Alun Cairns: 'Aros yn yr UE yn help i'r diwydiant dur'

  • Cyhoeddwyd
dur

Byddai aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn ei gwneud hi'n haws dod hyd i brynwr newydd i weithfeydd dur Tata yng Nghymru, medd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

Mae Tata wedi dweud fod gan saith bidiwr ddiddordeb prynu'r busnes yn y DU, gan gynnwys safle Port Talbot.

Mewn araith yn Abertawe, dywedodd Mr Cairns fod mynediad i farchnad yr UE yn "sylfaenol" i wneuthurwyr dur.

Ym mis Ebrill, dywedodd un o aelodau seneddol UKIP, Douglas Carswell y gallai pleidlais dros adael y UE ym mis Mehefin achub gweithfeydd dur Cymru.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r diwydiant dur yn gryfach o fewn y Undeb Ewropeaidd, medd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns

Wrth annerch arweinwyr busnes ddydd Iau, dywedodd Mr Cairns: "Er nad oes yna unrhyw sicrwydd, peidiwch ac amau bod ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn cryfhau'n fawr ein cyfleoedd o ddod o hyd i brynwr ac o amddiffyn y diwydiant."

"Mae mynediad i farchnad yr UE yn sylfaenol i unrhyw wneuthurwr dur, gyda 69% o holl allforion dur Cymru'n mynd i Ewrop y llynedd."

Rhybuddiodd Mr Cairns, petai yna bleidlais i adael yr UE, y gallai diwydiant dur Prydain wynebu tollau o'r UE: "Mae'r cydweithio sydd wedi bod ar draws Ewrop i amddiffyn ein diwydiant wedi arwain at ostyngiad yn y mewnforion dur o'r tu allan i'r Undeb.

"Rydym wedi rhoi pwysau ar y Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau gweithredu mwy cadarn a chyflymach ac mae rhagor i'w wneud o hyd."

Diwydiannau'n 'talu'r pris'

Ym mis Ebrill, honnodd Mr Carswell fod aelodaeth o'r UE yn atal y DU rhag atal mewnforion rhad o China a helpu gwneuthurwyr dur a chostau ynni.

Dywedodd: "Mae cyfarwyddiadau a rheoliadau'r UE ar danwydd ffosil wedi cynyddu costau ynni, ac mae diwydiannau trwm yn talu'r pris.

"Tra bod cynhyrchwyr China yn gwneud y gorau o gostau ynni a thanwydd rhad, mae'n rhai ni wedi saethu i fyny.

"Mae ymyrraeth yr UE yn ein marchnad ynni yn ei gwneud hi'n amhosib i'n diwydiant ni gystadlu."