Arolwg: Awgrym fod y ddwy ochr yn gyfartal yng Nghymru
- Published
Mae arolwg barn ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd yn awgrymu nad oes gan yr un o'r ddwy ochr fantais glir yng Nghymru.
Yn ôl yr arolwg, a gafodd ei gomisiynu gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, roedd 41% wedi awgrymu y byddan nhw'n pleidleisio o blaid aros, tra bod 41% am adael.
Dywedodd 18% nad oedden nhw'n gwybod, neu nad oedden nhw am bleidleisio o gwbl.
Yn ôl yr Athro Roger Scully, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, "mae'r arolwg yma'n awgrymu na allai'r bleidlais yng Nghymru fod yn agosach" gyda llai na phythefnos i fynd.
"Mae'r ddwy ochr yn gyfartal ar 41%," meddai.
"Er gwaethaf y ffaith fod mwyafrif y sefydliad gwleidyddol yng Nghymru yn cefnogi pleidlais i aros, mae'n edrych yn bosib iawn y gallai'r ochr i adael fod yn fuddugol yma, gyda nifer o gefnogwyr Llafur a Phlaid Cymru, mae'n ymddangos, yn bwriadu anwybyddu arweinwyr eu pleidiau a phleidleisio i adael."
YouGov oedd yn gyfrifol am gynnal yr arolwg ar-lein, ac roedden nhw wedi holi 1,017 o bobl rhwng 30 Mai a 2 Mehefin.