Termau poblogaidd refferendwm yr UE ar y we
- Published
'Beth yw Brexit?' yw'r cwestiwn refferendwm mae pobl Cymru wedi chwilio amdano fwyaf ar wefan Google hyd yn hyn eleni.
Fe ofynnodd y Post Cyntaf i Google beth oedd y cwestiynau mwyaf poblogaidd ynglŷn â refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2016 a dros gyfnod o saith diwrnod.
'Sut allai bleidleisio yn refferendwm yr UE?' oedd yn rhif un ar gyfer y rhestr dros gyfnod o saith diwrnod.
Rhai o'r cwestiynau eraill oedd yn y rhestr yma oedd 'Pryd mae refferendwm yr UE?', 'Sut fydd yr UE yn edrych yn 2030?' a 'Sut ddylwn i bleidleisio yn refferendwm Ewrop?'.
Rhai o'r cwestiynau yn y rhestr ar gyfer 2016 oedd 'Pa gyfreithiau mae'r UE yn gallu creu?' a 'Beth mae refferendwm yr UE yn golygu i Gymru?'
Y rhestrau llawn
Y prif gwestiynau yng Nghymru ynglŷn â refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 hyd yn hyn (1/1/16-18/5/16):
- Beth yw 'Brexit'?
- Pryd mae refferendwm yr UE?
- Sut allai bleidleisio yn refferendwm yr UE?
- Pwy all bleidleisio yn refferendwm yr UE?
- Sut allai gofrestru i bleidleisio yn refferendwm yr UE?
- Faint fyddai Cymru ar ei cholled pe byddai Brexit yn digwydd?
- Yw'r UE yn llywodraethu busnesau mawr?
- Pa gyfreithiau all yr UE greu?
- Beth yw'r polau ynglŷn â gadael yr UE?
- Beth mae refferendwm yr UE yn golygu i Gymru?
Y prif gwestiynau yng Nghymru ynglŷn â refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y saith diwrnod diwethaf (13/5/16-20/5/16):
- Sut allai bleidleisio yn refferendwm yr UE?
- Sut allai gofrestru i bleidleisio yn refferendwm yr UE?
- Beth yw 'Brexit'?
- Pryd mae refferendwm yr UE?
- Pwy all bleidleisio yn refferendwm yr UE?
- Sut ddylwn i bleidleisio yn refferendwm yr UE?
- Oes angen i fi gofrestru i bleidleisio yn refferendwm yr UE?
- Sut allai gael pleidlais bost ar gyfer refferendwm yr UE?
- Oes yna bleidlais bost ar gyfer refferendwm yr UE?
- Sut fydd yr UE yn edrych yn 2030?