Ymgyrchwyr Gadael 'yn gwarantu arian yr UE i Gymru'
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sydd am i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn dweud y bydd yr arian y mae Cymru'n derbyn o Frwsel ar hyn o bryd, yn cael ei dalu gan Lywodraeth Prydain ar ôl gadael yr UE.
Mewn llythyr agored, mae sawl gweinidog Ceidwadol, gan gynnwys Michael Gove a Chris Grayling, yn dweud bod 'mwy na digon o arian' ar gael i warantu hyn.
Fis Chwefror fodd bynnag, fe ddwedodd David Cameron nad oedd sicrwydd y byddai'r arian yn dod yn ôl i Gymru.
Dywedodd y rhai sydd am weld Prydain yn aros o fewn y UE y byddai pleidlais i adael yn 'rhwygo'r sicrwydd o nawdd oddi wrth Gymru'.
Rhaglenni 'mwy effeithiol'
Yn y llythyr, mae ymgyrchwyr Leave yn dweud y byddai holl raglenni'r llywodraeth yn cael eu hariannu ar y lefelau presennol tan 2020, 'neu hyd at y dyddiad pan fydd yr UE yn bwriadu dod a rhaglenni unigol i ben'.
Maen nhw'n dweud hefyd y byddai'r rhaglenni yn cael eu rhedeg yn 'fwy effeithiol o lawer', gan rhyddhau arian ychwanegol i'w wario ar flaenoriaethau eraill.
Yn ôl astudiaeth diweddar gan Brifysgol Caerdydd, amcangyfrifwyd bod Cymru yn derbyn £245m yn fwy na'r hyn gyfrannodd i'r UE yn 2014.
Mae'r llythyr wedi ei arwyddo gan Boris Johnson, Michael Gove, Priti Patel, Chris Grayling, John Whittingdale, Iain Duncan Smith, Theresa Villiers, Julian Brazier, James Duddridge, George Eustice, Penny Mordaunt, Dominic Raab a Desmond Swayne.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies : " Mae cyhoeddiad heddiw i'w groesawu, ac yn dystiolaeth bellach y byddai Cymru yn well eu byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
"Er gwaethaf honiadau'r Prif Weinidog, gwyddom bellach y byddai cyllid ar gyfer pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, yn ddiogel os byddwn yn pleidleisio i adael.
"Mae na berygl gwirioneddol felly i bleidleisio dros aros, pan fo arweinwyr yr UE wedi gosod toriadau llym i ranbarthau ledled yr Undeb Ewropeaidd."
'Mwgwd wedi llithro'
Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru Peter Hain: "Mae'r mwgwd wedi llithro o'r diwedd - dyw hyn ddim mwy na phrosiect Boris Johnson i fod yn Brif Weinidog.
"Ond y broblem yw, nad yw Boris yn gamblo gyda'i arian ei hun - mae'n defnyddio swyddi Cymru, arian Cymru a buddsoddi yng Nghymru. Ac os bydd Boris yn ennill, bydd Cymru'n colli.
"Byddai gadael Europe yn taro'r economi, yn golygu llai o arian ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn rhwygo Cymru oddi wrth ei ffynhonnell fwyaf diogel o arian."