Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd: Y ddadl dros adael
James Williams
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
- Published
Ym mhob refferendwm, y disgwyl yw bod dadlau ffyrnig rhwng ymgyrchwyr ar naill ochr y ddadl.
Ond y tro yma, cyn i'r cyfnod ymgyrchu ffurfiol ddechrau, roedd rhai o'r ergydion mwyaf gwaedlyd wedi cael eu taflu yn barod - hynny gan ymgyrchwyr sydd am i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd at ymgyrchwyr eraill sydd hefyd o'r un farn.
Roedd y grwpiau Vote Leave a Grassroots Out wedi cynnal rhyfel cartref, i ryw raddau, cyn i'r Comisiwn Etholiadol ddewis pwy fyddai'n arwain yr ymgyrch swyddogol dros adael - Vote Leave aeth â hi yn y diwedd.
"Y pum wythnos nesaf yw'r rhai pwysicaf falle mewn unrhyw etholiad sydd i ddod ymhen y degawdau nesaf," meddai Stefan Ryszewski, aelod o'r Blaid Geidwadol sy'n un o drefnwyr ymgyrchu Vote Leave.
"Mae'r passion gyda ni. Dyw e ddim gydag ochr arall yr ymgyrch."
Sofraniaeth a mewnfudo
Ond a fydd dadleuon yr ymgyrch dros adael yn argyhoeddi'r cyhoedd?
Yn ôl yr ymgyrchwyr hynny, sofraniaeth a mewnfudo yw rhai o'u dadleuon cryfa' - y pŵer i wneud penderfyniadau heb ymyrraeth swyddogion a gwleidyddion ar y cyfandir, a'r pŵer hefyd i gael rheolaeth lawn o'n ffiniau.
"Y cwestiwn mwyaf dwi'n gofyn i bobl - os fydden ni mas o'r Undeb Ewropeaidd nawr, a fydden ni'n pleidleisio i ymuno â'r Undeb? Mae 99% o bobl yn dweud 'Na'," meddai Stefan.
Yna mae'n sôn am un o brif sloganau Vote Leave, hynny yw bod y DU yn gwario £350m yr wythnos i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Y gwir amdani yw nad yw'r ffigwr yna'n cymryd unrhyw sylw o'r arian sy'n dod yn ôl o Frwsel bob wythnos.
Hefyd, mae'r ffigyrau'n awgrymu bod Cymru ar eu hennill o'r Undeb Ewropeaidd.
"Ond mae'r arian ry'n ni'n rhoi mewn, mae'r Undeb Ewropeaidd yn rheoli sut a lle ry'n ni'n gwario hynny," ychwanegodd Steffan.
Cefnogaeth
Felly, beth mae e'n teimlo yw gwendid mwyaf yr ymgyrch dros adael?
"Wel, y peth sy'n gryf gyda'r ymgyrch dros aros yw bod y llywodraeth yn eu cefnogi nhw," meddai, gan dynnu sylw at y taflenni sydd wedi cael eu hanfon at bob cartref gan Lywodraeth y DU yn amlinellu pam ei bod yn cefnogi pleidlais dros aros.
'Does gan yr ymgyrch dros adael ddim cefnogaeth y rhan fwyaf o wleidyddion chwaith gan fod y Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r SNP yn swyddogol yn cefnogi pleidlais i aros.
Ond yn ogystal ag UKIP, mae nifer sylweddol o Geidwadwyr hefyd yn cefnogi gadael yr Undeb, gan gynnwys ffigwr amlwg iawn - cyn-faer Llundain, Boris Johnson.
"Mae Boris Johnson gyda ffactor 'dwi heb weld mewn unrhyw wleidydd ers sbel. Mae'r ffaith 'mod i jest yn ei alw e'n Boris yn dweud cyfrolau," meddai Steffan.
"Fel Madonna?" gofynnais.
"Yn union. Falle bod y gwallt yr un peth 'fyd!"
"Felly, chi'n gwbl argyhoeddedig y bydd Cymru'n pleidleisio i adael?"
"Dwi'n meddwl y bydd pobol yn pleidleisio i adael ac yn gwneud hynny mewn niferoedd."
Cawn weld ar 23 Mehefin.
Bydd Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Carl Roberts yn edrych ar yr ymgyrch o blaid aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd mewn erthygl ar BBC Cymru Fyw ddydd Mercher.