw bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth 2014 a gallan nhw bleidleisio nawr mewn etholiadau lleol ac etholiadau senedd Yr Alban.

Y tro diwethaf y cafwyd sôn am etholiad, ym mis Medi, gwnaeth bron i 200,000 o bobl gais i gofrestru i bleidleisio o fewn 72 awr - gyda dros hanner o dan 35 oed.

Pam na fydd pobl ifanc yn gallu pleidleisio?

Does dim digon o amser i ostwng yr oedran pleidleisio y tro hwn, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol - y corff sy'n goruchwylio etholiadau yn y DU - byddai'n cymryd chwe mis i sicrhau y gallai grŵp newydd o bleidleiswyr fod yn gofrestredig ac yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad.

Image copyright Getty Images
Image caption Am fod yr etholiad yn digwydd o fewn ychydig wythnosau fydd dim pleidlais i rai o dan 18, medd Jo Swinson

Dyna'r cyngor maen nhw wedi'i roi i Gymru - sydd wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad.

Mae Plaid Cymru yn un o'r pleidiau sydd o blaid gostwng yr oedran yng Nghymru ond hefyd yn San Steffan gan ddweud nad yw yn unig y "peth iawn i'w wneud, ond hefyd oherwydd byddai'n llesol iawn o ran cynyddu cyfranogiad pobl ifanc â gwleidyddiaeth".

Ar hyn o bryd yr oedran pleidleisio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw 18 oed.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson, fod y "pwysau amser" sy'n gysylltiedig â chael etholiad sydyn yn golygu nad oedden nhw'n gallu pwyso am ymestyn yr oed pleidleisio i 16 oed.

A gyda'r Blaid Geidwadol, sydd â'r nifer fwyaf o ASau, yn gwrthwynebu cefnogi pleidleisio'n 16 oed, roedd hi'n annhebygol y byddai digon o bleidleisiau yn y Senedd i ostwng yr oedran.

Yn ôl Swyddfa'r Cabinet - adran y llywodraeth sy'n cefnogi'r Prif Weinidog - ni fydd yr oedran pleidleisio'n newid.

"Mae 18 oed yn cael ei gydnabod yn eang fel yr oedran y mae rhywun yn troi'n oedolyn," meddai llefarydd.

"Dylai hawliau dinasyddiaeth lawn - o yfed i ysmygu i bleidleisio - ddod pan fydd rhywun yn oedolyn.

"Yr hyn sy'n holl bwysig yw ein bod ni'n addysgu pobl o oedran iau am ddemocratiaeth ac yn rhoi'r hyder a'r brwdfrydedd iddyn nhw gymryd rhan pan maen nhw'n 18 oed."

Pwy allai elwa?

Hyd yn oed os na all pobl ifanc 16 oed bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol yma, gyda chefnogaeth Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r SNP, nid yw'n golygu na fydd yn digwydd yn y dyfodol.

Dywedodd Uned Ymchwil Gwleidyddol y BBC: "Nid oes unrhyw batrymau pleidleisio pendant ond ar sail pleidleisiau cyson eraill, mae pobl ifanc 18-24 oed yn fwy tebygol o gefnogi Llafur, y Gwyrddion a'r SNP, felly mae'n rhagdybiaeth deg i ddweud y byddai hynny'n wir yn achos pobl ifanc 16 a 17 oed."

Image copyright Getty Images
Image caption Mae pobl ifanc eisiau i'w lleisiau gael eu clywed medd Liz Truss

Ond dywedodd Liz Truss - yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol - yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol ym mis Medi y gall ei phlaid "gynnwys pobl ifanc".

Mae hi'n dweud bod y Ceidwadwyr yn credu "y dylai pobl reoli eu bywydau eu hunain a'u dyfodol" - fydd yn canu cloch gyda phleidleiswyr iau.

"Dyw'r genhedlaeth nesaf ddim yn hoffi cael rhywun yn dweud wrthyn nhw beth i'w wneud," meddai.

"Maen nhw eisiau penderfynu drostyn nhw eu hunain. Maen nhw am benderfynu ar eu dyfodol eu hunain."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol