Llafur: Ffrae am 'hawl i siarad' dros weithwyr Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae ffrae wedi codi rhwng dau o wleidyddion amlwg y blaid Lafur ynglŷn ag a ddylai pleidleiswyr Cymru aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd gadeirydd grŵp ymgyrchu Vote Leave, Gisela Stuart y dylai'r blaid "sefyll gyda gweithwyr Cymru" ac y bydden nhw'n llawer gwell eu byd allan o'r undeb.
Ond mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain yn dweud nad oes gan Ms Stuart, sydd yn cynrychioli etholaeth Birmingham Edgebaston, "unrhyw hawl i siarad dros bleidleiswyr Cymru".
Safbwynt swyddogol y Blaid Lafur yw cefnogi'r ymgyrch i aros yn rhan o'r UE ond mae rhai o aelodau seneddol y blaid yn gwrthwynebu.
Mewn erthygl yn y Western Mail ddydd Iau mae Ms Stuart yn dweud: "Ers i un o sefydlwyr fy mhlaid, Keir Hardie gynrhychioli etholaeth Gymreig yn Nhŷ'r Cyffredin, mae'n ddyletswydd ar wleidyddion Llafur sefyll gyda gweithwyr Cymru."
Mae Ms Stuart ar ymweliad â de Cymru ddydd Iau.
Dywedodd bod miloedd o bobl Cymru yn dibynnu ar fusnesau bach, gyda dim ond 1% o fusnesau'r DU yn gorfforaethau mawr.
"Wrth ildio rheolaeth am ein deddfau i bobl nad ydyn wedi'u hethol, pobl na allwn ni gael gwared arnynt, ac sy'n rhedeg pethau mewn ffordd sydd yn rhy aml yn fuddiol i gorfforaethau mawr, ni allwn gefnogi gweithwyr yn y modd rwy'n gwybod y gallai llywodraeth Lafur wneud," meddai.
'Dim hawl'
Ond dywedodd yr Arglwydd Hain: "Does gan Gisela mo'r hawl i siarad dros bleidleiswyr yng Nghymru pan fod pob aelod seneddol Llafur ac aelodau Llafur yn y Cynulliad wedi dod ynghyd i ddweud bod Cymru'n gryfach, yn fwy saff ac yn well wrth aros yn Ewrop."
Ychwanegodd bod llywodraeth Lafur Cymru yn "ymroddedig" i greu dyfodol yn llawn tegwch a chyfleon.
"Mae bod yn aelod o Ewrop yn ffactor bwysig i wireddu hyn," meddai.
"Byddai'n dda petai aelod seneddol Birmingham Edgebaston yn ymgyfarwyddo â realiti bywyd Cymru cyn ceisio ymyriad arall."