Europol: Cau tri rhwydwaith cam-drin plant yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr Europol, sy'n cydlynu diogelwch o fewn yr Undeb Ewropeaidd, wedi dweud fod yr asiantaeth wedi atal tri rhwydwaith yn ymwneud ag ecsploitio plant yn rhywiol yng Nghymru eleni.
Rhybyddiodd Rob Wainwright, sy'n wreiddiol o Gwm Gwendraeth, bod cael gafael ar wybodaeth a chudd-ymchwil mewn peryg os fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd byddai'n aelod eilradd fel Norwy a Gwlad yr Iâ, ac yn methu gael gafael ar fas-data Europol.
Ond mae cyn weinidog y llywodraeth, Rod Richards, yn wfftio'r honiad.
Wrth siarad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC, meddai Mr Wainwright: "O safbwynt ecsploitio plant yn rhywiol, ry' ni wedi cael cryn lwyddiant a chael gwared â rhwydweithiau o droseddwyr sy'n gweithredu arlein."
'Eilradd'
Ychwanegodd fod Europol wedi cydlynu 18 cyrch ym Mhrydain yn ymwneud â chael gwared ar rwydweithiau camdrin plant yn rhywiol, "tri ohonyn nhw yng Nghymru".
Dywedodd Mr Wainwright ei fod yn sicr y byddai Prydain dod i gytundeb i gael gwybodaeth o systemau Europol, sy'n caniatau i'r heddlu rannu gwybodaeth, petai'n dewis gadael yr UE.
Ychwanegodd: "Allai ddweud wrtho chi mor bell ag y mae Europol yn y cwestiwn, byddai Prydain fel aelod eilradd, fel mae Norwy a Gwlad yr Iâ ar y foment. Ni fyddai'n cael mynediad i'n bas-data."
Ond mae cyn weinidog y Swyddfa Gymreig a chyn swyddog cudd wybodaeth Rod Richards yn anghytuno: "Pan fo'n dod i gael gafael ar gudd wybodaeth, mae Prydain, yr Unol Daleithiau, Awstralia a Seland Newydd yn yr uwch adran o gasglu gwybodaeth gyfrin.
"Dyw gweddill Ewrop ddim yn yr un cae a ni o gwbwl.
"Felly fydden nhw ddim yn gwneud hi'n anodd i ni oherwydd bydde nhw'n gwneud hi'n anodd hefyd i'r Americaniaid a gweddill aelodau'r cytundeb y mae'n rhaid inni rannu gwybodaeth," meddai.
Bydd Sunday Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 11:35 ar ddydd Sul, 5 Mehefin.