Refferendwm UE: Y ddadl ar fewnfudo

Ymfudwyr

Efallai mai'r dinasoedd a'r trefi mawr sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn nifer y mewnfudwyr o'r tu allan i Brydain yn ddiweddar, ond mae effaith mewnfudo i'w weld mewn rhai ardaloedd gwledig hefyd, fel Dyffryn Teifi ag ardal Llanbedr Pont Steffan.

Mae Wish Gdula, 72, o Gellan ger Llanbed, wedi gweld cryn newid yn yr ardal ers i'w rieni ddod o Wlad Pwyl i ymgartefi yno ar ôl yr Ail Rhyfel Byd.

Roedd 'na gymuned Bwylaidd gref yno ar y pryd, meddai, ac erbyn heddiw, mae 'na genhedlaeth newydd wedi cyrraedd: "Mae 'na gannoedd o Bwyliaid yn byw yma bellach. Mae ardal Llanybydder fel "little Poland," meddai.

"Ond mae nhw yma am reswm gwahanol. Roedd cenhedlaeth fy nhad yn dod yma i ffoi ar ôl y rhyfel.

"Mae'r bobl sydd wedi dod draw yma nawr wedi dod i weithio, i wella eu bywydau."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Wish Gdula'n sôn am ymfudiad o Wlad Pwyl i Gymru

Mae 'na ddwy siop Bwylaidd yn Llanybydder, ac mae un yn berchen i Aneta Luzarova, 36, yn wreiddiol o Krakow.

Fel nifer fawr o bobl Bwylaidd yr ardal, fe ddaeth hi i weithio yn safle prosesi bwyd Dunbia yn y pentref.

Mae'n dal i weithio yno'n rhan amser, tra bod ganddi gynulluniau i ehangu eu busnesau.

Mae ganddi siop yn Aberystwyth hefyd, ac mae wedi dechrau gwerthu bwyd o wledydd eraill o Ddwyrain Ewrop: "Mae Dunbia yn cyflogi eithaf llawer o - nid yn unig Pwyliaid, ond pobl o genedloedd eraill hefyd," meddai.

"Mae rhai yn gweithio ar ffermydd, rhai bobl yn gweithio mewn ffatrioedd bach ar hyd y lle, nid yn Dunbia yn unig.

"Ble mae 'na waith, mae 'na bobl."

Image caption Bwydydd o Wlad Pwyl ar werth.

Yn y frwydr am bleidleisiau cyn y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd, fe honnodd yr ymgyrch dros adael y byddai aelodaeth Twrci o'r undeb yn arwain at fwy o fewnfudo i Brydain.

Yn ôl David Cameron, mae'r honiad na fydd Prydain yn gallu rhwystro Twrci rhag ymuno yn anghywir. Er bod hynny yn annhebygol o ddigwydd am ddegawdau.

Ond nid dim ond y ddwy ymgyrch sydd wedi anghytuno ar hyn - ambell waith mae 'na anghytuno o fewn un garfan.

Fis diwethaf, er enghraifft, fe ddywedodd Nigel Farage bod yr ymgyrch swyddogol dros adael - ymgyrch nad ydy e'n rhan ohoni - yn rhy amddiffynnol. Roedd yn rhaid i Dorïaid Ewro-sgeptig, fel Boris Johnson a Michael Gove, roi mwy o sylw i fewnfudo, meddai.

Yn ôl arolwg gan swyddfa ystadegau'r ONS, roedd y ganran o bobl sy'n byw yng Nghymru a gafodd eu geni y tu allan i Brydain yn 6% yn 2015 - ffigwr sydd i fyny 4%, 10 mlynedd yn gynharach.

Fe ddangosodd y cyfrifiad yn 2011 mai pobl o Wlad Pwyl oedd y ganran fwyaf, wedyn Gwyddelod a phobol o India.

Mae'r ddwy sir sy'n rhannu ffin ar hyd yr Afon Teifi wedi gweld cynnydd hefyd. Yng Ngheredigion, 6% oedd canran y bobl cafodd eu geni tramor yn 2011, tra yn Sir Gaerfyrddin, roedd yn 4%.

Mae nifer y bobl sy'n dod i Brydain pob blwyddyn 300,000 yn fwy na'r nifer sy'n gadael. Gobaith David Cameron oedd lleihau'r ffigwr yna i lai na chan mil, ond mae'r ffigwr wedi codi ers iddo osod y targed.

Mae rhai yn yr ymgyrch dros adael yn dweud ei bod hi'n amhosib cyrraedd nod Mr Cameron dan reolau'r Undeb Ewropeaidd sy'n caniatáu i bobl symud o un wlad i'r llall i fyw a gweithio.

Ond fe fyddai rhai eraill yn dweud bod y rhyddid i weithio unrhyw le yn yr undeb - hawl sydd ar gael i bobl Brydain hefyd - yn hanfodol i'r economi, yn enwedig mewn lle fel Llanybydder.